Cadarnhau cais cronfa gwerth £40 miliwn ar gyfer Bangor

Mae Cynghorwyr Bangor wedi croesawu’r newyddion bod cabinet Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru wedi rhoi sêl bendith ar gais gwerth £40 miliwn i fuddsoddi mewn rhaglen adfywio i ganol dinas Bangor.

Gan dargedu Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, mae cynlluniau arloesol Bywiogi Bangor yn cynnwys datblygu canolfan iechyd a lles newydd ar safle strategol yng nghanol y ddinas, gwelliannau amgylcheddol ym Mae Hirael sy’n gysylltiedig â gwaith amddiffyn yr arfordir ynghyd â chysylltiadau teithio llesol rhwng Bae Hirael, Porth Penrhyn a chanol y ddinas.

Mae’r prosiect hefyd yn ceisio datblygu cam cyntaf Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adeiladau Prifysgol Bangor ar Stryd y Deon.

Mae Cynghorwyr Gwynedd sy’n cynrychioli Canol Bangor, Medwyn Hughes a Huw Wyn Jones (yn y llun) wrth eu bodd bod y cais hwn am arian wedi ei gytuno gan gabinet Plaid Cymru Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes: “Mae llawer o waith da yn digwydd ym Mangor, ond fel llawer o drefi a dinasoedd eraill, rydym wedi gweld canol y ddinas yn dirywio, a hynny yn gynt o ganlyniad i effeithiau COVID-19.

“Byddai’r buddsoddiad ariannol hwn yn mynd yn bell i adfywio rhannau o Fangor a dod â mwy o weithgarwch, cyflogaeth a systemau cefnogaeth i bobl leol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones: “Mae gweithio mewn partneriaeth bob amser yn dod â’i fanteision, a dwi’n falch bod y prif sefydliadau yn y maes: Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor yn cydweithio fel un ar y cais ariannol yma.

“Mae Gwynedd bellach wedi symud i gategori blaenoriaeth un y Llywodraeth, gan roi gwell cyfle i’r cais hwn lwyddo yn erbyn nifer o geisiadau Ffyniant Bro eraill ar draws y DU.

“Dwi’n falch dros drigolion Bangor fod Gwynedd wedi creu’r cais hwn am gyllid trafnidiaeth, canol tref, adfywio a diwylliant. Rydyn ni'n croesi’n bysedd!"

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro nôl ym mis Mawrth.

Mae cabinet Cyngor Gwynedd hefyd wedi cytuno ar ddau brosiect arall fel rhan o’r ceisiadau cyllid Ffyniant Bro. Cynllun Coridor Gwyrdd Ardudwy, sef isadeiledd ffyrdd newydd yn Llanbedr a system deithiol nodweddion gwyrdd yw un o’r cynlluniau eraill a Llewyrch o’r Llechi, prosiectau diwylliannol sy’n gysylltiedig â dyffrynnoedd llechi Gwynedd yw’r cynllun arall.

Nod y gronfa yw buddsoddi mewn cynlluniau isadeiledd lleol, gweledol ac o ansawdd ym meysydd trafnidiaeth, adfywio a chanol trefi ynghyd a buddsoddiadau diwylliannol.  

Bydd y gwaith o ddatblygu manylion y cynlluniau yn parhau yn ddi-oed a disgwylir penderfyniad gan Lywodraeth y DU ar y gronfa Ffyniant Bro yn yr hydref.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2022-07-26 15:05:33 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns