Bangor yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws Cymuned Ddi-blastig gan yr elusen gadwraeth forol, Surfers Against Sewage (SAS).
Mae’r ddinas yn ymuno â rhwydwaith o gymunedau ledled y DU sy'n arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â chael gwared â phlastigion. Mae'r statws wedi'i rhoi i gydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud i ddechrau lleihau effaith plastig un-tro ar yr amgylchedd.
Dechreuodd Harry Riley (3ydd o'r chwith yn y llun, efo Elin Walker Jones, Mark Burrow a Catrin Wager), cyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yr ymgyrch wrth astudio ar gyfer gradd mewn Bioleg.
Meddai Harry: “Mae Bangor wastad wedi bod ar flaen y gad mewn ymchwil ar blastig, ac fel myfyriwr roedd yn anrhydedd cwrdd â gweithio gyda Dr Christian Dunn.
“Fel academydd blaenllaw sy’n ymchwilio i effaith meicroblastigion ledled y byd, ac sy’n un o sylfaenwyr Canolfan Ymchwil Plastig Cymru, cefais fy ysbrydoli gan ei waith. Roedd gen i’r awydd i wneud gwahaniaeth i'r ddinas roeddwn i wedi dod i'w charu. Daeth Dr Dunn yn rhan o’r grŵp llywio ochr yn ochr â Chynghorwyr lleol ac yna Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Mark Barrow.”
Gan gydweithio â phartneriaid eraill gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Cyngor Dinas Bangor, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau, llwyddodd Harry a'r Grŵp Llywio i ddenu dilynwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Erbyn hyn mae hyd at 2,000 o ddilynwyr yn darllen eu negeseuon gyda chyrhaeddiad o dros 30,000. Mae’r criw wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd gan gynnwys casglu sbwriel a glanhau traethau gydag thros 500 o bobl yn cymryd rhan.
Mae'r tîm wedi codi ymwybyddiaeth o effaith plastigion ar yr amgylchedd drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau addysgol. Un o’r rheiny oedd 'Gŵyl Flynyddol Darganfod' sy'n ceisio ysbrydoli pobl ifanc ledled y gogledd. Defnyddiodd y grŵp offer microsgop arbenigol a thywod o draeth Benllech er mwyn dangos faint o lygredd meicroblastig sy'n bresennol yno.
Mae’r grŵp yn amcangyfrif eu bod wedi trafod effaith plastig gydag o leiaf 3000 o bobl ers i'r gwaith ddechrau, ac mae eu gwaith wedi ei gydnabod yn San Steffan gan Hywel Williams AS Arfon.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, sy’n cynrychioli Ward Menai (Bangor) ar Gyngor Gwynedd: “Fel aelod lleol sy’n cynrychioli Bangor dwi’n ymwybodol bod materion gwastraff yn bryder enfawr i drigolion.
Dyw gweithio tuag at gyflawni'r statws hwn ddim yn golygu na fydd unrhyw blastig yn y ddinas. Yn hytrach, mae'n ymwneud â chymryd rhan mewn sgwrs am sut rydyn ni'n defnyddio deunyddiau, a sut rydym am gyflwyno diwylliant o ail ddefnyddio a lleihau ein dibyniaeth ar eitemau tafladwy.
“Mae yna lawer o waith i'w wneud eto, ond mae’r cam cyntaf pwysig yma yn dangos y gefnogaeth sydd i’r pwnc ym Mangor. Cam cyffrous arall yn y siwrnai yw'r Ganolfan Ailgylchu sydd newydd ei hadnewyddu ym Mangor. Bydd, pan yn gwbl weithredol, yn cynnwys siop ailddefnyddio ble gall trigolion adael eitem, dodrefn ac ati y gellir eu hail ddefnyddio, ac ar gael i drigolion eraill, yn hytrach na chael eu taflu. Y gobaith yw y bydd derbyn statws di-blastig a’r defnydd o siopau ailddefnyddio yn cyfrannu at newid y meddylfryd am wastraff ym Mangor, gan gyfrannu at ddinas lanach a gwyrddach i'r dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, sy'n cynrychioli Ward Glyder ar Gynghorau Dinas a Gwynedd: “Mae hi wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan o'r grŵp llywio i ennill statws Di-Blastig i Fangor. Ron i'n falch o gyflwyno cynigion ar lefel Cyngor Sir a Chyngor Dinas yn holi am gefnogi'r bwriad o leihau plastigau un defnydd yn ein cymunedau. Mae gweld y garreg filltir bwysig hon yn ffrwyth llafur blynyddoedd o waith.
Mae Christophere Jere yn rhedeg tafarn y Belle Vue, Tap & Spile a Chaffi’r Pafiliwn ar y pier ym Mangor, ac wedi gwneud addewid i leihau’r defnydd o blastigion un-tro.
Meddai: “Dwi'n gwybod bod fy nghwsmeriaid yn poeni am faterion amgylcheddol, ac mae llawer o gwsmeriaid wedi cysylltu â mi yn gofyn imi gyfnewid gwellt plastig gyda rhai papur er enghraifft. Fel busnes, mae'n gwneud synnwyr i ni ymrwymo i leihau ein defnydd o blastigion un-tro gan mai dyna yw dymuniad ein cwsmeriaid. Ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar leihau'r potensial ar gyfer sbwriel ar ein strydoedd yn ogystal â gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.”
Mewn ymateb i’r newyddion fod Bangor Di-Blastig wedi llwyddo i dderbyn eu hachrediad, dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Maer Bangor: "Ar ran Cyngor Dinas Bangor, dwi’n croesawu’r newyddion bod y ddinas wedi derbyn y statws hwn. Bangor yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i dderbyn y statws hwn, a dwi’n falch iawn o hynny. Diolch i bawb am y cydweithio ac fel Cyngor Dinas, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn gyda'n partneriaid a gweithio tuag at greu dinas wirioneddol werdd.”
Nod rhwydwaith Cymunedau Di-blastig Surfers Against Sewage yw sicrhau bod y cymunedau ble rydym yn byw yn rhydd o blastigion un-tro. Gan ddefnyddio cynllun pum pwynt, y nod yw grymuso cymunedau i weithredu ar lawr gwlad yn lleol ac yna adeiladu ar hynny.
Dywed yr elusen cadwraeth forol, sydd wedi ei lleoli yn St Agnes yng Nghernyw, ei bod am uno cymunedau i fynd i'r afael â phlastig o'r traeth ar hyd y gadwyn gyflenwi. Maent yn dweud nad yw'n golygu tynnu'r holl blastig o'n bywydau, ond gwaredu ein dibyniaeth ar blastig sy’n cael ei daflu a newid y system sy'n ei gynhyrchu.
Dywedodd Rachel Yates, Swyddog Prosiect Cymunedau Di-blastig SAS: “Mae'n wych gweld y gwaith y mae Bangor wedi'i wneud i leihau argaeledd plastig y gellir ei osgoi, a chodi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ail-lenwi ac ail-ddefnyddio.
“Mae gennym ni dros chwe chant o gymunedau ledled y DU yn gweithio i leihau plastig un-tro a’r effaith y mae’n ei gael ar ein hamgylchedd. Mae pob cam y mae'r cymunedau hynny a'r unigolion ynddynt yn ei gymryd yn gam tuag at fynd i'r afael â'r broblem yn y man cyntaf. Mae’n gyfle i herio ein diwylliant o daflu ac annog yr arferion a'r newidiadau yn y system sydd angen eu gwneud yn weladwy.”
Ychwanegodd Harry Riley: “Mae cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd o ran gwneud Bangor yn wirioneddol “ddi-blastig” ac yn anffodus, fel cymaint o brosiectau eraill, mae'r pandemig wedi arafu’r gwaith am y tro.
“Ond rydym yn chwilio am bobl leol, pobl ifanc neu fyfyrwyr brwd i gymryd rhan a defnyddio'r statws hwn fel anogaeth a gyriant i wneud hyn! Byddwn yn cynnal dathliad am dderbyn y statws, ar-lein ar 18 Mai, ac rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i fynychu.
“Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein tudalen Facebook @PlasticFreeBangor ac mae croeso i drigolion sydd â diddordeb gysylltu â ni trwy'r dudalen ar unrhyw adeg.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter