Rhybudd o Gynnig Cyngh June Jones, Ward Glaslyn
Holodd y Cynghorydd Gwynedd dros Ward Glaslyn, June Jones am gefnogaeth ei chyd-gynghorwyr i alw am ddiweddaru’r rheolau i yrwyr ifanc fel na allant gludo teithwyr ifanc eraill cyn cyfnod o chwe mis er mwyn ennyn profiad o’r ffyrdd yn dilyn eu prawf gyrru.
“Mae hwn yn fater pwysig sydd angen i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan weithredu arno, ar unwaith,” meddai’r Cynghorydd June Jones.
“Mae’r gwrthdrawiad traffig erchyll a ddigwyddodd yn fy ward i ar ffordd yr A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen y llynedd, wedi gadael craith fawr ar y gymuned hon.
“Collodd pedwar dyn ifanc eu bywydau, gan achosi trallod erchyll i’w teuluoedd a’u ffrindiau. Rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod bywydau pobl ifanc yn cael pob cyfle i ffynnu. Trychineb yr achos hwn yn Garreg nôl ym mis Tachwedd 2023 oedd i fywydau bechgyn ifanc ddod i ben yn llawer llawer rhy gynnar.
“Mae meddyliau’r gymuned yn parhau i fod gyda’r teuluoedd hynny, a dyna’r rheswm pam y cyflwynais y rhybudd o gynnig yma yng Nghyngor Gwynedd yr wythnos ddiwethaf.”
Fe basiwyd y rhybudd o gynnig gan y cynghorwyr yng nghyfarfod o’r cyngor llawn, ddydd Iau 5 o Ragfyr 2024.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter