Mae’r Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Benrhyndeudraeth, Gareth Thomas yn ymfalchïo yn y ffaith bod buddsoddiad o £83,000 wedi ei gadarnhau i adeilad y Cyngor ym Mharc Busnes Eryri, ym Mhenrhyndeudraeth.
Trwy fuddsoddi a newid y ddarpariaeth o fewn yr adeilad, bydd cyfle i bobl leol ddefnyddio a chyrraedd at wasanaethau Siop Gwynedd ar eu stepen drws, yn hytrach na theithio’r holl ffordd i Bwllheli neu Ddolgellau.
“Mae’n newydd arbennig o dda i bobl yr ardal,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, “a dwi’n falch bod cabinet Plaid Cymru wedi awdurdodi i’r gwaith fynd yn ei flaen. Mae sicrhau bod modd i bobl leol gyrraedd at wasanaethau yn agos at eu milltir sgwar yn bwysig.
“Dim ond canolfan alwadau Galw Gwynedd sydd yma ar y funud heb derbynfa gyhoeddus. O’r sgyrsiau dwi wedi eu cael yn lleol, mae nifer o bobl yn fwy hyderus o dderbyn cymorth yn y cnawd yn hytrach na dros y ffôn.”
Yn ôl y Cynghorydd sy’n gyfrifol am gefnogaeth corfforaethol y Cyngor, Nia Jeffreys: “Mae gwasanaeth wyneb yn wyneb yn allweddol i bobl leol, yn arbennig i bobl fregus sydd angen cefnogaeth gyson.
“Bydd y buddsoddiad yma hefyd yn sicrhau gofod i staff Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor a’u cydweithwyr o’r gwasanaeth iechyd. Mae cydweithio clos yn digwydd gyda’r gwasanaeth iechyd a bydd cael swyddfa i staff ei ddefnyddio sy’n agos at Ysbyty Alltwen."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter