Wedi llai na blwyddyn, mae buddsoddiad £1miliwn wedi ei gwblhau ar 101 o dai mewn stad yng Ngwynedd.
Cynllun ar y cyd rhwng Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Chyngor Gwynedd i ddiweddaru’r isadeiledd dŵr yn stad Pentref Helen, Deiniolen sydd wedi elwa o’r buddsoddiad.
Llun o'r Cynghorydd Elfed Williams sy'n diolch i drigolion stad Pentre Helen am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith adnewyddu
Yn ychwanegol i’r buddsoddiad sustem ddŵr a welwyd gosod pibellau newydd o’r llwybrau cerdded i gartrefi pobl, mae gwaith adnewyddu waliau, ffenestri, llwybrau a grisiau i nifer o’r tai wedi ei gwblhau hefyd.
Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru dros Ddeiniolen, Elfed Williams, sydd wedi cydlynu a chefnogi’r trigolion yn ystod y gwaith addasu: “Mae 50 o gartrefi hefyd wedi croesawu gosod dreif i gadw car er mwyn lliniaru’r broblem barcio ar y ffordd gul drwy’r stad. Bydd hyn yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar fywydau trigolion o ddydd i ddydd.”
Yn ffodus i berchnogion preifat rhai o’r tai, cawsant hwythau’r cyfle i dalu am gael gwneud y gwaith o ychwanegu lle parcio i gar y tu allan i’w cartrefi hefyd.
Yn ôl Susan Jones, un o denantiaid y stad: “Dwi’n falch o dderbyn y gwelliannau ac yn hapus iawn gyda’r gwaith a’r gweithwyr. Buo nhw’n hynod o drefnus dros y cyfnod bu’r gwaith yn digwydd, chwarae teg.”
Yn ôl y Cynghorydd: “Fel gyda phob gwaith adeiladu ac addasu, mae problemau ac anawsterau yn codi, ond hoffwn ddiolch i’r trigolion lleol am eu hamynedd a’u cydweithio parod wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
“Mae’r holl waith wedi dod i ben yn daclus a sicrwydd a thawelwch meddwl i’r trigolion bod offer angenrheidiol oedd wedi dyddio, wedi eu diweddaru.
Cwmni lleol o Dremadog, Gwynedd fu’n gyfrifol am y gwaith adnewyddu pibellau dŵr, sef Peirianwyr Sifil Gelli.
“Gan gyflogi nifer o weithwyr lleol, mae defnyddio cwmni Gelli wedi bod yn hwb i economi Gwynedd, ac yn sicrhau ein bod yn cadw buddiannau gwaith prosiectau o’r fath yng nghymunedau Gwynedd,” eglura’r Cynghorydd Elfed Williams.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter