Cau’r rhaniad digidol oedd ym Mrithdir, diolch i ymdrech lew cymunedol

Pan ddywedwyd wrth gymuned Brithdir y byddai angen llofnodion 45 o drigolion arnynt i gwblhau un agwedd ar yr ymgyrch i sicrhau bandeang cyflym ar gyfer Brithdir, torchodd rhai eu llewys a dechrau ar y dasg o guro drysau.

(Yn y llun, gwelir Eira Humphreys un o’r trigolion prysur ym Mrithdir fu’n cydweithio efo’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths i sicrhau bandeang cyflym i ran ucha’r pentref)

Ym mhentref bach gwledig Brithdir yng Ngwynedd ychydig filltiroedd o Ddolgellau, roedd y cynghorydd sir lleol yn flin bod un rhan o'r pentref â bandeang cyflym, tra bod gan hanner ucha’r pentref gysylltiad enbyd o wael.

Ymhen ychydig wythnosau a chyda cefnogaeth gofalwraig Neuadd Gymunedol Brithdir, Eira Humphreys ac Anna Jones o’r pentref, casglwyd y 45 o lofnodion oedd eu hangen i barhau â’r dasg o sicrhau bandeang cyflym i’r pentref.

Yn ôl Delyth Lloyd Griffiths, Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros yr ardal: “Ron i’n gwybod y gallwn i ddibynnu ar Anna ac Eira i fwrw ati gyda’r llofnodion, a chasglu manylion pawb. Maen nhw'n nabod pawb yn y pentref!

“Mae wedi bod yn ymdrech hir a llafurus, ond gyda’n gilydd fel cymuned, rydym wrth ein bodd bod y pentref i gyd bellach wedi’i gysylltu â bandeang llawn.”

Yn ôl ym mis Mawrth 2022 wrth i Gymru ddod allan o holl gyfyngiadau Covid, dywedwyd wrth gydweithiwr Delyth, AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts fod Openreach yn rhoi’r gorau i’w gynllun cysylltiad bandeang cyflym gwledig, oherwydd y galw mawr oedd ar eu gwasanaethau.

“Roedd hon yn ergyd i’r pentref gan fod tîm Plaid Cymru wedi bod yn gweithio ar y mater hwn ers misoedd lawer. Erbyn Nadolig 2021, roedd ffibr llawn wedi’i osod mewn un rhan o’r pentref, Bryniau Brithdir, ond roedd y 45 o drigolion eraill yn dal heb gysylltiad ymarferol na gwasanaeth bandeang cyflym a dibynadwy.”

Gan weithio gyda chorff cydweithredol Cymru, ‘Cwmpas,’ aeth y Cynghorydd ati i ymchwilio i’r heriau wedi iddi ei hethol i’r rôl fel Cynghorydd Sir ym mis Mai 2022. Yn ôl y gyfraith, mae rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yn datgan bod pawb o fewn y Deyrnas Gyfunol â’r hawl i wasanaethau cyfathrebu sylfaenol am bris fforddiadwy.

“Trwy weithio gyda Marc Davies yng Nghwmpas symudodd yr heriau yn eu blaen yn gyflym. Daethom â phobl ynghyd i gasglu'r llofnodion angenrheidiol ac erbyn diwedd yr haf, mae holl aelwydydd y pentref bellach wedi eu cysylltu. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel!”

Mae busnesau Gwely a Brecwast bellach yn gallu darparu setiau teledu clyfar i westeion am y tro cyntaf erioed. Mae plant a phobl ifanc sy'n astudio ar gyfer eu TGAU, Lefel A a gwaith coleg bellach ar yr un lefel â'u cymheiriaid, yn gallu uwchlwytho a lawrlwytho gwaith gyda chysylltiad dibynadwy a chyflym.

Mae Elwyn Roberts, ffotograffydd a fideograffydd rali ceir brwd sy’n teithio’r byd yn dilyn rasys yn dweud bod y bandeang newydd yn golygu nad oes rhaid iddo bwyso’r ffôn symudol ar silff ffenestr allanol i geisio cysylltu â’r system 4G. Mae'r bandeang newydd wedi trawsnewid sut mae'n mwynhau ei ddiddordebau.

Mae Gina Ritchie yn rhedeg gwesty ym Mrithdir. Meddai: “Rydym yn falch iawn o allu rhedeg busnes gwledig, yma ym Mrithdir, mewn modd proffesiynol a hyderus o'r diwedd. Roedd bod heb gysylltiad bandeang cyson a chyflym yn gwneud rhedeg y busnes yn heriol. Rydym mor ddiolchgar i’r Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths am ei gwaith a’i phenderfyniad, ar ein rhan.”

Mae Sandra Harrison yn byw yn y pentref ac mae hefyd yn falch o fod yn gysylltiedig â’r byd tu allan: “Mae wedi bod yn chwa o awyr iach i ni. Yn llythrennol mae wedi agor ein byd i weld beth sydd ar gael. Nid ydym bellach yn teimlo'n ynysig yng nghefn gwlad Meirionnydd. Rydyn ni ar yr un lefel digidol â ffrindiau a theulu ac mae’n sefyllfa braf i fod ynddi. Diolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed ar ein rhan i gael trefn ar y gwasanaeth band eang!”

Yn ôl Martin Jones, 47, sy’n wynebu heriau iechyd hirdymor ar ôl dioddef strôc, mae ei angerdd am ffotograffiaeth wedi cadw ei ysbryd yn ystod misoedd anodd. Mae’r cysylltiad bandeang newydd wedi sicrhau bod ganddo gysylltiad cyfathrebu llawer gwell gyda’i deulu a’i ffrindiau, wrth iddo barhau i wella a chryfhau.

“Mae clywed Martin yn diolch i mi a’r gymuned yn codi nghalon. Dwi’n ddiolchgar bod pawb wedi cyd-dynnu a sicrhau’r canlyniad positif yma i’r pentref. Mae’n dangos sut y gall cefnogaeth gymunedol gref oresgyn heriau sy’n ein hwynebu, wrth i ni fyw mewn ardaloedd gwledig.”

(Yn y llun, gwelir y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths gyda Martin Jones)


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Courtney Jones
    published this page in Newyddion 2024-12-04 14:34:16 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns