Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar yn Llanbedr, Ardudwy, talodd y ddau Gynghorydd Sir deyrnged i’r bobl leol a’r grŵp cymunedol, Pobl, am eu lobïo parhaus, gwaith trefnu, gohebu a chyfarfodydd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddod o hyd i atebion i’r problemau traffig sy’n wynebu’r pentref. Bydd y ddau yn ymuno a 'Pobl' y penwythnos hwn ar gyfer taith gerdded protest yn Llanbedr am 11am, ddydd Sadwrn 25 Mawrth fydd yn cychwyn o ochr ddeheuol y pentref.
Dywedodd y cynrychiolwyr sirol lleol, y Cynghorwyr Annwen Hughes a Gwynfor Owen mai pobl Llanbedr a’r cymunedau cyfagos yw eu prif flaenoriaeth a’u bod mewn cyswllt â gwleidyddion ar bob lefel i gydweithio er lles yr ardal. Roeddynt yn awyddus i bwysleisio bod gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i atebion i broblemau diogelwch i gerddwyr, llygredd, llif traffig a thagfeydd yng nghanol pentref Llanbedr.
Yn ol y Cynghorydd Annwen Hughes: “Fel merch leol, wedi’i geni a’i magu yn yr ardal, yn gweithio, ffermio a magu teulu yma, dwi’n profi’r problemau’n rheolaidd ac yn uniongyrchol. Dwi wedi fy nghythruddo i ni gael ein siomi gan y ddwy lywodraeth. Mae bywyd gwledig a chefn gwlad Meirionnydd yr un mor bwysig ag ardaloedd poblog prysur i'r de o Ferthyr.
“Dwi’n awyddus i ni barhau i gydweithio gyda’r gymuned leol, swyddogion Cyngor Gwynedd, cynrychiolwyr Plaid Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fel Arweinydd Gwynedd; Mabon ap Gwynfor, Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd a Liz Saville Roberts, AS gan barhau i bwyso ein hachos a chanfod atebion. Dechreuodd y genhedlaeth o’n blaenau ni ar y dasg o geisio lleddfu’r problemau sy’n ein hwynebu ar bont y pentref sy’n dyddio nôl i ganol yr 17eg ganrif - mae’n hen bryd, felly, rhoi cynllun ar waith.
Mynegodd y Cynghorydd Gwynfor Owen ei werthfawrogiad i gynrychiolwyr Pobl am drefnu’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd Bentref Llanbedr yn ddiweddar a’r gwaith y maent yn parhau i wneud wrth godi ymwybyddiaeth am y trafferthion.
“Cymrais y cyfle i ofyn am ddiweddariad gan Gyngor Gwynedd yn ein cyfarfod llawn o’r cyngor ddechrau'r mis. Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn bod y Cyngor wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i sicrhau bod Llanbedr a’r ardal ehangach yn gallu elwa o swyddi gwerth uchel a fyddai’n dod gyda datblygiadau yn safle’r maes awyr cyfagos, ynghyd â sicrhau ffordd fynediad addas i hwyluso datblygiad a ffordd newydd i ddatrys problemau tagfeydd traffig sylweddol yn y pentref.
“Rydym yn gwybod y byddai’r cais Coridor Gwyrdd Ardudwy i Lywodraeth San Steffan wedi cynnig cyfle gwirioneddol i ddod â mynediad newydd i safle’r maes awyr a mynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig yn Llanbedr. Byddai teithio llesol a gwyrdd wedi ei hyrwyddo, gan wneud cerdded a beicio yn llawer mwy diogel.”
Dywedodd Dyfrig Siencyn wrth y cyngor llawn (2 Mawrth) fod penderfyniad diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio â chefnogi cais y Cyngor am arian o'r gronfa Ffyniant Bro yn hynod o siomedig. “Mae’n tanlinellu diffyg dealltwriaeth y llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa,” meddai.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru i wneud tro pedol ar ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gynllun a fyddai wedi sicrhau mynediad i’r maes awyr a ffordd newydd i Lanbedr.
Dywedodd Gwynfor Owen: “Mae Cyngor Gwynedd a’r Arweinydd wedi ymrwymo i’n cefnogi i chwilio am ateb cadarnhaol a fydd yn datgloi potensial economaidd maes awyr Llanbedr, datrys problemau tagfeydd traffig lleol, ac annog opsiynau teithio cynaliadwy. Byddant yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ystyried sut y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd yn y tymor byr i geisio gwella diogelwch a’r ddarpariaeth teithio llesol ar hyd yr A496 rhwng Llandecwyn a’r Bermo.
Dywedodd Dyfrig Siencyn yn y cyngor llawn: “Er gwaethaf cyhoeddiad siomedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn 2021 i beidio â chefnogi’r cynllun gwreiddiol, mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn parhau i drafod atebion a fydd yn hwyluso mynediad i faes awyr Llanbedr.
“Gallaf eich sicrhau, fel cynghorwyr a’r gymuned leol, y bydd yr ymdrechion hyn yn parhau hyd nes y ceir ateb derbyniol ar gyfer Llanbedr ac ardal ehangach Ardudwy.”
Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen: “Rhaid i ni barhau i weithio fel un i geisio lleddfu diogelwch a lles y gymuned leol. Mae Mabon ap Gwynfor a Liz Saville-Roberts hefyd yn pwyso’n galed ar y mater hwn, ar ein rhan hefyd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter