Newyddion diweddaraf
Digwyddiad hanesyddol i Blaid Cymru mewn llywodraeth leol
Am y tro cyntaf yn hanes llywodraeth leol, mae dwy ran o dair o gynghorwyr awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn perthyn i Grŵp Plaid Cymru.
Mae'r Blaid yn falch iawn o groesawu cynghorydd annibynnol o Feirionnydd i ymuno â'r grŵp cynghorwyr.
Darllenwch fwy
Cefnogaeth fawr o’r gymuned i ddiogelu dyfodol Coed y Brenin
Mynychodd dros 200 o bobl gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, Ganllwyd, Meirionnydd, i ddangos eu cefnogaeth i ganolfan beicio mynydd pwrpasol cyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Agorodd canolfan ymwelwyr Coed y Brenin yn y Ganllwyd ger Dolgellau yn 1996 ond fe godwyd pryderon bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu dyfodol y safle ynghyd â dwy ganolfan ymwelwyr arall yn y gogledd a’r canolbarth.
Darllenwch fwy
Blwyddyn gron heb ddarpariaeth bws yn ysgogi taith 30 milltir ar droed ar hyd yr un llwybr
Mae Cynghorydd o Wynedd sydd wedi blino disgwyl i’r Llywodraeth lenwi’r bwlch yn ei gymuned gyda gwasanaeth bws, wedi penderfynu cerdded taith 30 milltir y llwybr bws, union flwyddyn ers i’r daith fysiau olaf ddod i ben.
Darllenwch fwy