Mae arweinyddion cymunedol Plaid Cymru yn galw am gyfarfod brys gydag asiantaethau sydd â chyfrifoldeb dros Afon Aber yn Abergwyngregyn, Gwynedd yn dilyn ail lifogydd yn yr ardal mewn cwta dau fis.
Yn ôl y Cynghorydd Gwynedd sy’n cynrychioli’r ardal, Dafydd Meurig: “Mae’n hen bryd tynnu’r asiantaethau ynghyd i liniaru’r problemau sy’n wynebu trigolion yn fy ardal i.
“Dyw poeni am law mawr, ei effaith a’i ddifrod ddim yn brofiad braf i neb, mae’n amser i Gyfoeth Naturiol Cymru eistedd o amgylch y bwrdd i drafod y problemau gyda Network Rail, Dŵr Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Cymuned Abergwyngregyn a rhoi cynllun brys ar waith.
Ym mis Awst, cafodd adeiladau yn yr un ardal, sef dau gartref ac un busnes eu difrodi oherwydd i’r afon orlifo. Ar y pryd, soniwyd mai digwyddiad eithafol unigryw oedd hwnnw.
Yn ol y Cynghorydd Dafydd Meurig: “O fod yng nghanol y trafferthion gyda’r trigolion lleol dros y dyddiau diwethaf, mae’n amlwg bod angen ymchwilio ymhellach a dod o hyd i ddatrysiad.
“Mae tri chartref wedi eu gorlifo y tro hwn, a bydd angen asesu’r difrod. Yn ffodus, roedd y tai yn parhau yn wag ers y llifogydd ddiwedd yr haf. Ond bydd y gwaith o ail ddechrau’r clirio angen ei ail gychwyn unwaith eto. Mae’n dorcalonnus!
“Mae’r gwaith o glirio’r llanast sy’n cael ei gario gyda dŵr ar hyd y lonydd, y caeau, y gwrychoedd a’r Afon, hefyd angen sylw brys.
“Rydym yn ddiolchgar i staff Cyngor Gwynedd am eu cymorth ac i’r bobl leol am eu cefnogaeth. Ond mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru symud yn fuan, i asesu’r problemau, wrth i ni brysuro at fisoedd gwlyb y gaeaf.
Yn ôl Aelod Senedd Cymru dros yr ardal, Siân Gwenllian: “Dwi’n ddiolchgar i’r Cynghorydd dros yr ardal a swyddogion y Cyngor am eu gwaith yn Abergwyngregyn dros y dyddiau diwethaf.
“Mae nghalon i’n gwaedu dros y trigolion sy’n gweld llifogydd yn eu heiddo am yr ail waith mewn dau fis - mae’n gwbl annerbyniol. Byddaf yn cysylltu â’r Gweinidog sydd â’r cyfrifoldeb dros yr amgylchedd i bwyso arni am drafodaeth frys ar y mater hwn.
“Dwi’n uno yn yr alwad gan y Cynghorydd Dafydd Meurig i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r asiantaethau eraill at y bwrdd i drafod datrysiad buan dros drigolion yr ardal.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter