Cofio cawr gwleidyddol y Blaid yn Waunfawr, Gwynedd, Cymru ac Ewrop

Gyda thristwch daeth y newydd am golli cawr gwleidyddol y Blaid yn Waunfawr, Eurig Wyn. Ond gyda gwên y bydd grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn cofio’r gŵr bonheddig, hynaws, llawn sbri a gyfrannodd cymaint i wleidyddiaeth Gwynedd, Cymru ac Ewrop.

Yr annwyl ddiweddar, Eurig Wyn (dde) yn agor y Cae Chwarae newydd yn Waunfawr yn swyddogol gyda'r plant a'r Cynghorydd presennol dros yr ardal, Edgar Owen (chwith) ym mis Medi 2018

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cael adnabod Eurig Wyn a’i fod wedi bod yn rhan o deulu Plaid Cymru Gwynedd, pan etholwyd ef yn Gynghorydd yn 1989 ac eto yn 2012.

“Daeth â brwdfrydedd i’w waith wrth gynrychioli pobl leol a’i gymuned ac roedd yn llysgennad dros degwch. Yn ŵr bonheddig i’r carn, roedd ei gyfraniad i’r gwaith yma yng Ngwynedd yn fawr ac roedd ei gariad at wleidyddiaeth, at Gymru ac at ei bobl ei hun, yn ddigamsyniol.

“Rydym wedi colli un o gewri gwleidyddiaeth Cymru ac rydym yn cydymdeimlo’n fawr gyda’i ffrindiau a’i deulu.”

Yn ôl ei asiant Plaid Cymru, a’r un a gafodd y fraint o ddilyn yn ôl troed Eurig Wyn a’i ethol yn Gynghorydd Waunfawr pan benderfynodd Eurig sefyll lawr fel Cynghorydd yn 2016, Edgar Owen: “Dwi’n ei theimlo hi’n fraint o’r mwyaf, troedio ar hyd llwybr Eurig Wyn. Bu’n ffrind triw ac yn gyd-weithiwr diwyd dros ei bobl.

“Mae cymaint o straeon doniol i’w hadrodd gan ei fod yn ddyn mor gymdeithasol ac yn un oedd yn mwynhau cwmni a sgwrs. Mae’r atgofion am yr hwyl a gafwyd yn ei gwmni yn llifo. Un o’r rhai sy’n aros yn y cof yw’r cyfnod pan oedd Eurig yn Gadeirydd a minnau’n Drysorydd ar y pwyllgor oedd yn ceisio sefydlu Canolfan gymunedol i Waunfawr.

Agorwyd Canolfan Waunfawr yn 1982, diolch i frwdfrydedd Eurig Wyn a chriw bychan gweithgar yn yr ardal.

“Anghofiai fyth dderbyn llythyr gan swyddog o Gyngor Gwynedd yn rhoi gwŷs i mi fynychu cyfarfod yn swyddfa’r cyngor, flynyddoedd lawer yn ôl. Es yno, a chael cynnig paned. Wrth i’r swyddog adael y stafell i baratoi’r baned, dyma straffaglu drwy’r ffeil oedd ar y bwrdd i weld beth yn union roeddwn i yno i’w drafod!

“Y jôc oedd bod Eurig wedi ysgrifennu llythyr at y Cyngor i drafod rhyw grant penodol yn ymwneud â’r ganolfan, a’i anfon yn fy enw i. Ond doedd Eurig heb gofio dweud wrthyf fi beth oedd byrdwn y llythyr!

“Wedi’r cyfarfod a chysylltu efo Eurig i ddweud wrtho sut roedd pethau wedi mynd, trodd atai gyda’i lygaid yn llawn direidi: “Beth... nes i ddim cofio sôn wrthat ti am y llythyr...?” Roedd yn bendant yn ddyn oedd yn gwneud, nid dweud.

“Ar achlysur arall, roedd Eurig yn brysur gyda’i waith yn Ewrop, a dyma dderbyn galwad ffôn ganddo i holi fyddwn i’n mynd draw i Eisteddfod Dyffryn Ogwen i’w gynrychioli, gan ei fod wedi ennill rhyw wobr yno. Byddai’r Ysgrifennydd yn egluro popeth i mi. Iawn, meddwn i.

“Pan gyrhaeddais yr Eisteddfod wedi sgwrsio gyda’r Ysgrifennydd, deallais ar unwaith bod Eurig wedi ennill y Fedal Ddrama, ac y byddai na seremoni yn digwydd. Canodd y corn gwlad a bu raid i mi godi ar fy nhraed o flaen pawb, derbyn clogyn yr Eisteddfod dros fy ysgwyddau a chael fy urddo ar y llwyfan! Eisteddais yno’n clywed y ganmoliaeth i’r gwaith a gwylio’r plant yn fy nghyfarch gyda dawns y flodau o’m blaen. Anghofiwyd sôn wrth y gynulleidfa, nad fi oedd YR Eurig Wyn. Cafodd y ddau ohonom fodd i fyw yn ail adrodd y stori honno am fisoedd wedyn!

“Un o’r achlysuron ddaeth â’r balchder mwyaf i mi, ers fy ethol yn Gynghorydd Sir oedd gwahodd Eurig Wyn draw i agor Cae Chwarae newydd Waunfawr yn swyddogol ym mis Medi llynedd. Roedd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y Cae Chwarae yn dod i’r ardal ar gyfer y genhedlaeth nesaf, ac mi rydw i mor falch ei fod wedi ymuno â ni y diwrnod hwnnw i weld ffrwyth llafur ei waith.

“Mi gyfrannodd cymaint i Waunfawr, trwy godi arian, trwy lythyru a lobïo, trwy baratoi ceisiadau grantiau, gan weithio gyda’r gymuned. Bu’n Gynghorydd Cymuned am dros 40 mlynedd ac mae chwith garw wedi bod ar ei ôl, ers i’w iechyd ddechrau dirywio.

“Rydym yn estyn ein cydymdeimlad llwyraf â Gillian, ei wraig, a’r plant Euros, Bethan a’i teuluoedd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns