Sicrhau cydraddoldeb er mwyn cefnogi disgyblion ysgol benywaidd Gwynedd

Heddiw, bydd Cynghorwyr Gwynedd yn trafod cydraddoldeb yn y cyngor llawn, wrth i Gynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager, Ward Menai, Bangor holi a ellir gwneud mwy i gefnogi disgyblion benywaidd sy'n cael trafferth cael gafael ar ddeunyddiau hylendid yn yr ysgol.

Cynghorydd Catrin Wager, Menai

“Gall hwn fod yn fater anghyfforddus i rai aelodau o'r Cyngor drafod, ond dwi’n credu’n gryf mewn tegwch, cydraddoldeb ac am fynd i'r afael â materion sy'n anfanteisio merched a merched ifanc. Mae cynnyrch hylendid mor hanfodol bwysig â phapur toiled ar gyfer deunydd personol merched mewn ysgolion,” meddai'r Cynghorydd Catrin Wager.

“Ar draws y Deyrnas Gyfunol, amcangyfrifir bod Tlodi Misglwyf yn effeithio ar dros 10% o ferched sy'n methu â fforddio deunyddiau hylendid. Gall hyn gael effaith niweidiol ar eu haddysg, gyda rhai yn absennol o’r ysgol am ddyddiau oherwydd hyn.

“Mae hefyd yn broblem i ferched sydd ag incwm isel ac sy’n gallu cael eu gorfodi i flaenoriaethu prynu bwyd yn hytrach na chynhyrchion hylendid ac yna gorfod dibynnu ar fanciau bwyd i sicrhau’r cynhyrchion hylendid.”

Er bod grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn croesawu'r gefnogaeth ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn offer hylendid mewn ysgolion a gwneud newidiadau i doiledau ysgol lle bo angen, nid yw'r arian yn ddigon i wneud gwahaniaeth go iawn ar draws ysgolion Gwynedd gyfan.

“Dwi wrth fy modd bod ein cyd-gynghorwyr Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf wedi lobïo'n llwyddiannus yn genedlaethol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cefnogaeth ariannol i fynd i'r afael â thlodi misglwyf ledled Cymru. Yma yng Ngwynedd rydym yn croesawu unrhyw gefnogaeth ddaw gan Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod o lymder parhaus,” esboniodd y Cynghorydd Wager.

“Ond nid yw £29,497 yn swm digonol i gael effaith wirioneddol ar draws ysgolion Gwynedd gan roi terfyn ar yr anghydraddoldeb sy'n wynebu ein merched ifanc yn fisol. Er mwyn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu gweithredu'n llawn, mae angen cyllido'r mater hwn yn briodol bob blwyddyn ac nid dibynnu ar drugaredd grantiau tanwariant Llywodraeth Lafur, neu ar ba bynnag ffordd mae’r gwynt yn digwydd bod yn chwythu.

“Dwi felly'n gofyn i'm cydweithiwr Plaid Cymru sy'n arwain ar addysg yng Nghyngor Gwynedd i sicrhau bod hwn yn fater gaiff ei amlygu fel blaenoriaeth, bod gwaith ymchwil yn cael ei wneud i weld sut all cynhyrchion hylendid gyrraedd ein disgyblion a’n myfyrwyr benywaidd, heb deimlo embaras na chywilydd a heb fod yn ddibynnol ar incwm teuluol.

“Gofynnaf heddiw am gefnogaeth bob un o’m 75 cyd-Gynghorydd Gwynedd i gefnogi’r cynnig hwn yn y Cyngor llawn heddiw.

“Yn fy marn i, mater cydraddoldeb yw hwn yn y bôn nid mater sy’n benodol am dlodi misglwyf. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â materion sydd heb godi o’r blaen oherwydd nad yw cenedlaethau blaenorol o gynghorwyr wedi ystyried ei fod yn fater o bwys. Dyma'r rheswm pam bod angen mwy o amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth er mwyn i ni allu trafod a datrys problemau sydd heb fod yn bwysig i bobl yn y gorffennol,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns