Canolfan Y Fron yn derbyn £3,000 i ddarparu bwyd i drigolion Ward Tryfan

Mae Canolfan Y Fron ger Caernarfon, Gwynedd yn falch eu bod wedi derbyn £3,000 i ddarparu bwyd i drigolion Ward Tryfan. Bydd yr arian yn galluogi’r ganolfan i ddarparu pryd dau gwrs i hyd at 40 o bobl, AM DDIM, unwaith yr wythnos.

Mae’r cynllun wedi bod yn gweithredu ers tair wythnos erbyn hyn, ac mae’r wythnosau cyntaf wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda phobl leol yn gwerthfawrogi’r prydau yn fawr. Mae dros 100 o bobl wedi derbyn prydau iach a chynnes gan y criw o wirfoddolwyr gwych yng Nghanolfan y Fron.

Bu’r ganolfan yn llwyddiannus gyda’u cais am yr arian diolch i gymorth a chefnogaeth y Cynghorydd Sir lleol dros Ward Tryfan, Arwyn Herald (a welir yn y got goch yn y llun uchod, gyda'r cogyddion prysur).

Dywedodd y Cynghorydd Arwyn Roberts: “Dwi’n falch iawn o lwyddiant y fenter hon. Mae’n galluogi trigolion yr ardal leol i ddod ynghyd a chael pryd cynnes, ffres ac iach. Yn ogystal â bwyd o safon uchel, mae’r cynllun yn galluogi i’r gymuned wledig hon ddod at ei gilydd, mewn lleoliad cymunedol braf sy’n bwysig iawn yn ystod cyfnod o galedi, fel mae nifer yn ei deimlo, ar hyn o bryd.”

Bydd y ddarpariaeth yn parhau yn yr wythnosau sydd i ddod ac mae'r Cynghorydd Roberts yn annog y trigolion i ddod draw a manteisio ar y cynllun. I sicrhau nad oes bwyd yn cael ei wastraffu, bydd bwydlen yr wythnos ganlynol, ar gael yn y ganolfan.

“Rhaid i mi ddiolch i’r criw gweithgar sy’n archebu’r cynhwysion, yn paratoi a gweini’r bwyd yn wythnosol. Mawn nhw’n halen y ddaear! Diolch enfawr i chi.”

I archebu eich pryd dau gwrs am ddim, bob dydd Iau, rhwng 12:00 a 2:00 galwch yn y siop neu anfon neges destun at 07932 101983


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2023-03-13 16:46:56 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns