Braf cyhoeddi bod Gareth Tudor Morris Jones, Plaid Cymru wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Cynghorydd dros Forfa Nefyn ac Edern yn Llŷn ar Gyngor Gwynedd. Mae’n llenwi esgidiau Siân Hughes, Plaid Cymru a ymddiswyddodd fel Cynghorydd dros yr ardal yn ddiweddar oherwydd amgylchiadau personol.
Dywedodd Gareth Tudor Morris Jones o Forfa Nefyn: "Diolch i bawb am eu cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf. Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd cael camu i rôl Cynghorydd Sir a chynrychioli trigolion yr ardal ar Gyngor Gwynedd. Mae gen i esgidiau mawr i’w llenwi yn dilyn ôl troed Siân Hughes, sy’n uchel ei pharch yn yr ardal.
Yn y llun gwelir: Liz Saville Roberts AC Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd a Chynghorydd Gwynedd newydd dros Forfa Nefyn ac Edern, Gareth Tudor Morris Jones, Plaid Cymru
“Dwi’n edrych ymlaen at y gwaith o gynrychioli trigolion yr ardal, bobl dwi’n eu hadnabod yn dda gan mod i’n byw yma ers 30 o flynyddoedd. Byddai’n awyddus i wrando ar anghenion pobl leol a gwneud fy ngorau ar eu rhan yng Ngwynedd.
“Mae llais yr ieuenctid yn bwysig i mi, a dwi’n awyddus i roi lle blaenllaw iddyn nhw hefyd, wrth weithio ar ran fy nghymuned. Dwi’n edrych mlaen at gydweithio gyda Chynghorwyr y Blaid, dod i’w hadnabod yn well a chydweithio gyda’r Blaid ar lefel cenedlaethol ac yn San Steffan.
Yn ôl Dyfrig Siencyn, Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd: “Rydym yn croesawu Gareth Tudor atom i dîm Plaid Cymru Gwynedd ac yn falch o’i gael yn Gynghorydd newydd yn Ward Morfa Nefyn ac Edern.
“Rydym yn parhau i fod yn gadarnhaol yma yng Ngwynedd er gwaetha toriadau ariannol haerllug San Steffan a diffygion y Torïaid wrth ymwneud ag Ewrop yn Llundain. Plaid Cymru yw'r blaid sydd â'r uchelgais wrth gynrychioli pobl Cymru a'u gwerthoedd yn effeithiol. Ein nod yw gweithio fel Tîm Gwynedd i greu Gwynedd ffyniannus a chyffrous lle bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu byw a gweithio.”
Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts: “Rwy’n hynod falch i gyflwyno Gareth fel darpar gynghorydd Morfa Nefyn ac Edern, er na fydd angen ei gyflwyno i nifer helaeth o bobl y ward oherwydd ei waith blaenorol fel pennaeth Ysgol Uwchradd Botwnnog. Ond rwyf yn fwy balch y bydd yr ardal hon yn cael ei chynrychioli gan ddyn sy’n nabod a charu Llŷn a’i phobl yn drwyadl. Dyma ddyn sy’n gweithredu i’r egwyddorion uchaf bob tro.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter