Cynghorydd a gwraig fusnes llwyddiannus yn camu lawr wedi bron i 40 mlynedd

Ar ôl bron i 40 mlynedd yn gwasanaethu ei chymuned, mae Linda Pengwern, fel y'i gelwir yn lleol, wedi camu i lawr o'i rôl fel Cynghorydd Gwynedd ar gyfer Ward Teigl, Ffestiniog.

“Mae Linda Ann Jones yn ddynes ysbrydoledig,” meddai arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys.

“Mae hi'n arloeswr yng Ngwynedd. Sefydlodd un o fentrau cymdeithasol cyntaf Cymru er mwyn cynnig cyflogaeth i bobl leol; gwasanaethodd ei chymuned yn Llan Ffestiniog a Manod gyda balchder ac ysgwyd sylfeini gwrywaidd y cyngor sir yng nghanol y 1980au. Mae wedi bod yn fraint cael cydweithio â Linda dros y blynyddoedd.”

Mae gwreiddiau amaethyddol ei theulu yn dyddio nôl i'r 1500au yng Nghwm Cynfal, Llan Ffestiniog, gyda'r ddau nain a thaid yn dangos i'r Linda ifanc, sut roedd gwaith caled, mentergarwch a helpu eraill yn cyfrannu cymaint at fywyd teuluol a'i chymuned leol.

“Roedd un taid a nain yn rhedeg Y Grapes ym Maentwrog, tra bod fy nhaid arall yn gweithio yn y ‘Sets’ ym Mlaenau a nain yn rhedeg siop ddillad,” eglura Linda, 76 oed

"Roedd dylanwad fy rhieni yn gryf arnai - roeddynt yn brysur yn rhedeg nifer o fusnesau, gan gynnwys siop ddillad, tafarn y Pengwern a Chlwb y Black Rock ym Morfa Bychan.”

Wedi gadael Ysgol Sir Ffestiniog (Ysgol y Moelwyn heddiw), symudodd Linda yn ei harddegau i ddinas brysur Lerpwl i hyfforddi mewn harddwch a thrin gwallt yn Academi'r ddinas. Yn 19 oed, sefydlodd ei salon gwallt ei hun nôl adref ym Mlaenau ac ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Tracey, sefydlodd un o'r gwasanaethau trin gwallt symudol cyntaf ym Mlaenau gan weithio o amgylch bywyd teuluol.

Gyda thri mab yn dilyn, Anthony, Cai ac Ywain, mae bywyd teuluol bob amser wedi bod wrth wraidd blaenoriaethau Linda. Ar ôl i’w phriodas gyntaf chwalu, ail-daniodd perthynas cyfaill plentyndod gyda’r diweddar, Dafydd Wyn Jones, a phriododd y ddau.

“Dafydd oedd yr un a'm hysbrydolodd i ystyried sefyll fel cynghorydd sir,” eglurodd Linda. "Roedd o’n cael ei nabod yn lleol fel Stan, roedd o’n wladgarwr, yn genedlaetholwr ac yn ddyn ei gymuned. Dwi'n credu mai dyna'r rheswm roedden ni’n gyrru mlaen cystal, roedd Dafydd yn graig gan fy nghefnogi i gyflawni popeth roedden ni fel teulu yn ei gyflawni.”

“Rhyddfrydwyr oedd teulu fy mam. Un o'm hatgofion cyntaf o wleidyddiaeth oedd mynychu cyfri’r etholiad yn Nolgellau, pan etholwyd y diweddar, Dafydd Ellis-Thomas, y tro cyntaf. Dwi’n cofio’r teimlad o gael fy nghario gan gyffro, y llawenydd a’r brwdfrydedd gan griw y Blaid wedi buddugoliaeth Dafydd. Dyna pryd y dechreuais i feddwl am Blaid Cymru fel cartref gwleidyddol.

"Rhoddodd pobl fel Elfyn Llwyd a Dafydd ynghyd ag aelodau o staff gweithgar y Blaid yn Nolgellau, a ddaeth yn ffrindiau mawr yn ddiweddarach, y gefnogaeth oedd ei angen arnaf i ymuno â Phlaid Cymru.”

Pan safodd Linda fel cynrychiolydd lleol yng Nghyngor Dosbarth Meirionnydd yn 1986, enillodd o dair pleidlais, yn unig. Cafodd ei chroesawu fel chwa o awyr iach i'w chymuned leol er bod aelodau oedrannus gwrywaidd y cyngor sir yn Nolgellau "chydig yn bryderus ohonai” eglura Linda, o weld mam ifanc, yn cnoi chewing gum ac yn gwisgo tracwisg yn eistedd yng nghyfarfodydd y cyngor! Ond, buan iawn y derbyniwyd Linda fel un gre, ddylanwadol.

Arhosodd un gair o gyngor gyda hi yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny: “am y chwe mis cyntaf, gwranda a dysga, a gwna’n siŵr dy fod yn darllen papurau bob pwyllgor ymlaen llaw.” Cadwodd Linda’n driw at y cyngor hwnnw yn ystod ei 39 mlynedd ac mae wedi trosglwyddo'r un genadwri i gyd-gynghorwyr newydd dros y blynyddoedd.

Wrth iddi fagu'r plant, daeth ei gwaith cymunedol yn cefnogi'r cae chwarae lleol, helpu yng ngweithgareddau'r ysgol a chodi arian ar gyfer y neuadd gymunedol, i arddangos sgiliau newydd, ynddi. Datblygodd ei gyrfa pan ddechreuodd weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymunedol yng Ngwynedd, ac yn fuan gwnaed cynnig iddi symud ac arbenigo mewn cymorth anableddau addysgol a chorfforol.

“Sylwais yn fuan ein bod ni'n cario pobl ag anableddau dysgu a chorfforol yn gynnar yn y bore i ganolfannau, ac yna eu gweld yn dychwelyd yn hwyr yn y pnawn i'w cartrefi. Dyna pryd roedd y gefnogaeth yn dod i ben am y noson. Felly, dyma benderfynu ceisio cyllid i gefnogi’r unigolion yma yn eu cymuned eu hunain. A dyna sut dechreuodd gwaith Seren.”

Mae Seren yn un o fentrau cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru - fe’i sefydlwyd ym 1996 gan Linda Ann i gynnig cymorth proffesiynol i bobl ag anableddau dysgu yn ne Gwynedd.

Linda yn dangos Seren i gyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood. Hefyd yn y llun ma cyn gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd ac aelod o staff.

Trwy ddatblygu gyda thîm gwych, mae bellach yr ail gyflogwr mwyaf yn yr ardal, mae’n elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant. Mae wedi gwthio ffiniau i ddarparu gwasanaeth i bobl ag anableddau dysgu a chorfforol a'u teuluoedd i wella ansawdd eu bywyd.

“Mae hi wedi bod yn yrfa wirioneddol werth chweil,” eglura Linda, “hyd yn oed yn y cyfnodau anodd hynny lle'r oedd cyllid yn mynd a dod a phan oedd gennym bryderon am ein dyfodol. Roedd y penderfyniad ynof i sefydlu elfennau masnachol i gefnogi'r nod cyffredinol o gefnogi pobl a chynnig cyflogaeth yn yr ardal, yn dod o fy nghefndir teuluol. Dwi wedi bod yn arbennig o falch o sefydlu Gwesty Seren, gwesty wedi'i deilwra’n benodol ar gyfer unigolion ag anghenion ac anawsterau dysgu a'u teuluoedd, y gwesty cyntaf o’i fath yn y DU.

Wrth drosglwyddo awenau Seren i'r aelodau staff presennol, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd yn cyflogi 70 o bobl, yn cefnogi 40 o unigolion ac roedd asedau’r elusen tua £2 filiwn.

Yn ôl Linda: "Dydi  bywyd ddim wedi bod  yn hawdd bob amser. Fe gollon ni Ant, fy mab hynaf, mewn gwrthdrawiad ar y ffordd pan oedd yn 27 oed. Bu farw Cai, 45, ar ôl brwydro’n ddewr o ganlyniad i salwch yn 2019, ac mi gollon ni Dafydd yn yr un flwyddyn. Mae fy iechyd fy hun wedi bod yn heriol  dros y blynyddoedd, ond trwy'r cyfan, mae dau beth wedi aros yn gyson, cymuned Ffestiniog a fy ngwaith fel Cynghorydd Sir.

"Byddaf yn sicr yn colli'r ffrindiau a'r cydweithwyr  sydd wedi cerdded y daith gyda fi trwy gydol fy ngyrfa wleidyddol. Ond mae'n bryd trosglwyddo'r awenau i wyneb newydd. Llongyfarchiadau enfawr i i Geraint Wyn Parry ar ei lwyddiant yn yr Is Etholiad, mi fyddi di’n gynghorydd heb ei ail, Geraint!”

Wrth gloi, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Nia Jeffreys: “Diolch i Linda am bopeth mae hi wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd ac am fod yn fodel rôl nid yn unig i mi, ond i'r holl gynghorwyr benywaidd sydd bellach yn cael y fraint o weithio, yma yng Ngwynedd. Fel tîm Plaid Cymru Gwynedd, rydyn ni’n ddiolchgar am bopeth y mae Linda Ann Jones wedi ei gyflawni dros drigolion Ffestiniog, dros Wynedd a thros Blaid Cymru.”

Linda yn ei milltir sgwar, Llan Ffestiniog gydag un o'r trigolion, Marian, y Cynghorydd Sir newydd dros yr ardal, Geraint Wyn Parry ac Aelod Senedd Cymru Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2025-04-22 17:35:25 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns