Plaid Cymru Gwynedd yn ennyn cefnogaeth genedlaethol i newid deddf trethu ail gartrefi

Yn ystod cyfarfod o Gyngor llawn Gwynedd dydd Iau diwethaf datgelodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd bod naw awdurdod lleol yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch Y Blaid yng Ngwynedd i newid Deddf Cyllid Llywodraeth Leol er mwyn ceisio atal perchnogion ail gartrefi rhag symud eu tai o restr Treth Cyngor i’r rhestr Dreth Fusnes. 

180417_dyfrig_ar_y_sgwar_300ppi.jpg

Llun: Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Blaid yng Ngwynedd

Ar hyn o bryd, mae perchnogion tai haf neu ail gartrefi yn gallu symud ei eiddo i’r Dreth Fusnes gan osgoi talu trethi sy’n cynorthwyo llywodraethau lleol i dalu am wasanaethau codi sbwriel, ail-gylchu, cadw safon ffyrdd, goleuadau stryd ag ati.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd y Blaid yng Ngwynedd: “Mae’r ffaith bod perchnogion tai haf yn gallu symud eu heiddo i’r Dreth Fusnes yn atal awdurdodau rhag codi premiwm ar y tai hynny. Mae hwn yn bolisi y bu’r Blaid yn ymgyrchu amdani ers blynyddoedd a chafwyd llwyddiant i’r ymgyrch honno yn 2014.

“Ond oherwydd bod bwlch yn y Ddeddf mae nifer yn manteisio ar hyn, ac yn atal awdurdodau lleol rhag defnyddio ffynhonnell ariannol allweddol i sicrhau bod buddsoddiad yn digwydd ym maes tai ar gyfer pobl leol sy’n awyddus i brynu neu rentu cartrefi yn eu cymunedau a diogelu gwasanaethau angenrheidiol.”

Yng Ngwynedd, mae dros 1250 o eiddo wedi trosglwyddo o’r Dreth Cyngor i Dreth Fusnes ers Ebrill 2014. Mae hyn yn golled flynyddol hyd at £2 miliwn i dalu am wasanaethau cyhoeddus hanfodol i drigolion Gwynedd.

Mae gwaith ymchwil Cyngor Gwynedd hefyd yn amcangyfrif bod colled o £4.5m i’r pwrs cyhoeddus trwy Gymru o achos hyn.

Mewn cyfarfod diweddar o’r Fforwm Gwledig, sef is grŵp o’r awdurdodau gwledig a gynrychiolir ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cytunodd naw awdurdod lleol â chynnig Plaid Cymru Gwynedd bod angen gosod egwyddor glir bod pob eiddo domestig yn aros fel eiddo domestig gwaeth beth yw ei ddefnydd, gydag amod bod rhaid derbyn caniatâd cynllunio penodol iddo gael ei ddefnyddio fel busnes.

Yn ôl y Cynghorydd Siencyn: “Dwi’n falch o ddweud ein bod wedi derbyn cefnogaeth y naw awdurdod sy’n rhan o’r Fforwm Gwledig a bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trefnu sut byddant yn mynd â’r mater yma ymlaen i’r Llywodraeth roi sylw dyledus iddo. Bydd pwysau naw awdurdod, yn gosod achos cryf o flaen y Llywodraeth i weithredu.”

 “Mae llawer o ardaloedd yng Ngwynedd, yn arbennig cymunedau arfordirol, yn wynebu pwysau aruthrol oherwydd y canran uchel o ail gartrefi. Canlyniad hyn yw bod prisiau tai yn mynd y tu hwnt i gyrraedd teuluoedd lleol, yn arbennig felly, pobl ifanc.”

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae gormod o ail gartrefi yn wag am gyfran helaeth o'r flwyddyn, gan greu adeiladau segur a chyfrannu ychydig iawn at gymunedau, economi leol a bwrlwm cymdeithasol. Yn ogystal, mae rhai o'r tai hyn yn atal pobl ifanc, a anwyd ac a fagwyd yn yr ardal, rhag cael eu traed ar ysgol y farchnad eiddo.”

Nôl ym mis Ebrill 2018, cyflwynodd Cyngor Gwynedd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru y premiwm treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi, gan godi cyfanswm y dreth i berchnogion o 50%.

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi derbyn newyddion positif bod swyddfa Llywodraeth Cymru yn awyddus i drafod y mater er mwyn deall y sefyllfa, gwrando ar dystiolaeth ac ystyried y broblem.

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae momentwm bellach wedi i dîm Plaid Cymru Gwynedd ar lefel sirol a chenedlaethol weithio mor galed i wneud gwahaniaeth yn y maes pwysig hwn. Mae sicrhau newid i ddeddfwriaeth yn cymryd amser, ond hyderaf y gallwn adrodd eto ar gynnydd pellach ystod y flwyddyn.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.