Yn ôl Arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn hynod falch o allu croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Wynedd yn 2021. Dyma fydd y tro cyntaf i’r Brifwyl ymweld ag ardal Dwyfor ers 1987 a dwi’n siŵr y bydd cymunedau lleol yn sicrhau y bydd hi’n Eisteddfod i’w chofio.
“Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd miloedd o bobl o bell ac agos yn tyrru i Wynedd i gystadlu neu i fwynhau bwrlwm unigryw y Maes. Ein bwriad fydd dathlu’r diwylliant arbennig yma a phopeth sydd gennym i fod yn falch ohono yma yng Ngwynedd.
“Fel Cyngor, rydym wedi cynorthwyo’r Eisteddfod i adnabod safleoedd posib, ac rydym yn falch eu bod bellach yn cyhoeddi mai safle ym Moduan fydd cartref y Brifwyl mewn dwy flynedd. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Eiddo’r Cyngor am eu gwaith caled wrth gydweithio a staff yr Eisteddfod yn y gwaith pwysig hwn.
Bydd llawer i’w wneud dros y misoedd nesaf, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Eisteddfod wrth gynllunio a pharatoi ar gyfer ein gŵyl genedlaethol ym mis Awst 2021.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter