All Gwynedd arwain Cymru trwy gefnogi annibyniaeth i Gymru?

Bydd Y Cynghorydd Nia Jeffreys, sydd â chyfrifoldeb dros lywodraethu corfforaethol o fewn Gwynedd yn galw ar Gyngor Gwynedd i gefnogi ei chais am annibyniaeth i Gymru ar lawr y cyngor yr wythnos hon.

“Mae awydd yn y gwynt am newid,” eglura Nia Jeffreys, sy’n cynrychioli Ward Dwyrain Porthmadog ar Gyngor Gwynedd, “a chefnogaeth y bobl yn cynyddu yng nghanol llanastr llwyr San Steffan i ddelio’n aeddfed ac adeiladol gyda Brexit.

“Mae llais Cymru yn cael ei cholli yn Llundain, gyda gwleidyddion Torïaidd yn chwarae gemau gwleidyddol gyda’n bywydau ni a’n cymunedau ni, yma yng Ngwynedd. Mae’n amser rhoi stop ar y miri, a gosod ein stondin ein hunain, yma yng Nghymru.

“Dim ond trwy dorri’n rhydd, cadarnhau bod annibyniaeth yn ein gafael, yn llwybr cadarnhaol gyda gobaith sy’n rhoi buddion a blaenoriaethau Cymru’n gyntaf, y llwyddwn ni.

“Mae’n hen bryd rhoi stop ar synau negyddol y ‘Brit Brigade’ - mae Cymru’n ddigon mawr, yn ddigon cryf ac yn ddigon cadarn i sefyll ar ei thraed ei hun. Mae gennym dirwedd a moroedd, diwydiannau a sectorau; mae gennym ddiwylliant ac iaith, mae gennym angerdd a chalon ac yn fwyaf oll, mae gennym uchelgais dros ein gwlad.

“Nawr yw’r amser i dorri’n rhydd, i fod yn genedl annibynnol wrth galon Ewrop. Dyna’r rheswm dwi’n galw am gefnogaeth fy nghyd gynghorwyr yng Ngwynedd i gefnogi’r cynnig i wneud Gwynedd y sir gyntaf yng Nghymru i alw am annibyniaeth i’n gwlad.”

Yn ôl Lis Saville Roberts AS Dwyfor Meirionnydd: “Dwi’n falch bod y Blaid yng Ngwynedd yn galw am annibyniaeth i Gymru. Mae’n ymddangos i minnau, fel Aelod Seneddol Plaid Cymru mai annibyniaeth i Gymru yw ein hunig ffordd allan o’r llanastr yma.

“Rydym bellach yn wynebu Prif Weinidog sydd yn barod i weld y drychineb o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Maen nhw’n benderfynol o gyflawni polisi Brexit niweidiol er mwyn cadw eu plaid eu hunain mewn un darn. Nid yw San Steffan yn gweithio i Gymru.

“Ar adeg pan fyddwn yn wynebu'r argyfwng gwleidyddol mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd, mae'r Blaid Lafur mor ddryslyd ynghylch eu safbwynt ar Brexit mai dim ond nhw eu hunain maen nhw’n llwyddo ei wrthwynebu.

“Mae’n ymddangos mai annibyniaeth i Gymru yw ein hunig ffordd allan.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gall Cymru fod yn annibynnol erbyn 2030: “Ennill annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yw ein gweledigaeth, fel y gallwn harneisio ein hadnoddau ein hunain yn llawn.

“Efallai na fydd pawb yn cytuno a’r man cyrraedd, ond mae creu Cymru sy’n barod am annibyniaeth, sydd â’r sylfeini economaidd a’r hyder diwylliannol i sefyll ar ei thraed ei hun, yn rhywbeth y gall pawb gytuno ag ef.

“Gobeithio y gall Gwynedd a’i phobl arwain siroedd eraill Cymru yn y frwydr i sicrhau Cymru Rydd.”

Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod y rhybudd o gynnig yng nghyfarfod llawn Gwynedd, ddydd Iau, 18 Gorffennaf.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns