Pwysau gan Gynghorydd Lleol dros bedair blynedd, yn rhoi blaenoriaeth, o’r diwedd, i ddiogelwch cerddwyr ym Mhenrhyndeudraeth

Mae Cynghorydd Plaid Cymru dros Benrhyndeudraeth, Gareth Thomas, wedi derbyn newyddion y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ddiogelwch cerddwyr ar hyd prif ffordd yr A487 yng nghanol Penrhyndeudraeth wrth i linellau melyn gael eu cyflwyno ar rannau o'r ffordd.

Llun o'r Cynghorydd Gareth Thomas, Penrhyndeudraeth

“Dwi’n falch o glywed y newyddion,” esboniodd y Cynghorydd Gareth Thomas, sydd wedi bod yn galw am welliant i ddiogelwch cerddwyr, yn enwedig plant, oedolion ifanc a phobl hŷn sy'n defnyddio'r briffordd trwy Benrhyndeudraeth yn ddyddiol. Mae tri digwyddiad gyda phlant wedi bod yn y lleoliad dros y blynyddoedd diwethaf.

“Diolch byth ni chafodd neb anaf tymor hir, ond fel trigolion lleol, byddwn yn rhoi ochenaid o ryddhad pan gymeradwyir yr hysbysiad hwn i wahardd parcio ar y brif ffordd ar ran o Stryd y Castell ac Eryri Terrace.

“Yn ogystal, bydd llif y traffig trwy ganol Penrhyndeudraeth yn cael ei wella, gan fod pobl leol yn fwy ymwybodol nag eraill pa mor anodd yw symud ar hyd y ffordd, hyd yn oed yn ystod cyfnodau tawelach misoedd y gaeaf!

“Mae tymor yr haf yn ofnadwy, a dim ond wythnos yma, roedd traffig yn sefyll yn stond am hanner milltir yn y pentref. Mae'n achosi problemau go iawn i bobl leol a busnesau sy'n ceisio cyflawni eu tasgau dyddiol.

Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn cynnal ymgynghoriad, gan ofyn i'r cyhoedd fynegi barn ar y cynlluniau presennol. Bydd copïau o’r hysbysiad a map o'r lleoliad i’w gweld yn Siop Dewi, Penrhyndeudraeth am y chwe wythnos nesaf.

Yn ôl y Cynghorydd Thomas: “Yn yr hirdymor, y gobaith yw y bydd croesfan diogelwch i gerddwyr hefyd yn cael ei gosod ar y ffordd, fel y gall plant a phobl hŷn sy'n croesi'r ffordd wneud hynny'n ddiogel. Mae plant o dair stad tai lleol yn croesi ar y gyffordd hon i gyrraedd eu hysgolion, ac mae pobl hŷn hefyd yn defnyddio'r un gyffordd i gyrraedd y feddygfa a'r fferyllfa yn y pentref.

Roedd y Cynghorydd Thomas wedi galw ar Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad diogelwch brys o'r gyffordd A487 ger Garej Deudraeth yn y dref yn dilyn nifer o ddigwyddiadau ar y safle a damwain yn ymwneud â phlentyn ym mis Chwefror 2016. A nôl ym mis Mawrth 2015 pan gafodd bachgen lleol wyth oed ei hedfan i'r ysbyty, pwysleisiodd y Cynghorydd Thomas i’r Gweinidog bwysigrwydd cynnal adolygiad safle yn yr ardal. Anfonwyd gohebiaeth at y Gweinidog hefyd cyn y digwyddiad yn 2015, gan holi i’w swyddogion edrych ar broblemau traffig y stryd fawr.

Cafodd Hayden Roberts oedd yn 10 oed ar y pryd, ei hedfan i'r ysbyty yn 2015 yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487. Yn ôl ei fam, Rachel Owen o Adwy Ddu ym Mhenrhyndeudraeth: “Roedd hi'n hunllef pob rhiant pan gyrhaeddon ni'r lleoliad i weld ein mab wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd y diwrnod hwnnw. Ond diolch byth, roedd Hayden yn andros o ffodus am na chafodd o anafiadau parhaol.”

Yn ôl y Cynghorydd Thomas: “Dwi’n croesawu’r newyddion ac mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir. Byddwn yn annog pobl leol i fynd i weld y cynlluniau, fel y gallant weld drostynt eu hunain, sut y bydd hyn yn gwella diogelwch y ffyrdd ac yn gwella’r profiad o deithio i bawb sy'n defnyddio’r ffordd. Y groesfan ddiogelwch fydd y cam nesaf yn fy ymgyrch barhaus fel cynrychiolydd Penrhyndeudraeth Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns