Heddiw ar lawr y cyngor (1 Mai), y mae'r Cynghorydd Sir dros Ward Deiniolen, Elfed Williams yn falch bod Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i bwyso ar y Llywodraeth i geisio cynorthwyo trigolion ei ardal sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddifrod i'w cartrefi gan gynnwys lleithder, blerwch a’r angen am waith atgyweirio.
Daeth cwestiwn y Cynghorydd yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn gynharach mis Ebrill, eu bod am ariannu gwaith adfer ar dai’r ardal, wedi deg mlynedd o ymgyrchu gan Blaid Cymru, yn sgil cynllun insiwleiddio gwallus gan y Llywodraeth.
“Mae hon wedi bod yn sgandal gyhoeddus,” meddai’r Cynghorydd sy’n cynrychioli trigolion yn Neiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen sydd wedi dioddef yn sgil cynllun gwallus ‘Adfer’ y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
“Addawyd cymorth dros ddeg mlynedd yn ôl i gynorthwyo pobl i arbed arian trwy gynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Roedd yn fod i wella effeithlonrwydd ynni’r tai gan sicrhau y byddai’r perchnogion yn derbyn biliau ynni is.
Ond mae gwaith israddol yn ardal Deiniolen, Dinorwig, Clwt y Bont a Fachwen wedi gadael y perchnogion â thai llaith sy’n datblygu llwydni, pibellau draenio wedi eu hail osod yn anghywir, render blêr a chraciau yn y waliau.
Cyhoeddodd y Llywodraeth fis Ebrill eleni, wedi ymgyrch ddeg mlynedd, bod 42 o dai Arfon wedi eu cymeradwyo i dderbyn gwaith atgyweirio.
Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon sydd wedi arwain yr ymgyrch gyda’r Cynghorydd Elfed Williams:
"Mae hon wedi bod yn ymgyrch hir a rhwystredig, ond dwi wedi parhau’n benderfynol o gael cyfiawnder i’m hetholwyr yn Arfon. Mae’n swnio fel bod yna olau ar ddiwedd y twnnel, ond byddaf yn cadw mewn cysylltiad agos â’r trigolion i sicrhau bod y gwaith yn digwydd ac o’r safon uchaf. Cawsant eu siomi ar ôl rhoi ffydd mewn cynllun oedd i fod i wella eu cartrefi dim ond i’r eiddo gael ei adael mewn cyflwr gwaeth nag oedd ar y dechrau."
Wrth dderbyn cefnogaeth aelodau Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Elfed Williams: “Dwi’n croesawu’r newyddion y bydd y gwaith yma o adnewyddu ac atgyweirio’r tai i’m trigolion lleol yn digwydd. Mae’n hen bryd!
”Ond dwi’n parhau i bryderu am y trigolion sydd heb dderbyn cydnabyddiaeth bod gwaith adfer i ddigwydd ar eu cartrefi nhw. Byddaf yn parhau i gydweithio â’r Aelod o’r Senedd dros yr ardal, Siân Gwenllian, i weld lle allwn ni ddylanwadu a gwthio i sicrhau bod gwaith hanfodol yn digwydd.
Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, sydd wedi cyhoeddi mewn llythyr i gynrychiolydd Arfon yn y Senedd, Sian Gwenllian, y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith adfer i 42 o gartrefi yn Arfon. Yn ôl y Llywodraeth, mae llythyrau wedi mynd i’r perchnogion rheiny sy’n gosod rhagor o fanylion am y gwaith.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter