Mae llythyr gan gynrychiolwyr Plaid Cymru Gwynedd yn cydnabod y “gwasanaeth meddygol brys tyngedfennol ac amhrisiadwy” a ddarperir i bobl Gwynedd gan Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) ond yn galw am atebion i bryderon pobl ynglŷn ag adolygiad o’r gwasanaeth a dyfodol y ganolfan ger Caernarfon.
Mae Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ynghyd â’r aelod cabinet dros oedolion, y Cynghorydd Dilwyn Morgan a chynrychiolydd lleol y ward leol lle mae canolfan yr hofrennydd yn Ninas Dinlle, y Cynghorydd Llio Elenid Owen, wedi cyfleu eu pryderon i Brif Weithredwr AAC ynglŷn â’r heriau wrth gyrraedd pobl mewn anawsterau, os daw ei adolygiad i'r casgliad y bydd y gwasanaeth yn cael ei adleoli ymhellach o’r ardal.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’r natur wledig a’r rhwydweithiau ffyrdd yn gwneud achub bywydau yng Ngwynedd yn heriol ar y gorau. Bydd ail-leoli, heb os, yn fwy fyth o her.
“Mae diwydiant fel amaethyddiaeth yn chwarae rhan allweddol yn ein sir gyda phobl yn gweithio yn ynysig mewn lleoliadau gwledig iawn, ymhell o gefnogaeth a gwasanaethau. Gaiff unrhyw newid effaith andwyol ar gyrraedd preswylwyr, yn dilyn damweiniau neu argyfyngau meddygol? Mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb ar hyn o bryd, mae’n destun pryder.”
Dywedodd cynrychiolydd Ward Groeslon, sy’n cynnwys lleoliad AAC yn Ninas Dinlle, y Cynghorydd Llio Elenid Owen (yn y llun): “Mae pobl wedi bod yn cysylltu â mi’n gyson ers i’r sibrydion ddechrau am newidiadau ar y safle. Daeth dros 50 o bobl i gyfarfod cyhoeddus gyda ni ym Mhorthmadog yn ystod y dyddiau diwethaf, ac roedd teimladau cryfion yno. Gallwch weld pa mor bryderus ydi pobl.
“Dwi wedi clywed am brofiadau personol pobl o ddefnyddio’r gwasanaeth, a pha mor hanfodol fu’r ymateb uniongyrchol hwnnw i iechyd pobl. Rydyn ni gyd yn bryderus iawn yn enwedig yn fy ardal i lle mae pobl fy Ward, a Chaernarfon a’r cyffiniau, wedi gweithio’n agos gyda’r tîm yn y ganolfan i godi arian, i wirfoddoli a chefnogi staff dros nifer o flynyddoedd.
“Mae fy Aelod Seneddol, Hywel Williams a Siân Gwenllian, Aelod Senedd Cymru dros Arfon yn cydweithio efo ni i dynnu sylw at ba mor hanfodol yw’r gwasanaeth, ar y safle presennol. Rydyn ni mor ddiolchgar i bobl leol sy’n codi proffil y mater hwn efo ni, rhai a fynychodd ddigwyddiad yng nghanolfan AAC Caernarfon yn gynharach yn y mis i geisio diogelu’r gwasanaeth yn Ninas Dinlle.”
Bu Cynghorydd Harlech a Llanbedr, Gwynfor Owen (a welir yn y llun) yn allweddol wrth drefnu’r cyfarfod ym Mhorthmadog yn ddiweddar. Mabon ap Gwynfor, Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, fu’n cadeirio ac roedd yn ddiolchgar i’r rhai a fynychodd i gydweithio ar y mater. Dywedodd ei fod wedi holi i’r Prif Weinidog ymyrryd gan rannu gwybodaeth â’r cyhoedd ynglŷn â’r adolygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen: “Rydym wedi clywed sibrydion y gallai canolfan AAC symud ar draws y gogledd i’r dwyrain. Byddai hynny’n bendant yn effeithio ar gyrraedd y bobl sy’n byw ar hyd arfordir gorllewinol yr ardal hon, yn ogystal â’r ardaloedd gwledig sydd gennym yn ardal Dwyfor Meirionnydd. Mae ein Haelod Seneddol dros yr ardal, Liz Saville-Roberts yn cydweithio efo ni ac yn dweud ei bod yn hollbwysig ein bod yn cwestiynu unrhyw drefniadau newydd.
“Rydyn ni’n sir wledig, gyda bryniau a mynyddoedd, moroedd a llynnoedd sy’n denu poblogaeth enfawr yn ystod y misoedd yr haf, sut gall newidiadau AAC fynd i’r afael â’r pryder yna? Mae rhai o’m hetholwyr, fel mae fy nghyd-aelodau hefyd yn clywed, yn gweithio ar eu pen eu hunain, mewn rhai ardaloedd gwledig a diarffordd. Yn sicr allwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle mae bywydau pobl yn cael eu peryglu, oherwydd newidiadau i safle’r gwasanaeth meddygol hollbwysig yma.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros oedolion, y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Mae’r pellter o Ben Llŷn i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac o dde Meirionnydd i ysbytai Bangor, Wrecsam ac Aberystwyth yn gadael y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ein cenhedlaeth hŷn, yn fwy bregus.
“Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, rhai gyda phroblemau iechyd cymhleth, mae gennym bryderon dybryd y bydd delio â sefyllfaoedd brys o fewn Gwynedd heb y gwasanaeth yn y ganolfan yng Nghaernarfon, fod yn angheuol. Mae angen mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn yn gynt nag yn hwyrach.”
Wrth gloi’r llythyr a anfonwyd at Brif Weithredwr AAC, gofynnodd y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn, Dilwyn Morgan a Llio Elenid am atebion i'w cwestiynau ar ran pobl leol cyn gynted â phosibl neu am gyfarfod i ddeall mwy.
Cydnabyddiaeth lluniau: Arwyn Herald
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter