Cefnogaeth Gwynedd i newid deddf cynllunio Llywodraeth Cymru

Yng nghyngor llawn Gwynedd heddiw, mae Cynghorwyr Plaid Cymru wedi pwyso unwaith yn rhagor am newid i’r Ddeddf Gynllunio i sicrhau bod tai yn parhau o fewn y stoc dai yn y sir, er mwyn cartrefu pobl leol.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae galw cynyddol wedi bod gan gynghorwyr tref a sir Plaid Cymru, yn ogystal ag Aelodau Senedd Cymru i bwyso am newid deddfwriaethol gan Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy ar gael i bobl leol sy’n byw yng Ngwynedd a thu hwnt.

Mae’r pwysau cynyddol sydd ar gymunedau yn sgil pandemig Covid-19 wedi rhoi ffocws ar y ffaith bod cymunedau mewn rhai ardaloedd o Gymru yn gwegian dan bwysau unigolion sy’n prynu tai ar gyfer eu defnyddio’n achlysurol fel ail dŷ neu fel unedau gwyliau.

Mae’n tynnu tai, all fod ar gael i bobl leol fyw ynddynt, allan o’r stoc dai o fewn cymunedau.

Yn ôl y Cynghorydd Gwynedd sy’n cynrychioli trigolion Nefyn, Gruffydd Williams (yn y llun) mae’n amser gweld newid:

“Holais am gefnogaeth y cyngor llawn i’r cynnig bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod hi’n orfodol cael hawl cynllunio i droi tŷ annedd yn dŷ haf / uned wyliau.

“Ar ben hynny, roeddwn yn awyddus i gael cefnogaeth y cynghorwyr i bwyso ar y Llywodraeth i roi’r hawl i ni addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu ein bod yn gosod uchafswm trothwy ar y niferoedd o dai haf / unedau gwyliau sy’n bodoli mewn unrhyw ardal yng Nghymru.

“Roeddwn yn awyddus i roi pwyslais sirol ar y mater. Yma’n lleol yn Nefyn, mae’r Cyngor Tref wedi trafod y mater ac yn gweld y sefyllfa yn yr ardal yn argyfyngus.

“Mae’n cael effaith negyddol ar ein trigolion, ar ein cartrefi, ar ein pentrefi a’n hardaloedd ac ar ein hiaith. Mae’r sefyllfa yn newid ethos llwyr ein cymunedau arfordirol gwledig Gymreig. Mae’n rhaid gweithredu a holi am hawliau yn y ddeddf.”

Mae’r Cynghorydd sydd â’r cyfrifoldeb am dai yng Ngwynedd, Craig ab Iago (llun uchod), yn cytuno bod rhaid pwyso am newid deddfwriaethol yng Nghaerdydd:

“Nid yw 60% o drigolion Gwynedd yn gallu fforddio prynu'r un tŷ yn y sir, heb sôn am dai o’r prisiau sydd i’w gweld yn gwerthu yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

“Yn ychwanegol, mae 40% o’r tai sy’n cael eu gwerthu ar y farchnad agored, sef tua 900 o’r 2250 o dai gaiff eu gwerthu fel tai gan gwmnïau masnachol ar y farchnad agored yng Ngwynedd bob blwyddyn, yn mynd i bobl o du allan i’r sir, fel ail dŷ.

“Mae cael cartref yn egwyddor greiddiol sydd, yn fy marn i, ddim yn cael ei ddiwallu gan bolisïau caeth, hen ffasiwn y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a’r Torïaid yn San Steffan. Mae angen chwyldroi’r sustem ddatblygu a’r system gynllunio yng Nghymru.”

Un sydd wedi arwain ar y drafodaeth yn Nefyn yw’r cyfreithiwr, Rhys Tudur (isod), sy’n Gynghorydd Tref yn Nefyn.

“Fel person proffesiynol ifanc, dwi’n gweld yr argyfwng sy’n wynebu bobl leol o fewn y farchand dai ac yn fy nghymuned fy hun. Dyna’r rheswm i mi roi cynnig gerbron Cyngor Tref Nefyn yn holi am gefnogaeth i fesurau fyddai’n atal tai rhag mynd o afael pobl leol.

“Mae prisiau wedi mynd drwy’r to yma, gyda thŷ bychan dwy lofft ar y farchnad agored yn cael ei werthu am £240,000 ym Morfa Nefyn. Mae prisiau o’r math yma y tu hwnt i fforddadwyedd pobl leol. Allwn ni ddim cystadlu.

“Mae angen polisïau blaengar hyfyw sy’n gosod tegwch o fewn y farchnad i bobl leol allu cystadlu am dai. Gyda chyflog cyfartalog trigolion Gwynedd yn £16,000, mae’r sefyllfa yn argyfyngus. Mae’r farchnad dai rhydd yn caethiwo a llesmeirio pobl leol ac rydym yn galw am newid deddfwriaethol gan Llywodraeth Cymru.

“Dwi’n falch iawn bod cynghorwyr Gwynedd wedi dangos cefnogaeth i’r broblem hon heddiw.”

Pasiodd cynghorwyr Gwynedd y cynnig yng nghyfarfod rhithiol o’r cyngor heddiw, ddydd Iau, 1 o Hydref.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Eryl Jones
    published this page in Newyddion 2020-10-02 16:56:48 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns