Balchder bod prentisiaethau yn troi’n swyddi yng Ngwynedd

Mae deuddeg prentis sydd wedi cwblhau prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd bellach wedi derbyn swyddi o fewn y sefydliad. "Yn eu mysg, mae Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, Technegydd ym maes Priffyrdd, Cynghorwyr Cwsmer, Cymorthyddion Adnoddau Dynol, Is-Arweinydd Ieuenctid a Chymhorthydd Gofal," meddai'r Cynghorydd Plaid Cymru, Nia Jeffreys (yn y llun) sydd a chyfrifoldeb dros yrfaoedd yng Ngwynedd. 

Hyd yma eleni, mae 30 prentis wedi eu penodi i weithio i’r awdurdod, gyda mwy i ddod dros y misoedd nesaf. Mae bwriad i gynnig swyddi i 20 o brentisiaid bob blwyddyn o hyn ymlaen.

Un o’r rhai sydd wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol i’r Cyngor yw Steffan William Chambers, 23 oed o Ddyffryn Ardudwy (yn y llun).

“Does dim dau ddiwrnod yr un fath yn y rôl,” meddai Steffan sydd wedi llwyddo i ddychwelyd nôl adref i fyw, diolch i’r cynllun prentisiaeth.

“Ron i’n gweithio yng Nghaerfyrddin wedi gorffen fy ngradd yn y Brifysgol yn Aberystwyth a phan welais yr hysbyseb am brentisiaethau gyda Chyngor Gwynedd, dyma fachu ar y cyfle i ymgeisio.

“Erbyn hyn, dwi’n astudio gradd feistr gwasanaethau cymdeithasol ac mae hynny o ganlyniad i’r brentisiaeth dwi wedi ei gael gyda’r Cyngor. Gradd mewn gwleidyddiaeth sydd gen i, felly mae cynllun prentisiaeth Gwynedd wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu ac arbenigo mewn maes cwbl wahanol. Dwi’n falch iawn o’r cyfle.”

Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru sydd â’r cyfrifoldeb dros y cynllun, Nia Jeffreys o Borthmadog: “Dwi’n falch iawn o’r buddsoddiad mae’r Cyngor, dan arweiniad Plaid Cymru wedi ei roi i’r cynllun. Mae buddsoddiad o bron i £1miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun prentisiaeth ac mae’n cynnig cyfle arbennig i drigolion Gwynedd dderbyn hyfforddiant a chyflog wrth ddysgu am eu swydd.

Mae clywed hanes Steffan yn chwa o awyr iach a dwi’n ei longyfarch o a gweddill y prentisiaid ar eu camp.

“Mae’r Blaid yng Ngwynedd yn arwain y ffordd ym maes hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ymfalchïo yn y cydweithio sy’n digwydd rhwng y Cyngor a’r colegau. Mae cynnig llwybr gyrfa a swyddi o safon i drigolion Gwynedd yn destun balchder mawr i mi a holl gynghorwyr y sir.”

Ers y gwanwyn, mae Steffan wedi derbyn swydd fel Cydlynydd Gofal Cymunedol yng Ngwynedd, wedi iddo gwblhau ei brentisiaeth ddwy flynedd. Mae’n gweithio’n rhan amser wrth astudio ar gyfer ei radd feistr.

Yn ôl Steffan, roedd y cyfnod o weithio yn ystod Covid19 yn dangos y gorau mewn pobl,

“Roedd pawb yn gweithio fel un tîm, yn awyddus i gydweithio er mwyn diogelu ein trigolion bregus. Erbyn hyn, mae na arwydd o flinder yn y gweithlu ac rydyn ni’n wynebu’r un heriau ac mae’r sector gofal yn genedlaethol yn ei wynebu, sef prinder gofalwyr.

“Mae’n faes difyr iawn i weithio ynddo ac mae na amrywiaeth mawr yn y rôl. Mae’n gofalwyr yn gwneud gwaith anhygoel ar lawr gwlad. Yn amlwg, mae natur fy ngwaith i wedi newid, ond rydyn ni’n dechrau dod nôl i rywfaint o drefn ac yn dechrau cynnal ymweliadau ac adolygiadau ar y cyd, allan ar safle erbyn hyn. Dwi’n mwynhau’r gwaith yn fawr iawn ac yn falch o allu gweithio nôl yn fy nghymuned,” meddai Steffan.

Bydd Cyngor Gwynedd yn hysbysebu cyfleoedd pellach i ymuno gyda’r awdurdod fel prentis yn fuan. Am y diweddaraf, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/prentisiaethau.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y maes gofal, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Swyddi/SOS-Galw-Gofalwyr.aspx 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-11-17 12:10:48 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns