Angen cydweithio i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol Cricieth

Yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd, yr wythnos hon (1 Mai), bydd y Cynghorydd dros y dref, Siân Williams yn codi mater sy’n pery pryder iddi hi a’r gymuned yng Nghricieth - ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc yn bwnc sy’n fy mhoeni fi’n arw,” eglura’r Cynghorydd sy’n cynrychioli trigolion Cricieth ar Gyngor Gwynedd.

“Ein cyfrifoldeb ni, fel cymdeithas, yw meithrin a chefnogi'r genhedlaeth nesaf i fod yn ddinasyddion crwn a chyfrifol sy’n gweld gobaith a gwerth ynddyn nhw eu hunain, ac yn eu pentrefi, trefi a’u hardaloedd. Ac wrth reswm, dydi Cricieth ddim yn unigryw. Mae na ardaloedd eraill ledled Cymru a thu hwnt, yn dioddef heriau tebyg. Does ond angen i chi agor papur newydd neu ddarllen negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i weld sut mae pethau.”

Cyng. Sian Williams 

Fel mae’r dydd wedi bod yn ymestyn a’r tywydd braf yn cyrraedd, mae trigolion y dref wedi profi mwy o drafferthion. Cafwyd problemau tebyg yn y dref llynedd, gyda phobl ifanc yn ymgynnull mewn criwiau mawr yn ymddwyn yn fygythiol, yn taflu poteli ac yn tresmasu ar dir preifat.

Bellach, mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd yn nhrefi Cricieth, Pwllheli a Chaernarfon, fel bod yr heddlu â phwerau ychwanegol i daclo ymddygiad penodol, er mwyn lleddfu ar unrhyw broblemau all godi. Mae’r gorchmynion tair blynedd mewn grym ers mis Awst y llynedd.

Yn ôl y Cynghorydd Siân Williams: “Mae’n bwysig ein bod ni’n mynd at wraidd y trafferthion ma. Pam bod pobl ifanc yn ymddwyn fel hyn a beth allwn ni ei wneud, fel cymuned, i’w cefnogi neu daclo’r trafferthion? Yng Nghricieth, rydym wedi gweld difrod i’r toiledau cyhoeddus a’r maes, dringo ffensys i erddi preifat; dwyn o siopa lleol a chysgu dros nos mewn meysydd parcio.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau eraill yn ymwybodol o’r sefyllfa ac mae gweithredu a chydweithio yn digwydd.

 “Lleiafrif bach o bobl ifanc sy’n ymddwyn fel hyn ac maent wedi eu diarddel o’r ysgol. Mae’r gosb yn profi i fod yn aneffeithiol gan nad ydynt yn derbyn cefnogaeth nac arweiniad trwy’r ysgolion na chan wasanaethau eraill yn ystod y cyfnod hwn.

“Fy nghwestiwn i i’r cyngor sir ydi, oes modd agor trafodaeth gydag adran addysg y cyngor ac asiantaethau cefnogi eraill er mwyn ystyried ffordd arall o daclo’r heriau sy’n wynebu’r bobl ifanc yma a’u teuluoedd? Proses o gynnig arweiniad a chefnogaeth, yn hytrach nac esgymuno pobl ifanc, sy’n amlwg, yn profi heriau bywyd?”

“Mae’n bwysig bod modd i’r gymuned yng Nghricieth gysgu yn dawelach y nos ac ymfalchïo o fod wedi estyn llaw, yn hytrach na phardduo bobl ifanc yr ardal i gyd. Llond llaw sy’n ymddwyn fel hyn, mae’r mwyafrif o’n pobl ifanc yn gyfrifol ac yn foneddigaidd ac mae’n bwysig i ni gofio hynny.

“Dyma ddyfodol ein cymuned ac maen nhw’n werthfawr ac yn bwysig, yn fy marn i. Mae buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf yn greiddiol i ni, yma, yng Ngwynedd.”

Yn ôl y Cynghorydd Dewi Jones sydd â chyfrifoldeb dros addysg yng Ngwynedd: “Rydym yn gweld yn glir fod gwaharddiadau o'r ysgol, er eu bod yn weithred ddisgyblaethol, yn gallu gwaethygu'r sefyllfa yn hytrach na’i datrys.

“Mae pobl ifanc sydd wedi'u gwahardd yn colli strwythur, cefnogaeth a mynediad at fodelau rôl cadarnhaol yn ystod cyfnodau allweddol yn eu bywydau. Yn hytrach na chynnig arweiniad a chymorth pan fo’r angen mwyaf, mae’r weithred o wahardd yn gallu creu pellter a mwy o risg iddynt syrthio’n ddyfnach i batrymau niweidiol.

“Mae'n hanfodol felly ein bod yn edrych ar atebion sy'n canolbwyntio ar gynnwys, cefnogi a grymuso ein pobl ifanc, nid eu gwthio i’r cyrion. Mae'r ffordd hwn hefyd yn cryfhau ein cymunedau lleol yn y tymor hir.

“Dwi’n falch bod y Cynghorydd dros Gricieth wedi codi’r mater pwysig yma, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod i drafod camau pellach a chydweithio.”

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Courtney Jones
    published this page in Newyddion 2025-05-01 16:41:43 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns