Mae bwrlwm yn nhref Harlech yn ddiweddar, wrth i dri busnes newydd agor eu drysau ar y stryd fawr.
Bu Gwynfor Owen, Cynghorydd Plaid Cymru dros Harlech sy'n y llun, draw yn ddiweddar i groesawu a dymuno’n dda i berchnogion siop gacennau patisserie, siop drenau bach a rheilffordd ac oriel gelf.
“Mae unrhyw fenter newydd i’w croesawu’n fawr ac mae cael tri busnes yn agor dros yr wythnosau diwethaf, yn hwb enfawr i’r dref,” meddai’r Cynghorydd lleol, Gwynfor Owen.
“Dwi’n falch iawn o groesawu Roy Butler ac Angela Gibbons i’r stryd fawr wrth iddyn nhw agor ‘Angelique’s Patisserie’ a siop ‘Harlech Railway Models’. Dwi'n dymuno pob llwyddiant iddynt gyda'u busnesau newydd, yma ar y stryd fawr.
Yn y llun gwelir Cynghorydd Harlech, Gwynfor Owen yn croesawu Roy Butler ac Angela Gibbons i'r stryd fawr gyda'i busnesau Angelique’s Patisserie a Harlech Railway Models
“Ar ben hynny, mae oriel newydd wedi ei agor ar y brif stryd hefyd, gan Reg a Jane Chapman o’r enw ‘Galeri Harlech’, lle mae Jane ei hun, sy’n arlunydd, ac artistiaid lleol eraill yn arddangos eu gwaith.
Y Cynghorydd Gwynfor Owen yn y llun gyda'r artist, Jane Chapman, cyd-berchennog Galeri Harlech gyda'i gwr, Reg
“Dwi’n annog pobl leol i alw heibio a chefnogi’r busnesau yma wrth dreulio amser yn y dref. Rydyn ni ar ddechrau’r cyfnod prysur yma o weithgareddau a gwario ar gyfer y Nadolig.
“Mae tri adeilad gwag bellach mewn defnydd ar y stryd fawr ac mae hynny yn sicr yn gam cadarnhaol i gymuned Harlech a’r ardal gyfagos. Mae'n sicr yn amser cyffrous!
“Mae cefnogi ein busnesau lleol ac annog mentergarwch yn hanfodol mewn ardal wledig, fel Gwynedd. Felly, gadewch i ni gyd gofio siopa’n lleol a chefnogi teuluoedd a busnesau’r ardal wrth i gyfnod y gaeaf gyrraedd,” meddai’r Cynghorydd Gwynfor Owen.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter