Clirio, glanhau, trwsio ac atgyweirio – balchder cymunedol fydd y flaenoriaeth i gymunedau Gwynedd ar ddechrau 2022, wrth i gabinet Plaid Cymru Gwynedd drafod buddsoddi £1.5miliwn i sicrhau cymunedau glân a thaclus yn y sir mewn cyfarfod yr wythnos hon (30 Tachwedd).
Trwy gyflogi swyddogion, buddsoddi mewn cerbydau ac offer, mae cynghorwyr Plaid Cymru yn awyddus i sicrhau eu bod yn gwrando ar bryderon trigolion am ardaloedd blêr sydd angen sylw a gosod cynllun gweithredu ymarferol mewn lle i daclo ardaloedd problemus o fewn cymunedau’r sir.
Torri a symud chwyn a gordyfiant; glanhau arwyddion ffyrdd; golchi, atgyweirio a gosod biniau stryd a biniau baw cŵn; clirio tipio neu lanast anghyfreithlon; mân waith peintio a thacluso ymylon ffyrdd - rhai o’r tasgau y bydd y timau newydd yn gofalu amdanynt o fewn cymunedau’r sir o ddechrau’r flwyddyn ymlaen, os bydd y cabinet yn pasio’r cynnig i fuddsoddi.
Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru sydd â’r cyfrifoldeb dros y gwaith, Catrin Wager (sy'n y llun),mae’r cynllun Cymunedau Glân a Thaclus yn rhoi balchder a hygrededd cymunedol yn ôl i ardaloedd: “Fy ngobaith i yw y bydd trigolion yn teimlo bod pryd a gwedd eu hardaloedd yn gwella, bod strydoedd, pentrefi a threfi yn twtio, a gwaith yn digwydd i wella ansawdd eu hamgylchedd wrth fynd i’r afael ag ardaloedd problemus.
“Trwy gydweithio â chynghorwyr cymuned, tref a dinas yn ogystal â phartneriaid a sefydliadau lleol, bydd ein gwaith ni fel cynghorwyr sir hefyd yn allweddol er mwyn cyfleu lle mae angen amser ac adnoddau i glirio, twtio a glanhau a rhoi dos go iawn o ofal i wardiau cymunedol.”
Dyw’r syniad o dimau cymunedol ddim yn un newydd i ardaloedd Gwynedd. Rhaglen llymder y Torïaid yn San Steffan, a thoriadau i gyllidebau cynghorau sir gan Lywodraeth Llafur Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi gorfodi diddymu cyllidebau i wasanaethau cymunedol ledled Cymru.
Yn y llun: Cynghorydd Plaid Cymru, Catrin Wager yng ngwaelod Allt Glanrafon, Bangor yn dangos y math o waith byddai’r timau cymunedol glân a thaclus yn gallu ei daclo mewn ardaloedd ledled Gwynedd
“Ond wedi gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau, dyma fynd ati o’r newydd i sicrhau bod buddsoddiad mewn lle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl leol yn eu cymunedau. Mae cyfnod Covid-19 wedi bod yn un anodd i bobl leol, a diffyg gweithredu mewn ardaloedd oherwydd cyfyngiadau. Y gobaith nawr yw mynd ati gydag angerdd i ail afael a gwneud gwelliannau,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.
“Mae ymdymeimlad o falchder cymunedol yn rhoi hwb i drigolion, yn rhoi pwrpas a ffocws ar weithgareddau dyddiol pobl wrth fynd am dro, gerdded i’r ysgol neu i’r gwaith neu fynd allan i siopa bwyd.
“Mae’n bwnc pwysig, mae’n bwnc sy’n flaengar ym meddyliau cymunedau ac mae’n bwnc sy’n effeithio ar fywydau pobl yn ddyddiol. Rhaid i ni ddiolch i nifer o sefydliadu a grwpiau gwirfoddol sy’n gwneud gwaith arwrol yn twtio, codi sbwriel, plannu blodau ac ati ledled y sir. Cydweithio â’r grwpiau hynny, yn ogystal â’r swyddogion arferol sy’n gweithio i wahanol adrannau’r Cyngor fydd y Tîm Cymunedau Glân a Thaclus. Byddan nhw’n ddarn arall yn y jig-so mawr.”
Caiff y cais i awdurdodi’r buddsoddiad ariannol ei drafod gan gynghorwyr Plaid Cymru yng nghabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth, 30 o Dachwedd 2021.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter