Amser deddfu ar ddefnydd jet sgis yn union fel deddfu beiciau modur

Heddiw, bydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr, fel jet sgis, yn yr un modd ag y mae beiciau modur yn cael eu rheoli dan ddeddf gwlad ar y ffordd. (Llun: Y Cynghorydd Gareth Thomas dros gymunedau a datblygu economi Gwynedd

“Ydi’r boblogaeth yng Nghymru yn sylweddoli mai Cymru a gwledydd o fewn y Deyrnas Gyfunol ydi’r unig rai yn Ewrop sy’n gadael i ddefnyddwyr jet sgis yrru ar hyd ein dyfroedd heb ddim math o gyfyngiadau?” holodd y Cynghorydd Gareth Thomas sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau a datblygu’r economi yng Ngwynedd.

“Mae’r Deyrnas Gyfunol yn yr un categori â’r Aifft, heb ddim canllaw, deddf na rheol i bobl ddefnyddio’r peiriannau pwerus personol yma yn gyfrifol ar hyd ein moroedd.

“Fydden ni ddim yn gadael i’n plant na’n hwyrion deithio hyd a lled ein ffyrdd yng Ngwynedd ar gefn moto-beic. Ond does run deddf mewn lle i atal i blentyn 12 oed rhag neidio ar gefn y peiriannau pwerus yma a chwarae mig ar y dŵr. Does dim synnwyr yn y peth!

“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth yn San Steffan ddeffro i’r broblem hon, gan sicrhau bod jet sgis yn cael eu cofrestru a’i diffinio fel “cwch” o fewn y Ddeddf i sicrhau eu bod yn dod o dan yr un rheoliadau a defnyddwyr cerbydau pŵer eraill ar y môr yng Nghymru.” 

Mewn llythyr agored at y Gweinidog Trafnidiaeth yn gynharach eleni, mae Cymdeithas Harbwrfeistri y Deyrnas Gyfunol wedi pwyso am gau’r bwlch yn y ddeddf gan ddiffinio’n glir bod jet sgi yn cael ei gydnabod fel cwch neu long.

Yn Ngwynedd, mae ardaloedd fel Bermo a Morfa Bychan yn gweld defnyddwyr cyson ar yr arfordiroedd ac mae busnesau yn adrodd bod cynnydd o dros 30% yng ngwerthiant y cerbydau pŵer hyn eleni.

Yn ôl y Cynghorydd Gethin Glyn Williams, Bermo: “Y pryder sydd gennym ni yw y bydd y cynnydd yn y gwerthiant eleni yn golygu cynnydd yn y defnyddwyr fydd yn ymweld y flwyddyn nesaf, wrth i gyfyngiadau Covid19 amharu ar allu pobl i fynd ar wyliau tramor.

“Rydym yn croesawu ymwelwyr i’r ardal ac mae’r mwyafrif o’r defnyddwyr jet sgis yn gall ac yn gyfrifol. Y niferoedd bychain o’r rhai sy’n ymddwyn yn anghyfrifol, yn gwibio yn gyflym rhy agos i bobl eraill sy’n mwynhau yn y dŵr, ac yn goryrru wrth deithio yn agos at y lan sy’n achosi’r problemau.

“Dylai bod hyfforddiant, trwyddedu, yswiriant, gwisgo offer diogelwch fel helmed a siaced achub, ardaloedd penodol diogel ar gael ar gyfer defnyddwyr jet sgi i fwynhau yn dod i rym, fel rhan o’r ddeddf. A chyda hynny, wrth gwrs, mae angen adnoddau ychwanegol ar adrannau morwrol awdurdodau lleol i oruchwylio yn ystod y cyfnodau prysuraf o’r flwyddyn.”

Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths, sy’n cynrychioli gorllewin Porthmadog a thraeth y Greigddu, Morfa Bychan, lle mae ymwelwyr wedi heidio i fwynhau glan môr dros yr haf: “Mae swyddogion morwrol y Cyngor yr un mor rhwystredig ag ydyn ni, gyda’r diffyg rheoliadau sydd ar gael i oruchwylio jet sgis. Mae’n hen bryd bod mesurau mewn lle i sicrhau bod pawb - o ddefnyddwyr jet sgis i nofwyr i badl fyrddwyr a theuluoedd yn cael y rhyddid i fwynhau hamddena yn ddiogel ac yn gyfrifol.”

Bu dwy farwolaeth yn ymwneud â jet sgis ar arfordir Gwynedd a Môn ym mis Awst eleni.

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, “Dyw Gwynedd ddim yn unigryw yn hyn o beth, mae ardaloedd yng Ngheredigion, Sir Benfro, Cernyw a Dyfnaint, i enwi dim ond rhai, yn adrodd am broblemau tebyg.

“Yn y cyngor llawn heddiw, byddai’n holi i weddill cynghorwyr Gwynedd fy nghefnogi yn fy nghais i alw ar Lywodraeth y DU i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr yn yr un modd a beiciau modur ar y tir.

“Dylai bod pob cerbyd dŵr personol yn cael trwydded ac yswiriant cyn ei ddefnyddio ar y môr a bod pob gyrrwr yn cael prawf ar ei allu i drin y peiriant a'i wybodaeth o reolau mordwyo.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2020-10-01 15:03:52 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns