Arweiniad y Blaid yn dod a chartref nyrsio newydd dan law awdurdod lleol yng Nghymru, gam yn nes

Bydd Cartref Nyrsio a Gofal Penyberth yn Llŷn yn rhoi Gwynedd ar y map, fel cartref nyrsio newydd dan ofal awdurdod lleol yng Nghymru mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd.

Wrth dorri tir newydd, bydd y safle yn gwasanaethu unigolion sydd angen gofal dementia yn y sir, mewn partneriaeth â Phrifysgol Betsi Cadwaladr. Mae elfen ychwanegol hefyd yn rhan o’r cynlluniau mewn partneriaeth â Chymdeithas Dai Clwyd Alun fydd yn datblygu tai newydd gyda gofal am oes ar gael i’r trigolion fydd angen hynny.

Bydd 32 o welyau preswyl dementia yn y lleoliad a 25 o welyau nyrsio, gyda 15 o’r rheiny yn rhoi blaenoriaeth i gefnogaeth gofal dementia.

Ar hyn o bryd, mae nifer o drigolion Gwynedd sydd â dementia ac angen gofal nyrsio yn derbyn gofal y tu allan i’r sir sy’n golygu symud pobl o’u cymunedau ac oddiwrth eu cyfeillion gan roi pwysau ychwanegol ar aelodau o’r teulu sydd yn awyddus i ymweld â’i hanwyliaid.

Yn ôl aelod cabinet dros ofal, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan; “Dwi’n falch o weledigaeth y Blaid yng Ngwynedd i symud y datblygiad yma yn ei flaen. Gyda’r ewyllys gwleidyddol, gallwn ni gyflawni cymaint er lles ein trigolion mwya bregus.

“Cytunodd y cabinet i ni baratoi achos busnes, ar lefel strategol, i asesu gallu Cyngor Gwynedd i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn rhedeg cartref gofal preswyl a nyrsio ar safle Penyberth. Edrychaf ymlaen at gydweithio â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Tai Clwyd Alun, Llywodraeth Cymru a’r gymuned leol i ddarparu’r cynllun chwyldroadol yma.”

Caeodd Cartref Gofal Penrhos ar y safle, a oedd yn cael ei redeg gan y gymuned Bwyleg nôl yn 2020 oherwydd lleihad yn nifer y defnyddwyr a’r angen i fuddsoddi a gwella’r adnoddau oedd wedi dyddio’n arw. 

Ar hyn o bryd, mae darpariaeth cartrefi nyrsio yn cael eu darparu yn llwyr gan y sector breifat yn annibynnol ac o gael darpariaeth wedi ei reoli gan lywodraeth leol a’r Bwrdd Iechyd mae’n unioni’r balans a lleihau unrhyw risg all godi yn y maes gofal a nyrsio o fethu darparu cefnogaeth i drigolion lleol mewn rhai ardaloedd gwledig. Mae hyn yn cyd fynd â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ail gydbwyso gofal a chymorth sy’n nodi’r budd o gael marchnad gofal cytbwys.

Bydd achos strategol y Cyngor yn ceisio am £14.6m o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru i adeiladu’r cartref. Wedi ei adeiladu, bydd yn cael ei redeg ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Betsi Cadwaladr, trwy ffrydiau ariannol cyfredol refeniw.

Yn ôl arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Dwi’n gyffrous iawn am y datblygiad yma. Rydyn ni wedi bod yn trafod y lleoliad ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae cael gweld symud yn y cynlluniau, yn newydd da.

“Bydd y ddarpariaeth yn gwasanaethu, nid yn unig trigolion Llŷn ac Eifionydd, ond hefyd, trigolion ardal Meirionnydd sydd angen gofal dementia.”

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig, Arllechwedd: “Mae’r hyn da ni’n ei wneud yn Llanbedrog yn chwyldroadol. Yn draddodiadol, y sector breifat sydd wedi bod yn darparu’r holl welyau nyrsio yn y sir ac mae na rhywbeth reit anghyfforddus yn fanno, gan bod ni’n gosod ein hwyau i gyd yn yr un fasged.

“Fel cyn aelod cabinet yn y maes, mae wedi bod yn bryder y gallai rhywbeth fynd o chwith gydag un o’n darparwyr preifat fyddai allan o’n dwylo ni. Lle fyddai hynny yn ein gadael wrth geisio cartrefu trigolion ein sir, sydd angen eu nyrsio?

“Rydyn ni’n gwybod bod cael gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn llawer mwy heriol, nac mewn trefi a dinasoedd, felly dwi’n ymfalchïo’n fawr yn yr egwyddor yma a’r datblygiad ei hun ym Mhenyberth.”

Y bwriad yw cychwyn y cais cynllunio ddiwedd yr haf eleni.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Joshua Roberts
    published this page in Newyddion 2023-04-14 10:06:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns