“Mae oddeutu 3,700 o filltiroedd rhwng Gwynedd a Minnesota yn yr Unol Daleithiau ond ymhob ystyr posib rydym yn cydsefyll yn gadarn gyda’r bobl groenddu draw yno,” meddai arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
“Mae’n hollbwysig nodi’r cyd-destun hanesyddol hyll y tu ôl i lofruddiaeth George Floyd a’r protestiadau sydd wedi dilyn. Dylem hefyd gofio nad dim ond problem ar ochr draw i Fôr yr Iwerydd yw hiliaeth heddiw.
“Mae’n elfen ffiaidd o’n cymdeithas ni yma yng Nghymru ac o fewn ein cymunedau, er efallai nad yw mor amlwg ar yr wyneb i’r mwyafrif ohonom.
“Mae ffigyrau troseddau casineb yn dangos bod achosion o hiliaeth yng ngogledd-orllewin Cymru bron wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
“Nid ydym, ym Mhlaid Cymru Gwynedd, yn cau ein llygaid i hyn. Rydym yn credu’n frwd mewn cydraddoldeb fel egwyddor gwbl sylfaenol. Anogwn bawb i gydweithio gan sefyll gyda ni ysgwydd-wrth ysgwydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, (a welir yn y llun uchod) sydd â’r cyfrifoldeb dros gydraddoldeb ar gabniet Cyngor Gwynedd:
“Yn amlwg mae llofruddiaeth George Floyd wedi cynddeiriogi a brawychu pobl ledled y byd, gan ein cynnwys ni yma yng Ngwynedd. Hoffwn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu draw yn Minnesota.
“Nid oes unrhyw le o gwbl i hiliaeth o fewn ein cymdeithas, boed y gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol hwnnw ar sail lliw croen, crefydd, cenedligrwydd neu ddiwylliant.
“Rydym, fel Plaid yn annog pobl i gydweithio trwy arddangos baneri o’ch cartrefi neu fynegi neges gwrth-hiliol drwy’r cyfryngau cymdeithasol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter