Busnesau Bangor Uchaf yn teimlo bod Swyddfa'r Post wedi eu siomi wedi cau’r gangen

Mae busnesau a gwleidyddion Bangor wedi dod ynghyd i geisio datrysiad hirdymor i drigolion a phobl fusnes Bangor Uchaf sydd wedi eu siomi gan Swyddfa'r Post wedi i’r gangen leol gau.

Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar (nos Iau, 19 Ebrill) a drefnwyd gan Plaid Cymru Bangor yng Nghapel Penrallt, Bangor, daeth trigolion a'r gymuned fusnes at ei gilydd i rannu eu rhwystredigaeth na fyddai gwasanaeth Swyddfa'r Post un awr yr wythnos, rhwng 2 a 3 o’r gloch bob dydd Mercher o faes parcio Morrisons, yn ddigonol i gwrdd ag anghenion y gymuned leol.

Rhoddodd Rheolwr Gweithrediadau Rhwydwaith Swyddfa’r Post wybod i wleidyddion ddechrau mis Ebrill, ar ôl cau'r gangen dros dro yn Ffordd Caergybi, Bangor Uchaf ar y 24 o Chwefror oherwydd 'rhesymau gweithredol'. Daeth y gwasanaeth awr yr wythnos i rym ar y 14 o Fawrth.

Trefnodd Cynghorwyr Sir Ward Menai, Catrin Wager a Mair Rowlands y cyfarfod cyhoeddus i gasglu gwybodaeth a rhoi cyfle i bobl leol rannu eu barn.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager: “Nid yw gwasanaeth sy'n rhedeg am awr yr wythnos yn ateb y galw wedi diddymu gwasanaeth llawn amser Swyddfa’r Post yn y gangen. Mae Swyddfa’r Post ym Mangor Uchaf yn lleoliad prysur cyson a defnyddir y gwasanaeth gan amrywiaeth eang o bobl; o fusnesau lleol, i drigolion hŷn i fyfyrwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Rowlands: “Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ar gyfer gwasanaethau post ond hefyd ar gyfer bancio a thalu biliau. Er mwyn ein trigolion, mae'n hanfodol ein bod yn gweld y gwasanaeth llawn amser yn cael ei adfer cyn gynted ag y bo modd. Rydym hefyd yn hynod o siomedig, fel cynrychiolwyr lleol, mai pum wythnos wedi cau’r gangen y cawsom ni glywed yn swyddogol am y problemau gan y Swyddfa Bost.”

Yn ôl Brenda Owen, Rheolwr siop Dimensions Health ar Ffordd Caergybi: “Mae gennym stryd fawr fywiog yma ym Mangor Uchaf ac mae busnesau lleol yn gweithio'n galed i'w gynnal. I'r rhai ohonom sy'n manwerthu ar-lein, mae Swyddfa'r Post yn hanfodol. Mae'n cymryd awr dda i fynd ag eitemau i lawr i’r stryd fawr ym Mangor erbyn i chi gerdded neu barcio ac yna sefyll mewn ciw i ddosbarthu’ch parseli. Ar gyfer busnes bach mae hyn yn golygu talu cyflog gweithwraig am o leiaf awr neu gau eich siop bob tro mae angen i chi fynd ag eitemau i'r post. Mae hynny'n gwbl anymarferol ac anghynaladwy.”

Dywedodd perchennog busnes arall, Tracey Williams o In Stitches: “Mae gen i lawer o drigolion hŷn yn dod i mewn i'm siop ac maent yn dweud wrthyf nad yw cael gwasanaeth cownter Swyddfa'r Post yn rheolaidd yn achosi problemau iddynt. Rwy'n ceisio helpu trwy gasglu parseli ar eu cyfer a'u dosbarthu i lawr i'r stryd fawr, ond yn amlwg nid yw hynny'n ateb hirdymor.”

Yn y cyfarfod, eglurodd rhai o drigolion hŷn Bangor Uchaf pa mor anodd yw casglu eu pensiwn gan Swyddfa'r Post. Esboniodd un mai dyma'r ail dro mewn blwyddyn y mae'r gangen wedi cau a bod hi'n ystyried yn ddifrifol cyfnewid i daliadau uniongyrchol i'r banc. Roedd rhai hefyd yn teimlo ei bod hi’n annheg holi pobl hŷn sydd ddim yn gyfforddus, i gyflawni eu gwasanaethau bancio a thalu ar-lein, gan eu bod yn cael eu hannog i wneud hynny.

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon a fynychodd y cyfarfod cyhoeddus i glywed barn y trigolion: “Mae’n hanfodol fod gan Swyddfa’r Post Bangor Uchaf gartref parhaol i’r dyfodol. Mae hon yn ardal fusnes ac ardal brifysgol bwysig a dydy’r sefyllfa bresennol, awr o wasanaeth symudol ym maes parcio Morrisons ar ddydd Mercher, ddim yn dderbyniol. Rwy’n falch o weithio efo’r gymuned a’r cynghorwyr lleol i roi pwysau ar Swyddfa’r Post i ddarganfod ateb buan gan adfer gwasanaethau llawn ym Mangor Uchaf.”

Yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon: “Mae digon o fasnach i fynnu parhad y swyddfa bost gymunedol hanfodol hon. Mae busnesau a thrigolion lleol yn dibynnu ar eu swyddfa’r post lleol, boed ar gyfer bancio, cael newid ar gyfer siopau, casglu pensiynau neu anfon nwyddau.

“Mae Swyddfa’r Post ym Mangor Uchaf wastad wedi bod yn ganolfan bwysig a rhaid iddi barhau felly. Rwy'n cefnogi'r ymgyrch yn llwyr i sicrhau dyfodol Swyddfa’r Post Bangor Uchaf ac yn awyddus i gydweithio i ddod o hyd i ateb hyfyw, hirdymor.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns