Brwdfrydedd yn siambr Cyngor Gwynedd gydag ymweliad plant Waunfawr a Bontnewydd

Tybed a oedd cynghorwyr y dyfodol ar ymweliad â siambr gyngor Dafydd Orwig yng Ngwynedd yn ddiweddar? Dyna’r gobaith wrth i 60 o ddisgyblion Ysgolion Waunfawr a Bontnewydd ddod i ddysgu mwy am waith y cyngor a chlywed mwy am beth mae eu cynrychiolwyr sir lleol yn ei wneud drostynt.

Llun: Cadeirydd y Cyngor, Cynghorydd Beca Roberts yn cyfarch y plant a'r staff tu allan i Gyngor Gwynedd

“Gawson ni ddefnyddio’r offer pleidleisio mae’r cynghorwyr yn defnyddio yn y cyngor, i ateb cwestiynau cwis,” meddai Eban, 10 o Ysgol Waunfawr

“Fuo Gwenllian yn siarad efo ni am ail-gylchu a dweud pa mor bwysig bod ni ddim yn rhoi dim bwyd gwastraff yn y bagiau bin du. Mae hynna yn costio lot o bres i’r cyngor, ac i dad a mam yn y diwedd drwy treth cyngor, os oes raid i’r cyngor dalu bil mawr,” meddai Beca, 10 oed o Ysgol Waunfawr

Llun: Plant Ysgol Waunfawr ac Ysgol Bontnewydd yn siambr y Cyngor

“Y pleidleisio oedd y darn gorau, pwyso’r botwm i ateb y cwestiwn a gweld oeddan ni’n gywir. Oedd rhai plant yn cael gofyn cwestiwn i’r Cadeirydd hefyd, felly’n pwyso botwm i ddefnyddio’r meicroffon a gweld ei llun ar y sgrin fawr. Oedd hynna’n cŵl!” meddai Enlli, 10 o Ysgol Bontnewydd.

“Gawson ni glywed gan Cynghorydd Sir ni, Menna Trenholme. Fuo hi’n son am waith y cyngor ac am gadw Bontnewydd yn lân ac yn daclus a gawson ni asgwrn ci i fynd adra i ni roi ar goler ci ni, i gario bagiau baw ci i gadw bob man yn lân. Mae rheina yn andros o ddefnyddiol,” meddai Deio, 10 o Ysgol Bontnewydd.

Bu nifer o’r Cynghorwyr yn rhan o’r sesiwn gyda gobaith o allu plannu hedyn ym meddwl y plant am yrfa ym maes awdurdod lleol neu i gynrychioli cymunedau i’r dyfodol fel rhan o broses ddemocrataidd. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw clywed barn trigolion lleol am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a’r gwaith o gydweithio â chymunedau ar lawr gwlad.

Yn ôl Cadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd Beca Roberts fu’n hwyluso’r sesiwn, roedd yn chwa o awyr iach gweld y siambr yn llawn brwdfrydedd a diddordeb am waith y cyngor: “Mi gawson ni sesiwn hyfryd, fel rydyn ni’n ei chael bob amser gyda phlant. Mae ei brwdfrydedd a’i diddordeb yn heintus ac mi oedd cael clywed cwestiynau am y broses ddemocrataidd am ethol cynghorwyr, holi am y cabinet a’i diddordeb nhw mewn ailgylchu i’w ganmol yn fawr.

Llun: Cynghorydd Bontnewydd, Menna Trenholme a rhai o ddisgyblion yr ysgol

Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme sy’n cynrychioli Ward Bontnewydd ar y cyngor: “Roedd hi’n bleser gweld plant Ysgol Bont yng Nghaernarfon yn ddiweddar. Fel rheol, dwi’n gweld rhai ohonynt wrth godi fy mhlant fy hun o’r ysgol.

“Roedd cael egluro mwy am fy ngwaith a chael y cyfle i groesawu’r staff gyda’r plant i’r siambr yn brofiad braf. Wedi’r cyfan, dyma aelodau cymuned Bontnewydd i’r dyfodol, ac mae cael dechrau codi proffil am waith cynghorydd sir gyda phlant yn ifanc yn magu diddordeb.

Llun: Plant ysgolion Bontnewydd a Waunfawr, staff y ddwy ysgol, cynrychiolydd o adran ail gylchu'r cyngor a'r cynghorwyr fu'n hwyluso'r digwyddiad

“Fel dirprwy arweinydd y cyngor, hoffwn ddiolch i’r staff am y gwaith trefnu ac i Gwenllian o’r Adran Ail-gylchu am gyflwyno ei gwaith mor fywiog. Roedd dangos y cart-gylchu a thrafod y bin gwastraff bwyd gyda’r plant yn dod a phwysigrwydd addysgol gwaith y cyngor yn fyw iddynt.

Llun: Disgyblion Ysgol Waunfawr gyda'i Cynghorydd Sir, Edgar Owen ar ddiwedd yr ymweliad

I’r Cynghorydd Edgar Owen, sy’n cynrychioli Ward Waunfawr ar y cyngor, roedd y profiad yn fwy arbennig fyth, wrth iddo groesawu ei wyres gyda’r criw i’r siambr.

“Roedd fy wyres yn edrych mlaen at ddod i weld lle roed taid yn gweithio! Does dim yn well na gweld y byd trwy lygaid plant, ac roedd clywed eu cwestiynau am waith y cyngor yn chwa o awyr iach. Roedd cryn ddiddordeb i glywed mwy am waith ail gylchu’r cyngor, felly’r gobaith rŵan yw y bydd ymweliad gan y tîm yn cael ei drefnu’n fuan i’r ysgol all fod o ddefnydd i’r athrawon gyda’r cwricwlwm addysg.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Courtney Jones
    published this page in Newyddion 2025-02-04 15:13:23 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns