Balchder cymunedol yn allweddol i gadw Dolgellau yn lân ac yn daclus

“Mae balchder cymunedol yn allweddol i gadw tref Dolgellau yn lân ac yn daclus,” meddai’r Cynghorydd lleol Linda Morgan wrth i bobl gwyno am lanast cŵn mewn rhai lleoliadau yn y dref.

Yn ystod y cyfyngiadau a osodwyd ar bob cymuned yng Nghymru, oherwydd COVID-19, mae gallu pobl i wneud ymarfer corff o’u cartrefi eu hunain wedi bod yn hanfodol. Ac i bobl sy'n hoff o anifeiliaid, mae eu cŵn anwes wedi bod yn achubiaeth i annog ymarfer corff a'r awyr agored, hyd yn oed yng nghanol dyddiau llwm, tywyll y gaeaf.

“I bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain, mae anifeiliaid anwes wedi bod yn gysur mawr iddynt yn ystod y cyfyngiadau cenedlaethol hyn,” eglura Cynghorydd de Dolgellau, Linda Morgan sydd ei hun wedi bod yn cysgodi, oherwydd rhesymau meddygol.

“Yn llythrennol, mae gallu gadael y tŷ a mynd am dro wedi bod yn chwa o awyr iach. Mae'n clirio'r meddwl ac yn codi'r ysbryd.

“Rwy’n gweld y broblem i mi fy hun, pan fyddaf yn mynd allan am dro yn ddyddiol. Rwyf hefyd wedi derbyn nifer o gwynion gan drigolion lleol.

“Mae mwyafrif y perchnogion cŵn yn Nolgellau yn gyfrifol ac yn barchus wrth grwydro. Maent yn ymwybodol o'u hamgylchfyd, maent yn gofalu am yr amgylchedd lleol ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu hanifeiliaid.

“Nid oes amheuaeth gennyf, mai ond llond llaw bach o bobl sydd ddim yn cymryd sylw ac sy'n gadael i'w hanifeiliaid faeddu'r palmentydd a'r ymylon glaswellt. Maen nhw'n difetha ein tref leol trwy ymddwyn yn anghyfrifol.”

Mae problemau wedi codi mewn ardaloedd o amgylch ystâd dai Penycaeau, Pen Ucha’r Dre ger y bont droed, Porth Canol ac ar waelod Ffordd Cader i lawr at Y Lawnt. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn ardaloedd lle mae plant a theuluoedd â phramiau yn cerdded i'r dref, yn ogystal ag eiddo lle mae rhai trigolion hŷn yn byw.

“Rwy’n bryderus iawn am ein nyrsys cymunedol a’n gofalwyr sydd i mewn ac allan o dai lleol yn gofalu am bobl ddydd a nos. Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth, nid cyrraedd y palmentydd yma a wynebu'r golygfeydd afiach hyn” meddai'r Cynghorydd Morgan.

Mae gwaith ar y gweill, diolch i drafodaethau Cynghorwyr Dolgellau Linda Morgan a Dyfrig Siencyn gyda Chyngor Gwynedd. Mae swyddogion yn gweithio ar gynllun peilot i gyflwyno arwyddion a gorfodi ymwybyddiaeth newydd yn y dref.

“Mae mwyafrif y bobl yn Nolgellau yn ymfalchïo yn ein tref,” meddai Cynghorydd gogledd Dolgellau, Dyfrig Siencyn (yn y llun isod). “Rydym yn annog y gymuned i fwynhau eu hamgylchedd naturiol yn ystod y pandemig hwn, ac i wneud hynny'n ddiogel, gan gadw'n lleol, cadw eu pellter a gweithredu'n gyfrifol. Mae baeddu cŵn yn arfer ffiaidd, a byddem yn annog pobl i lanhau a chael gwared ar eu bagiau yn gyfrifol.”

Cyn Covid roedd Dolgellau yn dref farchnad lewyrchus a phrysur, gyda llawer o siopau annibynnol. Mae'r Cynghorydd Linda Morgan wedi bod yn brysur yn hyrwyddo busnesau lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac mae'n annog pobl leol i gefnogi busnesau sy'n cynnig gwasanaethau ar-lein a ffôn yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae rhai busnesau wedi addasu’n dda ac yn parhau i gynnig eu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd. Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf, unwaith eto, yn gweithio gyda’r gymuned i blannu a thyfu blodau lliwgar ym mlychau planhigion canol y dref, yn barod ar gyfer pryd y byddwn yn gallu dychwelyd i ymweld â’r siopau a busnesau lleol sy’n gwneud Dolgellau mor unigryw.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2021-03-23 09:13:47 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns