“Mae hon yn eiliad allweddol yn ein hymdrech i daclo’r argyfwng tai sy’n wynebu ein cymunedau yng Nghymru,” meddai Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn (sy'n y llun), “ac mi all gael dylanwad go iawn ar allu pobl leol i rentu, prynu a byw yn eu cartrefi eu hunain o fewn eu cymunedau.”
Roedd Arweinydd y Blaid yng Ngwynedd yn ymateb i gyhoeddiad Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James heddiw, sy’n nodi cynlluniau i ymyrryd yn y farchnad dai yn ardal Dwyfor ar ffurf cynllun peilot, i gefnogi pobl leol i fyw yn eu cymunedau a gwneud newidiadau i'r rheoliadau cynllunio er mwyn rheoli'r stoc dai leol yn well.
“Wedi blynyddoedd o lobïo gan Blaid Cymru a misoedd o drafodaethau parhaus gyda swyddogion a gweinidogion, rydym yn croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y broses o ymgynghori i ddiwygio’r drefn gynllunio fel bod unigolyn sy’n ceisio newid defnydd tŷ annedd o brif gartref i ail dŷ neu dŷ gwyliau tymor byr angen cymeradwyaeth cynllunio i’r dyfodol.
“Dyma’r amser i’n cymunedau gamu ymlaen ac ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar gyflwyno’r dosbarthiadau defnydd cynllunio ar wahân ar gyfer prif gartref, ail dŷ a thai gwyliau tymor byr. Bydd tystiolaeth a chasglu’r dystiolaeth honno yn gwbl allweddol yn ystod y broses ymgynghori i benderfynu a fydd y polisi yn newid ai peidio.”
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd becyn gwerth £2m i Gyngor Gwynedd er mwyn prynu cartrefi gwag y sir gan ddod â rheiny nôl mewn i'r stoc dai fel tai rhent cymdeithasol. Bydd rhaid gwario o leiaf £1m yn ardal cynllun peilot Dwyfor.
“Bydd y mesurau hyn yn cynorthwyo’n hymdrechion i gartrefu pobl leol, i gynnig cartrefi cynaliadwy mewn cymunedau bywiog a chynnig help llaw ymarferol i rai o'n cymunedau a’n pentrefi sy'n wynebu anghyfiawnder cymdeithasol ynghyd â bygythiad gwirioneddol i hyfywedd ein cymunedau Cymreig, ein diwylliant a'n hiaith.
“Mae Plaid Cymru Gwynedd wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i gyfleu’r problemau go iawn sy’n wynebu rhai o’n cymunedau a’n pentrefi arfordirol i Lywodraeth Cymru ac i gynnig datrysiadau. Rydym yn ddiolchgar i swyddogion Gwynedd, ein cydweithwyr Plaid Cymru, trigolion lleol ynghyd â grwpiau a sefydliadau lleol am eu gwaith yn cefnogi ein gwaith.
“Bydd angen i’r ymdrechion a’r gwaith tîm barhau wrth i ni weithio gyda’n cymunedau, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru i edrych yn fanwl ar y glo mân sydd yn y cyhoeddiad a symud i weithredu’r cynllun peilot o ddifri yn ardal Dwyfor.”
O dan arweinyddiaeth Plaid Cymru yng Ngwynedd, comisiynwyd a chyhoeddwyd adroddiad manwl ar dai gwyliau tymor byr ac ail gartrefi yng Ngwynedd nôl ym mis Rhagfyr 2020 yn dangos yr angen i ddilyn cynlluniau’r Alban i gynnig y pwerau i awdurdod lleol reoleiddio gosodiadau gwyliau tymor byr.
Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Tai gwerth £77 miliwn Gwynedd ar ddiwedd 2020 er mwyn cefnogi cymunedau lleol gyda llu o fesurau a phecynnau cymorth tai. Ac o Ebrill 2021, cyflwynodd Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid bremiwm 100% ar dreth y cyngor ar gyfer ail gartrefi gaiff ei fuddsoddi i weithredu rhan o’r cynllun gweithredu tai.
“Rydym wedi canolbwyntio ar gefnogi cymunedau lleol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae cartrefi Gwynedd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith hwnnw,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Wrth ymateb i gyhoeddiad LlC, meddai cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd: “Mae datganiad Llywodraeth Cymru i'w groesawu gan ei fod yn gam sicr ymlaen. Codais yr angen am ganiatâd cynllunio i droi tŷ annedd yn dŷ gwyliau dros ugain mlynedd yn ôl yn San Steffan. Gwell hwyr na hwyrach!
“Gobeithio, yn wir, y bydd cymaint â phosib o bobl yn ymateb i'r ymgynghoriad i ddangos pa mor argyfyngus yw sefyllfa tai lleol ar hyn o bryd.”
Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor (sy'n y llun): “Mae hon wedi bod yn daith hir i nifer o bobl, felly mae’r ffaith ein bod yn gweld y camau diriaethol yma heddiw er mwyn mynd i’r afael ag ail gartrefi a fforddiadwyedd tai yn rhai o’n cymunedau i'w groesawu.
“Rhaid cydnabod rôl Cyngor Gwynedd a Phlaid Cymru wrth arwain y Cyngor, gan eu bod eisoes wedi gwneud llawer o’r gwaith o amgylch hyn, a diolch iddynt am eu harweiniad.
“Mae’r sialens yn un enfawr, ond gyda’r awydd gwleidyddol, y weledigaeth, polisïau cryf, ac adnoddau ariannol digonol i wireddu’n amcanion, mae gobaith eto am ddyfodol gwell i gymunedau Cymru.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter