Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Ward Canol Tref Caernarfon, Cai Larsen, sy’n ateb cwestiynau Holi Hwn a Holi Llall y mis yma. Mae Cai hefyd wedi ei ethol yn Gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn ddiweddar. Dyma ddysgu ychydig bach mwy amdano
- Enw? Cai Larsen
- Oed? 62
- Ymhle cawsoch eich geni? Ym Mangor ces i fy ngeni, ond yn flwydd oed, fe symudon ni i Beinsarwaun, ac yno y ces i fy magu.
- Lle ydych chi’n byw? Dwi’n byw yn nhre’r Cofis, Caernarfon ers bron i 40 mlynedd.
- Oes gennych chi deulu? Oes, dwi’n briod ac mae gennym ni bump o blant sy’n oedolion a thri o wyrion.
- Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir? Dwi’n ei theimlo hi’n fraint mod i’n gallu helpu etholwyr, ymchwilio ar eu rhan, datrys problemau a chydweithio â nhw i oresgyn unrhyw drafferthion sy’n eu hwynebu nhw. Mae estyn llaw i etholwyr mwyaf difreintiedig fy ward yn rhan fawr o’m gwaith ac mae cydweithio â nhw yn dod a boddhad mawr i mi.
- Beth ydych chi’n ei gasáu fwyaf am fod yn Gynghorydd Sir? Dwi’n teimlo’n hynod anghyfforddus pan mae etholwyr yn dod ataf yn gofyn am gymorth i ddod o hyd i dŷ cymdeithasol. Dwi’n gwybod eu bod yn debygol o fod ar restr aros am gyfnod maith oherwydd nad oes digon o dai cymdeithasol yn ardal Caernarfon. Mae na rwystredigaeth go iawn yn y maes yna, o fewn fy ward i.
- Pwy yw eich arwr / arwres? Sean MacBride achos allai ddim meddwl am neb sydd wedi llwyddo i gyflawni cymaint yn ystod ei fywyd. Roedd yn rebel fel dyn ifanc, ond aeth ymlaen i ffurfio plaid wleidyddol, bu’n Weinidog Tramor Iwerddon yn ogystal â bod yn fargyfreithiwr. Bu’n Llywydd Amnest Rhyngwladol, Cadeirydd yr International Peace Bureau, Is Lywydd Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Llywydd Pwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop, roedd ganddo rolau blaenllaw yn yr UN ac enillodd Wobr Heddwch Nobel.
- Beth yw eich atgof plentyn hapusaf? Mynd am dro natur ar ddiwrnod poeth yn yr haf o Ysgol Penisarwaun i Ddinas Dinorwig. Mae’n Gaer Geltaidd fawr ar ben bryn ger Llanddeiniolen ac mae na olygfa wych yno o Benisarwaun a’r ardal. Dwi’n cofio edrych ar yr olygfa ar y diwrnod poeth ma a meddwl y byddai’r diwrnod ysgol drosodd erbyn i ni gyrraedd yn ôl i’r ysgol ac y cawn fynd allan i chwarae efo fy ffrindiau.
- Beth yw eich ofn mwyaf? Dwi ddim yn greadur ofnus iawn - mae’n well ceisio delio efo sefyllfaoedd anodd mewn modd pwyllog a diffwdan na’u hofni. Dyna sut dwi’n gweld pethau, beth bynnag!
- Beth mae’n ei olygu i chi i fod yn Gadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd? Mae'n fraint cael cadeirio'r grŵp mwyaf yn hanes Cyngor Gwynedd ers iddo gael ei ffurfio. Mae cadeirio grŵp sydd â chymaint o aelodau llawn arddeliad a brwdfrydedd yn gallu bod yn heriol ar adegau, ond mae hefyd yn brofiad hynod werthfawr a difyr.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter