Angen gweithredu a chefnogi ardaloedd gwledig NAWR, yn ôl arweinydd y Blaid yng Ngwynedd

Mae Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (a welir yn y llun) wedi galw ar Weinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AC, i amlinellu ei chynigion ar gyfer cynllun adfer economaidd i gefn gwlad Cymru er mwyn cefnogi amaethwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau gwledig sy’n delio â Covid-19.

Daw galwad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn ei rôl fel Cyd-Gadeirydd Pwyllgor Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).

“Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei chefnogi yn ystod y cyfnod digynsail yma. Fel arweinydd Cyngor Gwynedd, mae'r economi wledig yn hanfodol bwysig i bobl a busnesau'r ardal hon.

“Dwi’n awyddus i wybod pa becynnau cymorth gall y Gweinidog Materion Gwledig ei chynnig i ffrydiau incwm o fewn busnesau arallgyfeirio, megis twristiaeth, contractwyr amaethyddol, bwyd a diod ac ati.

“Micro-gwmnïau yw'r rhain sy’n gysylltiedig â busnes amaethyddol sy’n amlach na pheidio, ddim yn gymwys ar gyfer unrhyw becynnau cymorth gan y Llywodraeth. Yn aml iawn, y busnesau arallgyfeirio yma sy’n gwneud y gwahaniaeth rhwng cadw dau ben llinyn ynghyd yn ariannol, neu beidio.

“Dwi hefyd yn poeni am les ffermwyr mewn ardaloedd gwledig, a dwi’n awyddus i glywed gan y Gweinidog lle byddai cefnogaeth i redeg fferm yn dod, pe bai ffermwr/wraig a’i deulu / theulu yn mynd yn sâl o ganlyniad i Covid-19.

“Rydyn ni yng nghanol y cyfnod wyna a lloia gwanwyn ar nifer o ffermydd, ac er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid, mae angen rhoi canllawiau a mesurau ymarferol ar waith a’u cyfathrebu gyda’r diwydiant.

“Yn ogystal, mae bygythiadau gwirioneddol i fusnesau amaethyddol, o ganlyniad i Covid-19. Mae prisiau cig oen wedi gostwng oherwydd effaith y gadwyn gyflenwi. Mae cau gwestai a bwytai wedi cael effaith uniongyrchol a dwys ar y galw am gig oen a chig eidion o Gymru.”

“Mae'n destun pryder ychwanegol, gweld bod cig coch rhad yn cael ei fewnforio o Ddwyrain Ewrop, oherwydd y galw sydd am friwgig gan gwsmeriaid. Mae'n cael effaith uniongyrchol ar werth a gorgyflenwad y toriadau cig o Gymru sy’n weddill o’r carcas, heb farchnad iddo.

“Yn y sector llaeth, mae ffermwyr wedi cael eu gorfodi i gael gwared ar filoedd o litrau o laeth yn ddyddiol, gan nad oes gan brosesydd blaenllaw sy'n cyflenwi cwmnïau fel Costa, Starbucks, British Airways a mordeithiau P&O gwsmeriaid ar gyfer y llaeth.

Siawns mai dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a rhoi mesurau ar waith i gynnal y proseswyr hyn. Os yw'r pandemig hwn wedi dysgu unrhyw beth i ni, yna pwysigrwydd prynu cynnyrch lleol, ffres Cymreig o ansawdd yw hynny.”

Roedd y Cynghorydd Siencyn, sy'n cyd-gadeirio Fforwm Gwledig WLGA gyda Chynghorydd Sir Powys, Rosemarie Harris, hefyd yn cwestiynu sut gallai’r WLGA a Llywodraeth Cymru gydweithio er mwyn sicrhau bod busnesau bach gwledig yn manteisio ar y cynnydd yn y galw anochel ddaw, unwaith bydd busnesau'n ail ddechrau masnachu pan ddaw rheoliadau Covid-19 i ben.

“Mae angen i gefnogaeth ‘wledig-benodol’ gael eu rhoi ar waith gan Lesley Griffiths i gefnogi’r economi wledig. Mae hi'n hen bryd i rai o'r cynlluniau gael eu rhannu ag unigolion allweddol, fel ein bod yn gallu dechrau'r broses o ddarparu pecynnau cymorth i'n hardaloedd gwledig ledled Cymru, cyn ei bod hi'n rhy hwyr!” meddai’r Cynghorydd Siencyn.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns