Cydweithio yw’r ateb i osgoi colli gwasanaeth bws Gerlan

Cydweithio yw’r ateb er mwyn osgoi colli gwasanaeth cyhoeddus bws sy’n teithio o Fangor trwy Fethesda ac i Gerlan, yn ôl y Cynghorydd Sir lleol, Paul Rowlinson.

“Mae 'na broblem barcio yn Gerlan gyda’r nos sy’n cael effaith ar wasanaeth bws lleol Arriva,” eglura’r Cynghorydd Plaid Cymru, Paul Rowlinson.

Cynghorydd Paul Rowlinson

Llun: Y Cynghorydd Paul Rowlinson ar y gyffordd ar Ffordd Gerlan a Stryd Morgan sy’n peri’r anhawster i’r bysiau droi rownd oherwydd bod cerbydau wedi parcio ar y ffordd.

“Mae bygythiad i’r gwasanaeth ar ol 5:30 yr hwyr yn ôl cwmni Arriva, oherwydd bod y lleoliad mae’r bws yn ei ddefnyddio i droi rownd er mwyn teithio yn ôl i Fethesda ac ymlaen i Fangor weithiau yn llawn o geir wedi eu parcio. Y gyffordd ar Ffordd Gerlan a Stryd Morgan sy’n peri’r anhawster i’r cwmni bysiau.

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r broblem ac wedi gwneud cais i bobl osgoi parcio yn yr ardal, ond mae hi bellach yn dyngedfennol bwysig nad yw trigolion lleol yn parcio yma ar ôl cyrraedd gartref o’i gwaith a’i prysurdeb dyddiol, neu mi gollwn ni’r gwasanaeth bysiau.”

Oherwydd cynnydd cyffredinol yn nifer y cerbydau sydd o fewn cymunedau a diffyg lleoliadau addas i barcio, mae Cyngor Cymuned Bethesda wedi bod yn edrych ar ddatrys y broblem yn yr hir dymor ers peth amser.

“Mae Cyngor Cymuned Bethesda, Partneriaeth Ogwen a Chyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar ddatrysiad er mwyn lliniaru’r sefyllfa barcio ddyrys sy’n yr ardal. Yn anffodus mae oedi wedi bod yn y gwaith hwnnw ond dwi’n falch o ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud erbyn hyn,” eglura’r Cynghorydd.

Mae’r Cyngor wedi cytuno â’r tirfeddiannwr i bryniant tir ac yn edrych ar sustem ddraeniad y safle cyn bwrw ati i greu cynllun busnes a chyflwyno cais cynllunio.

“Bydd y Cyngor yn anfon taflen at bobl leol gyda mwy o fanylion cyn hir, ond yn y cyfamser, dwi’n erfyn ar bawb i gydweithio, ac atgoffa pobl leol i barcio’n ofalus yn yr ardal er mwyn sicrhau bod y bysiau yn parhau i redeg gyda’r hwyr.

“Mae’n hanfodol bwysig bod gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus fel hon yn parhau i gyrraedd ein hardal leol ni, er lles pawb,” meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson.

Bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn i warden traffig ymweld â’r lleoliad yn Gerlan i oruchwylio’r ardal.

diwedd


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns