Cofiwch Dryweryn - diolch!

Mae disgynnydd o Gapel Celyn, y cwm amaethyddol yng ngogledd Cymru a foddwyd gan Lywodraeth San Steffan i greu cronfa ddŵr i Lerpwl, yn awyddus i ddiolch i'r grŵp o genedlaetholwyr ifanc sydd wedi bod yn trwsio'r wal yn Llanrhystud, Ceredigion.

Y Cynghorydd dros Landderfel, Y Bala, Elwyn Edwards

Mae Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Edwards, Llandderfel ger Y Bala eisiau canmol y bobl ifanc sydd wedi bod draw i'r safle yn Llanrhystud, rhwng Aberaeron ac Aberystwyth, ddwywaith i adfer y geiriau symbolaidd ‘Cofiwch Dryweryn’ ac atgyweirio'r wal.

Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Edwards: “Mae gweithredoedd y bobl ifanc yma’n ysbrydoliaeth i ni gyd, i bob person, boed yn Gymry ai peidio, i ddiogelu’r etifeddiaeth hanesyddol bwysig hon draw yng Ngheredigion. Mae'n symbol cenedlaethol, yn gipolwg ar ein gorffennol ac yn ein hatgoffa o'n dyfodol, dyfodol lle gall Cymru ddod yn genedl annibynnol a llywodraethu'n annibynnol, gan sicrhau na chaiff unrhyw gymuned mewn unrhyw ddyffryn arall yng Nghymru fyth ei cholli eto.”

Roedd teulu'r Cynghorydd Elwyn Edwards yn byw yng Nghapel Celyn yn y 50au ac mae'n cofio mynd ar y brotest i Lerpwl yn 13 oed i brotestio am y cynlluniau i foddi Capel Celyn a oedd wedi bod yn gartref i genedlaethau o’i deulu. Roedd teulu ei fam wedi byw yn y cwm am ganrifoedd ac mae'n cofio pysgota a chwarae gyda’i gefndryd ar y fferm deuluol. Collodd teulu ei fam bopeth pan foddwyd yr ardal.

Collwyd dwsin o gartrefi yng Nghapel Celyn, ynghyd â’r ysgol, y pentref a'r capel, pan gwblhawyd yr argae ym 1965. Cymeradwyodd Llywodraeth San Steffan gynllun Corfforaeth Lerpwl i adeiladu’r llyn, er gwaethaf gwrthwynebiad pawb ond un o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig.

Dywedodd y Cynghorydd Edwards: “Cafodd boddi Capel Celyn effaith fawr arna i, a llawer o rai eraill. Does gan y genhedlaeth hon o bobl ifanc yr un atgof o'r weithred, ond mae effaith boddi Capel Celyn wedi ei saernïo yng nghof teidiau a neiniau a rhieni’r bobl ifanc yma – mae yn graith ar gof y genedl.

“Doedd dim byd ar ôl – yr un goeden, gwrych, yr un ddafad, buwch a dim un aderyn yn canu hyd yn oed. Roedd y lle yn llethol dawel, yn union fel diwrnod angladd. Mi gariwyd cerrig y capel, yr holl dai, y ffermydd, yr ysgol a'r siop i adeiladu'r argae.

“Dwi’n cofio’r dŵr yn llifo dros y fowlen orlif yn yr argae hyd nes ei fod yn saethu am tua 100 troedfedd i fyny i’r awyr.

“Cafodd fy nheulu a'r teuluoedd eraill eu hailgartrefu, ond fe'u gwasgarwyd ar hyd a lled y lle. Fe gollon ni ein treftadaeth; fe gollwyd popeth.

“Mae gweithred symbolaidd y diweddar Meic Stephens i beintio'r neges honno 'Cofiwch Dryweryn’ yn Llanrhystud bellach yn ymledu’n gyflym ledled Cymru. Rydym yn gweld adfywiad yn y diddordeb, pobl sydd â diddordeb yn hanes y genedl, pobl sy’n awyddus i leisio barn.

“Dwi'n mawr obeithio nad yw'r weithred o fandaleiddio'r wal yn un wleidyddol. Mae wedi digwydd yn dilyn llwyddiant Plaid Cymru i ennill sedd Ceredigion yn Etholiad San Steffan 2017.

“Mae gweithred y gwladgarwyr ifanc yma sy’n dod o sawl rhan o Gymru i ail adeiladu'r wal a'i pheintio eto yn gatalydd i eraill ail gyflwyno'r stori sydd wedi creithio Cymru. Diolch i bob un sydd wedi bachu ar y cyfle i atgoffa trigolion Cymru na ddylai unrhyw Dryweryn arall fyth ddigwydd eto.”

Mae ‘Cofiwch Dryweryn’ wedi'i beintio mewn nifer o leoliadau ledled Cymru yn ogystal ag mewn rhai lleoliadau dros dro. Gyda'r nifer yn parhau i dyfu, dyma rai o'r lleoliadau sydd wedi eu cyfri hyd yma:

Aberafan, Aberdaron, Aberhosan, Abertawe (3), Aberteifi, Aberystwyth, Alltwen, Bermo, Betws y Coed, Blaenau Ffestiniog, Bwlch y Groes, Caerffili, Capel Iwan, Caergybi, Casnewydd, Castell Nedd (3), Clydach (2), Clywedog, Deiniolen, Dyserth, Dryslwyn, Felinheli, Glannau Dyfrdwy, Hendygwyn, Llandeilo, Llanelli, Llangollen, Llangrannog, Llanrhystud, Llanuwchllyn (2), Machynlleth, Maesteg, Merthyr Tydfil, Nanhyfer, Nantyffyllon, Nefyn, Pensgynor, Penygroes, Pen-y-bont ar Ogwr, Pwllheli, Rhydaman, Sgiwen, Taliesin, Trefdraeth, Tresaith a Wrecsam.

Yn ddiweddar, mae'r Cynghorydd Elwyn Edwards wedi cymryd rhan mewn dogfen deledu gan Hiraeth Productions sy'n awyddus i rannu effeithiau parhaol boddi Capel Celyn ar y bobl. Mae Charlotte Williams, Cyfarwyddwr Hiraeth Productions yn awyddus i roi llais newydd i Gymru, gan adrodd straeon ein cenedl sydd ddim wedi ei lleisio. Fel digwyddiad, mae wedi ei ddogfennu llwyddiannus, ond cred Charlotte Williams nad yw wedi ei gyflwyno fel dadansoddiad modern manwl ar ffurf ffilm ddogfen. Y gobaith yw y gwêl olau dydd ar y teledu'r flwyddyn nesaf.

23 Ebrill 2019


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns