Cydweithio yn datrys problemau traffig a thwristiaeth yn Llangywer

Mae cydweithio cyflym ac effeithiol dros fisoedd yr haf wedi sicrhau bod ffyrdd yn llawer mwy diogel i drigolion Llangywer ger Y Bala ac i ymwelwyr hefyd, yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru dros yr ardal, Alan Jones Evans (sydd yn y llun).

Cafwyd trafferthion gyda cheir ymwelwyr wedi eu parcio blith draphlith ar hyd y ffordd gul sy’n arwain ar hyd ochr Llyn Tegid o’r Bala i Llangywer yn ystod yr haf. Roedd pryder bod traffig lleol yn methu teithio ar hyd y ffordd yn hwylus, gan gynnwys tractorau a lorïau, ond yn bwysicach fyth, cerbydau’r gwasanaethau brys.

Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Llanuwchllyn a Llangywer, Alan Jones Evans: “Roedd na bryder go iawn yn ystod wythnosau cyntaf y gwyliau, wrth weld cynifer o gerbydau wedi eu parcio mewn un rhes bob ochr i’r lôn ar hyd y ffordd gul. Roedd ceir wedi parcio yn y mannau pasio hefyd gan greu tagfeydd ar hyd y ffordd yn ystod penwythnos prysur iawn.

“Tra’n bod ni’n croesawu ymwelwyr i’r ardal, mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan, yn parchu ein cymunedau ac yn ymddwyn yn gyfrifol ar hyd ein llwybrau a’n ffyrdd.

“Dwi a’r trigolion lleol yn ddiolchgar iawn am y cydweithio a fu rhwng Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru i oresgyn y broblem a rhoi mesurau ar waith i liniaru’r problemau parcio.

“Oherwydd bod gen i berthynas waith dda gyda Warden y Parc Cenedlaethol yn yr ardal hon, llwyddwyd i dynnu cynllun lleol at ei gilydd yn hwylus iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i’r trigolion lleol fu’n cyfathrebu a chydweithio â ni i symud yn gyflym i liniaru’r trafferthion.

“Roeddwn yn gallu rhagweld problem ddifrifol pe bae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i’r pentref a cheisio cyrraedd cartref neu un o’r ffermydd rhwng Y Bala a Llangywer mewn argyfwng dros y penwythnos prysur hwnnw.”

Oherwydd y cydweithio fu rhwng yr asiantaethau, llwyddwyd i osod conau traffig melyn ar hyd y ffordd (fel y gwelwch o lun y ffordd) a chael presenoldeb mwy amlwg gan yr Heddlu i dawelu meddwl trigolion yr ardal a’r ymwelwyr hynny oedd hefyd yn pryderu am allu symud yn ddiogel yn eu cerbydau ac ar droed.

“Yn ffodus iawn, cawsom ymateb cadarnhaol a chyflym i’r broblem gan yr holl asiantaethau yn lleol. Mae hynny yn gysur meddwl i mi, fel y cynrychiolydd lleol. Bydden ni wedi wynebu trafferthion gydol yr haf onibai bod yr awdurdodau wedi delio â’r mater yn effeithiol a chyda’r un difrifoldeb a wynebwyd gyda pharcio anghyfrifol ym Mhen y Pas.”

“Mae pentref Llangywer dros y blynyddoedd diwethaf wedi gweld cynnydd yn nifer y trigolion lleol sy’n prynu tai ac yn symud yn ôl i’r ardal i fyw. Mae’n galonogol iawn gweld cyplau ifanc a theuluoedd lleol yn ymgartrefu yn ôl yn eu hardal enedigol.

“Ers gosod y conau ar hyd y ffordd, mae’r ffordd wedi bod yn glir ac yn hwylus i deithio ar ei hyd, hyd yn oed yn ystod penwythnosau prysuraf yr haf.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-09-16 13:40:08 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns