Linda Morgan

Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Ward De Dolgellau, Linda Morgan, sy’n ateb cwestiynau Holi Hwn a Holi Llall y mis yma. Dyma ddysgu ychydig bach mwy amdani...  

Enw: Linda Morgan

  1. Oed: 66
  2. Ymhle cawsoch eich geni? Dolgellau - yma ges i fy ngeni a’m magu ac yma ydw i byth.
  3. Ymhle ydych chi’n byw: Y Lawnt, Dolgellau
  4. Oes gennych chi deulu: Mae gen i ddau fab a dau ŵyr. Mae’r ddau fab yn seiri coed gyda busnesau eu hunain, yma yn Nolgellau.
  5. Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir: Helpu pobl, cefnogi pobl a gweithio gyda nhw i ddatrys problemau. Dwi wedi bod yn cysgodi yn ystod y broses glo oherwydd rheymau meddygol, ond dwi dal wedi gallu cefnogi pobl ar y ffôn, trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac os bydd unrhyw un yn galw at y drws. Mae technoleg wedi bod yn help aruthrol i bob un ohonom, yn enwedig wrth alluogi mi i hyrwyddo busnesau lleol a siopau’r dref yn ystod y pandemig yma. Bydd ein busnesau lleol ein hangen ni fwy nag erioed, ar ôl i ni ddod allan o’r clo.
  6. Beth ydych chi’n ei gasau fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir: Peidio llwyddo
  7. Pwy yw eich arwr / arwres? Gwraig leol 105 oed, a ofynnodd i mi, tua 35 mlynedd yn ôl, i ymuno â phwyllgor Cyfeillion Ysbyty Dolgellau. Ei henw yw Mrs Anne Jones, sydd bellach yn byw yng Nghartref Cefn Rodyn. Fi oedd aelod ieuengaf y pwyllgor ar y pryd ac ers y cyfnod hwnnw, dwi wedi dod yn gadeirydd ar y pwyllgor fy hun. Rydym wedi llwyddo i godi miloedd o bunnoedd i'r ysbyty dros y blynyddoedd. A dod yn aelod o'r pwyllgor cyntaf hwnnw, mae'n debyg, wnaeth helpu i godi fy hyder i sefyll fel Cynghorydd Tref ac yna symud ymlaen i sefyll fel Cynghorydd Sir dros Ddolgellau. Mae Mrs Jones yn ddynes ysbrydoledig iawn.
  8. Beth yw eich atgof plentyn hapusaf: Mynd i Butlins ar drip blynyddol Ysgol Sul yr Eglwys. Roedden ni bob amser yn mynd ar y trên, roedd yn andros o gynhyrfus, bod ymhlith ffrindiau a theulu, a mwynhau ein hunain.
  9. Beth yw eich ofn mwyaf: Uchder. Dwi’n cofio mynd â'r plant i Gastell Harlech pan oedden nhw’n ifanc a dyma nhw’n rhedeg i fyny'r grisiau o fy mlaen, a finna yn cyrraedd atynt ar fy ngliniau y tu ôl iddynt, yn dal gafael arnyn nhw, wrth iddyn nhw edrych i lawr trwy'r bwlch yn y ffenestr wag islaw. Mi oeddwn i ofn am fy mywyd ac yn methu’n glir a sefyll ar fy nhraed!

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Pwy 'di Pwy? 2022-09-28 12:23:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns