Buddsoddi yn yr iaith Gymraeg ac addysg yn Eifionydd

Mae’r iaith Gymraeg ac addysg ar flaen yr agenda yn Eifionydd wrth i bentref Chwilog baratoi ar gyfer buddsoddiad pellach yn yr ysgol leol.

Mae cymuned Chwilog, ger Pwllheli a’r cyffiniau yn paratoi ar gyfer cynnydd yn niferoedd yr ysgol, wrth i fwy o fuddsoddiad mewn tai ar gyfer pobl leol roi cyfle i deuluoedd ffynnu yn yr ardal.

Yr wythnos hon (dydd Mawrth, 24 Ionawr) mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo hysbysiad statudol sydd ei angen i gynyddu capasiti’r ysgol dros 25%, gan roi’r gallu a lle i’r ysgol addysgu hyd at 95 o ddisgyblion o’r nifer presennol, 65 disgybl. Bu cynnydd cyson yn nifer y disgyblion dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae grant cyfalaf a refeniw addysg cyfrwng Cymraeg wedi’i glustnodi i ddatblygu ystafell ddosbarth ychwanegol yn yr ysgol ynghyd ag athro ychwanegol. O’i gytuno gan y cabinet ac wedi’r cyfnod rhybudd statudol, gallai’r datblygiad fod yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi eleni.

“Mae’n galonogol gweld ysgol bentref yng nghanol cymuned Gymraeg lle mae dros 70% o’r trigolion yn siarad Cymraeg yn ffynnu,” eglura’r Cynghorydd Beca Brown sy’n arwain ar addysg yng Nghyngor Gwynedd (llun uchod).

“Mae sicrhau bod y bobl ifanc yma yn Ysgol Chwilog yn cael y cyfleoedd gorau i ffynnu a datblygu o fewn eu lleoliad addysgol yn bwysig, ac rydym yn falch iawn o allu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cynnydd hwn. Bydd ein staff gweithgar yn yr ysgol hefyd yn elwa o adnoddau ychwanegol a gwell amgylchedd waith.”

Cysylltodd corff llywodraethu Ysgol Chwilog, ynghyd ag Ysgol Bro Lleu a Llanllechid â’r adran addysg yn haf 2021 i drafod capasiti. Bu Cyngor Gwynedd yn llwyddiannus yn gwneud ceisiadau am arian i ddatblygu o fewn y tri lleoliad, gyda Chwilog yn dilyn proses rhybudd statudol oherwydd maint y cynnydd yng nghapasiti’r ysgol.

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Tudur, cynrychiolydd Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd sy’n cynnwys ardal Chwilog: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r ardal ac rydym yn gweld y manteision a ddaw yn sgil tai newydd wrth i deuluoedd ifanc ymgartrefu yn yr ardal, diolch i gefnogaeth adeiladwr egwyddorol lleol am werthu’r holl dai i bobl lleol.

“Mae blaengynllunio ar gyfer sicrhau lle i blant ychwanegol fynychu ein hysgol leol yn hanfodol ac dwi’n falch bod cabinet Plaid Cymru Gwynedd wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad i’r ysgol er mwyn datblygu’r capasiti a chreu ystafell ddosbarth ychwanegol.

“Mae creu ysgol sy’n addas i bwrpas ar gyfer staff a phlant yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynnydd a lles. Dwi’n falch iawn bod grant iaith Gymraeg i gyflogi athro/athrawes ychwanegol yn Ysgol Chwilog hefyd wedi’i gytuno er mwyn sicrhau bod y staff a’r disgyblion presennol yn cael cefnogaeth pellach wrth i’r ysgol dyfu.”

Fel rhan o’r hysbysiad statudol, bydd y cyhoedd yn cael 28 diwrnod i wneud sylwadau ar unrhyw newidiadau, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Ebrill.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2023-01-24 14:02:39 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns