Arweinydd tai Gwynedd yn cyflwyno cynllun tai arloesol

Heddiw, mae’r Cynghorydd Plaid Cymru, Craig ab Iago sy’n arwain ar dai yng Ngwynedd yn falch o gyhoeddi cynllun tai newydd i’r sir, gydag isafswm cyllideb o £77miliwn dros y saith mlynedd nesaf

Pwrpas y cynllun yw ymateb i'r argyfwng cynyddol sydd ym maes tai yng Ngwynedd, gan roi’r pwyslais ar gartrefu pobl leol, pobl sydd mewn angen a buddsoddi yn stoc dai y sir i’r dyfodol.

“Dwi’n byw, bwyta a chysgu tai Gwynedd ar y funud, gan mod i’n grediniol bod rhaid herio Llywodraeth Cymru a phwyso am newidiadau er mwyn symud ar y broblem dai sydd gennym yng Ngwynedd. Mae’r cynllun hwn yn gosod llwybr clir i fynd i’r afael â’r problemau y gallwn ni eu taclo.

“Ond wrth gwrs, dyw’r grym ddim gennym i wneud popeth. Mae’n rhaid cael yr awydd a’r awch gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford i wneud newidiadau pellgyrhaeddol os yw Llywodraeth Lafur o ddifri am daclo problemau tai a chartrefu pobl yng Ngwynedd a siroedd eraill ledled Cymru.”

Mae pum prif amcan i’r Cynllun Tai yng Ngwynedd:

  • sicrhau na fydd neb yn gweld eu hunain yn ddigartref yng Ngwynedd
  • sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i bawb sydd eu hangen
  • sicrhau bod cartref i bawb yng Ngwynedd sy’n fforddiadwy iddyn nhw
  • sicrhau bod tai Gwynedd yn llesol i’r amgylchedd
  • sicrhau bod cartrefi yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a llesiant trigolion Gwynedd

“Mae’n gynllun uchelgeisiol, lle bydd gofyn am fuddsoddiad ariannol, cydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau eraill, gwaith caled a dyfalbarhad. Ond dyma’r weledigaeth, dyma’r cynllun a dyma’r llwybr y byddwn yn ei throedio yng Ngwynedd dros y 7 mlynedd nesaf.”

Fel rhan o’r cynllun, y bwriad yw adeiladu dros 1500 o unedau newydd ar gyfer trigolion Gwynedd dros y saith mlynedd nesaf.

Un elfen o’r cynllun yw ail brynu 72 tŷ cymdeithasol er mwyn gallu eu gosod i drigolion lleol sy’n chwilio am gartrefi yng Ngwynedd. Wrth brynu cyn ‘dai cyngor’ sydd ar werth mae’n ffordd o gynyddu’r niferoedd o dai cymdeithasol sydd ar gael i’w rhentu i bobl leol.

Elfen arall o’r cynllun fydd ymestyn y cynllun cymorth i brynu lle mae’r cyngor yn benthyg hyd at 20% o werth y tŷ, hyd at £30,000 tuag at flaendal morgais i brynwyr tro cyntaf. Gall y cynllun ariannu hyd at 100 o dai ar gyfer trigolion lleol, ac os bydd y perchnogion yn gwerthu a symud ymlaen, bydd yr ad-daliad i’r cyngor yn cael ei ddefnyddio er mwyn ail fuddsoddi yn y tŷ nesaf.

Er mwyn cynorthwyo 120 o brynwyr tro cyntaf, mae’r cynllun hefyd yn cynnig y cyfle i osgoi talu’r dreth cyngor i brynwyr tai gwag am flwyddyn ychwanegol wrth i’r perchnogion newydd wneud y gwaith hanfodol i adfer y tai.

O fewn y cynllun hefyd, mae bwriad i ddod a 250 o dai gweigion y sir yn ôl i ddefnydd, trwy gynllun grant. Bwriad y grant fydd cynorthwyo prynwyr tro cyntaf i roi eu troed ar yr ystol eiddo gan roi cefnogaeth iddynt adnewyddu tai gweigion o fewn cymunedau Gwynedd.

Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago: “Un weledigaeth fawr sy’n clymu’r cynllun hwn sef cynorthwyo trigolion Gwynedd sy’n dymuno parhau i fyw mewn cartrefi o fewn eu sir. Mae’n her enfawr, ond yn her dwi a chynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd wedi ymrwymo iddi. Dwi’n edrych ymlaen at y sialens.”

“Hoffwn ddiolch i dîm adran tai Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn cydlynu, ymchwilio a pharatoi’r cynllun newydd. Mae’n gyfnod cyffrous i ni ac i bobl Gwynedd.”

Bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cyflwyno ei gynllun tai i gabinet Cyngor Gwynedd heddiw (15 o Ragfyr 2020).


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2020-12-09 17:14:32 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns