A wnaiff Cynghorwyr Gwynedd gefnogi’r cais i barhau yn Gymry Ewropeaidd?

JudithHumphreys1.jpg“Dwi’n teimlo bod llais pobl Gwynedd ac ardaloedd tebyg ddim yn cael ei chlywed yn ystod y trafodaethau sy’n mynd yn eu blaenau am Brexit. Gwnaeth mwyafrif pobl Gwynedd bleidleisio yn y Refferendwm i aros yn Ewrop,” meddai’r Cynghorydd Judith Humphreys, sy’n cynrychioli Penygroes ar Gyngor Gwynedd.

Dyna’r rheswm y bydd y Cynghorydd, a grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn galw yr wythnos hon am gefnogaeth holl Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi’r cais i bwyso am ddinasyddiaeth Cymru Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit.

Yn ôl y Cynghorydd Judith Humphreys: “O’m trafodaethau i efo etholwyr a chyfeillion sy’n byw yng Ngwynedd, rydym eisiau’r hawl i barhau yn ninasyddion yr Undeb Ewropeaidd gan roi’r hawl i ni fel unigolion Gwynedd benderfynu ydym ni am deithio, gweithio, neu astudio unrhyw le y tu mewn i’r Undeb Ewropeaidd. Byddai hefyd yn parhau â’n hawliau sy’n ymwneud â gwarchod iechyd, addysg a gwaith hefyd, wrth gwrs. Mae gwir bryder y collwn ni’r hawliau hyn, os na rown ni bwysau ar Llywodraeth San Steffan rŵan.

“Yn fy marn i, mae’r hawl yma’n rhan greiddiol o’n hunaniaeth Ewropeaidd. A dyla bod gan ein plant, y genhedlaeth nesaf, y cyfle i ehangu ei gorwelion a’i cyfleoedd mewn bywyd trwy barhau yn ninasyddion Cymru Ewropeaidd, ynghyd â chadw hawliau pwysig sydd yn eu gwarchod ar hyn o bryd.”

Un sydd wedi bod yn flaenllaw yn y gwaith o sicrhau bod Cymry’n cael parhau yn ddinasyddion Ewropeaidd yw’r Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Blaid Cymru Jill Evans. Rhyddhaodd Jill Evans ASE astudiaeth arbenigol wedi ei greu gan Yr Athro. Volker Roeben o Brifysgol Abertawe, ‘Dichonolrwydd Dinasyddiaeth Gysylltiol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Dinasyddion y DU ar ôl Brexit.’

Ymysg casgliadau’r astudiaeth, nodir nad oes unrhyw reswm cyfreithiol pam na all bobl Cymru, Iwerddon, Yr Alban na Lloegr barhau yn ninasyddion Ewropeaidd yn dilyn gadael Ewrop. Gallai olygu y byddai raid creu statws ‘Dinasyddiaeth Gysylltiol.’ Ond mae modd gwneud hyn trwy ddeddfwriaeth Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb ymadael rhwng y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd. Noda’r astudiaeth hefyd bod dinasyddiaeth y Deyrnas Gyfunol yn hyblyg ac mae’n egwyddor na ddylai pobl golli dinasyddiaeth yn erbyn eu hewyllys.

“Mae’r astudiaeth hefyd yn nodi bod datganoli’r Deyrnas Gyfunol yn dod a chyfrifoldebau i lywodraethau datganoledig, fel Llywodraeth Cymru, i amddiffyn dinasyddiaeth Ewropeaidd. Felly mae gan y Blaid Lafur yng Nghaerdydd hefyd le i weithredu ar hyn.”

Mae Plaid Cymru yn San Steffan wedi gweithio’n galed i ennill cefnogaeth aelodau’r Tŷ Cyffredin ar y pwnc yma, gydag arweinyddion grwpiau gwleidyddol ac Aelodau Seneddol eraill fel Ian Blackford AS, Arweinydd yr SNP; Sir Vince Cable AS, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol; Caroline Lucas AS ac eraill wedi cefnogi galwad Plaid Cymru. Mae sefydliadau blaenllaw, unigolion a chyfreithiwr amlwg hefyd wedi nodi eu cefngoaeth i alwad Plaid Cymru.

Yn ôl Hywel Williams AS Plaid Cymru dros drigolion Arfon: “Mae’r Tŷ Cyffredin wedi cefnogi’r alwad, dylai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fwrw mlaen gyda negydu’r pwnc yma nawr ar ran trigolion Cymru. Mae’n amser i Theresa May a’r cabinet Brexit wrando ar y neges gre hon.”

Yn ôl y Cynghorydd Judith Humphreys: “Rydym fel grŵp yn galw am gefnogaeth cynghorwyr Gwynedd yn y cyngor llawn yr wythnos hon i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sicrhau bod ein hawliau ni, yng Ngwynedd, fel dinasyddion yn cael ei cadw a’n galluogi i barhau yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.