“Dydi’r geiriau ’cancr’ a ‘phlant’ ddim i fod yn yr un frawddeg”

“Dydi’r geiriau ‘cancr’ a ‘phlant’ ddim i fod yn yr un frawddeg,” yn ôl y Cynghorydd dros Felinheli, Gareth Griffith (yn y llun), sydd wedi ei ysgogi i redeg marathon Llundain eleni, gan godi arian tuag at yr elusen blant, ‘Children with Cancer UK’.

I’r Cynghorydd Gwynedd 60 oed sy’n hoff o heriau, mae’r sialens hon yn un fawr.

“Mae hi flwyddyn yn hwyr yn cyrraedd oherwydd y Covid, felly mae’r daith wedi bod yn un hir,” eglura’r Cynghorydd Plaid Cymru Gareth Griffith.

“I bobl sy’n fy adnabod, dwi’n licio fy mwyd a dwi’n licio peint, ond dwi wedi llwyddo i golli wyth stôn ers dechrau'r broses ac wedi bod yn hyfforddi’n galed a chyson.

“Mae hi’n her ‘chydig yn haws gan bod fy merch, Ceri, sy’n byw yn Llundain wedi cael lle yn y ras, ac yn bwysicach fyth o ran ysgogiad i mi adra, Christine, y wraig hefyd. Rydyn ni’n dau wedi bod yn hyfforddi gyda’n gilydd a gwthio’n gilydd pan da ni’n ei gweld hi’n anodd. Mae’r gefnogaeth gan Christine wedi bod yn bwysig.”

(Yn y llun: Taith hir Gareth Griffith a’i deulu, Christine, ei wraig a Ceri, eu merch, at farathon Llundain, wrth hyfforddi nôl yn niwedd 2019)

Dyw heriau ddim yn ddieithr i’r Cynghorydd, gan iddo gerdded taith 60 milltir yn ddi-dor yn 2017, gan godi arian tuag at GISDA yng Nghaernarfon ac Ambiwlans Awyr Cymru. Cerddodd gyda pedwar o’i gyfeillion o’r Felinheli, i Bwllheli draw i Gricieth, Rhoslan, Bryncir ac yn ôl i Gaernarfon, gan godi £800 yr un i’r ddwy elusen.

“Dwi’n benderfynol o orffen y marathon, ond ddim am roi amser ar y daith o gwbl. Mi fyddai’n torri’r daith, fel dwi wedi ei wneud wrth hyfforddi. Byddai’n dweud wrthyf fy hun, ‘dwi am redeg at y postyn yna’. Ar ôl cyrraedd hwnnw, dwi’n dweud, ‘dwi am redeg at y gornel yna,’ ac felly byddai’n mynd amdani gydol y daith.”

Yr elusen ‘Children with Cancer UK’ sydd am gael y budd o her Gareth, sy’n wreiddiol o’r Groeslon. Mae’r elusen yn nodi bod 12 teulu bob dydd yn y Deyrnas Gyfunol yn derbyn y newyddion hunllefus bod cancr ar eu plentyn. Gan ariannu gwaith ymchwil arbenigol hanfodol, mae’r elusen yn ceisio gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod y plant yma’n cael bob cyfle posib i oroesi’r afiechyd.

“Mae’r elusen yn cynnal prosiectau ymchwil manwl i alluogi mwy o blant i oroesi, darganfod triniaethau mwy caredig sy’n osgoi trafferthion tymor hir, cefnogi teuluoedd i aros yn agos at eu plant yn ystod eu triniaethau a threfnu dyddiau arbennig i blant a’u teuluoedd fwynhau.

“Dyma beth fyddai’n feddwl amdano wrth gymryd rhan yn y marathon ar y trydydd o Hydref, y plant a’r teuluoedd yma fydd yn elwa o’r arian fyddai’n ei godi trwy redeg y ras.

“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu drwy’r dudalen Virgin Money Giving neu i mi yn bersonol dros y misoedd diwethaf. Mae pob un geiniog yn mynd i'r achos teilwng yma, felly dwi'n falch iawn o allu casglu ar eu cyfer.

“Dwi’n cyfri’r dyddiau rŵan ac yn llacio ‘chydig ar yr hyfforddi er mwyn bod yn gryf ac yn barod amdani. Bydd rhedeg drwy strydoedd Llundain yn wahanol iawn i deithio lonydd Gwynedd, ond dwi’n edrych mlaen at hwyl y dydd a bod yn rhan o daith fyd enwog dwi wedi eu gwylio o bell dros y blynyddoedd.”

Os ydych yn awyddus i gyfrannu at elusen Gareth Griffith, Children with Cancer UK, cliciwch ar y linc yma <https://uk.virginmoneygiving.com/fundraiser-display/showROFundraiserPage?userUrl=GarethGriffith2&pageUrl=1>


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-09-23 16:13:40 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns