Cynghorwyr yn talu teyrnged i’r bobl leol a’r grŵp cymunedol, Pobl

Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar yn Llanbedr, Ardudwy, talodd y ddau Gynghorydd Sir deyrnged i’r bobl leol a’r grŵp cymunedol, Pobl, am eu lobïo parhaus, gwaith trefnu, gohebu a chyfarfodydd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddod o hyd i atebion i’r problemau traffig sy’n wynebu’r pentref. Bydd y ddau yn ymuno a 'Pobl' y penwythnos hwn ar gyfer taith gerdded protest yn Llanbedr am 11am, ddydd Sadwrn 25 Mawrth fydd yn cychwyn o ochr ddeheuol y pentref.

Dywedodd y cynrychiolwyr sirol lleol, y Cynghorwyr Annwen Hughes a Gwynfor Owen mai pobl Llanbedr a’r cymunedau cyfagos yw eu prif flaenoriaeth a’u bod mewn cyswllt â gwleidyddion ar bob lefel i gydweithio er lles yr ardal. Roeddynt yn awyddus i bwysleisio bod gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i atebion i broblemau diogelwch i gerddwyr, llygredd, llif traffig a thagfeydd yng nghanol pentref Llanbedr.

Yn ol y Cynghorydd Annwen Hughes: “Fel merch leol, wedi’i geni a’i magu yn yr ardal, yn gweithio, ffermio a magu teulu yma, dwi’n profi’r problemau’n rheolaidd ac yn uniongyrchol. Dwi wedi fy nghythruddo i ni gael ein siomi gan y ddwy lywodraeth. Mae bywyd gwledig a chefn gwlad Meirionnydd yr un mor bwysig ag ardaloedd poblog prysur i'r de o Ferthyr.

“Dwi’n awyddus i ni barhau i gydweithio gyda’r gymuned leol, swyddogion Cyngor Gwynedd, cynrychiolwyr Plaid Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fel Arweinydd Gwynedd; Mabon ap Gwynfor, Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd a Liz Saville Roberts, AS gan barhau i bwyso ein hachos a chanfod atebion. Dechreuodd y genhedlaeth o’n blaenau ni ar y dasg o geisio lleddfu’r problemau sy’n ein hwynebu ar bont y pentref sy’n dyddio nôl i ganol yr 17eg ganrif - mae’n hen bryd, felly, rhoi cynllun ar waith.

Mynegodd y Cynghorydd Gwynfor Owen ei werthfawrogiad i gynrychiolwyr Pobl am drefnu’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd Bentref Llanbedr yn ddiweddar a’r gwaith y maent yn parhau i wneud wrth godi ymwybyddiaeth am y trafferthion.

“Cymrais y cyfle i ofyn am ddiweddariad gan Gyngor Gwynedd yn ein cyfarfod llawn o’r cyngor ddechrau'r mis. Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn bod y Cyngor wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod Llanbedr a’r ardal ehangach yn gallu elwa o swyddi gwerth uchel a fyddai’n dod gyda datblygiadau yn safle’r maes awyr cyfagos, ynghyd â sicrhau ffordd fynediad addas i hwyluso datblygiad a ffordd newydd i ddatrys problemau tagfeydd traffig sylweddol yn y pentref.

“Rydym yn gwybod y byddai’r cais Coridor Gwyrdd Ardudwy i Lywodraeth San Steffan wedi cynnig cyfle gwirioneddol i ddod â mynediad newydd i safle’r maes awyr a mynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig yn Llanbedr. Byddai teithio llesol a gwyrdd wedi ei hyrwyddo, gan wneud cerdded a beicio yn llawer mwy diogel.”

Dywedodd Dyfrig Siencyn wrth y cyngor llawn (2 Mawrth) fod penderfyniad diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â chefnogi cais y Cyngor am arian o'r gronfa Ffyniant Bro yn hynod o siomedig. “Mae’n tanlinellu diffyg dealltwriaeth y llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa,” meddai.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru i wneud tro pedol ar ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gynllun a fyddai wedi sicrhau mynediad i’r maes awyr a ffordd newydd i Lanbedr.

Dywedodd Gwynfor Owen: “Mae Cyngor Gwynedd a’r Arweinydd wedi ymrwymo i’n cefnogi i chwilio am ateb cadarnhaol a fydd yn datgloi potensial economaidd maes awyr Llanbedr, datrys problemau tagfeydd traffig lleol, ac annog opsiynau teithio cynaliadwy. Byddant yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ystyried sut y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd yn y tymor byr i geisio gwella diogelwch a’r ddarpariaeth teithio llesol ar hyd yr A496 rhwng Llandecwyn a’r Bermo.

Dywedodd Dyfrig Siencyn yn y cyngor llawn: “Er gwaethaf cyhoeddiad siomedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn 2021 i beidio â chefnogi’r cynllun gwreiddiol, mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn parhau i drafod atebion a fydd yn hwyluso mynediad i faes awyr Llanbedr.

“Gallaf eich sicrhau, fel cynghorwyr a’r gymuned leol, y bydd yr ymdrechion hyn yn parhau hyd nes y ceir ateb derbyniol ar gyfer Llanbedr ac ardal ehangach Ardudwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen: “Rhaid i ni barhau i weithio fel un i geisio lleddfu diogelwch a lles y gymuned leol. Mae Mabon ap Gwynfor a Liz Saville-Roberts hefyd yn pwyso’n galed ar y mater hwn, ar ein rhan hefyd.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2023-03-22 16:24:09 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns