Mae Cynghorydd Llanbedr, Annwen Hughes (a welir yn y llun), wedi croesawu’r newyddion bod yr Awdurdod Hedfan Sifil wedi caniatáu i Faes Awyr Llanbedr gael gofod awyr cyfyngedig er mwyn profi, buddsoddi a datblygu ei weithgareddau ymchwil yn ddiogel.
Daw’r ‘parth cyfyngedig’ newydd i rym ar unwaith, ond bydd y cwmni’n gweithredu’r awyr gyfyngedig trwy rybuddio awyrenwyr ei bod yn gweithio yno 24 awr ymlaen llaw.
Dyma’r porth gofod a Chanolfan Ragoriaeth y DU arfaethedig cyntaf i sicrhau gofod awyr cyfyngedig ei hun. Dyma hefyd yr unig ofod awyr cyfyngedig a reolir gan gwmni preifat masnachol yn y Deyrnas Gyfunol.
Roedd Canolfan Awyrofod Eryri, sy'n profi awyrennau’r genhedlaeth nesaf fel dronau, awyrennau trydan, balŵns uchder uchel a cherbydau sy’n agos at y gofod, eisiau creu gofod awyr cyfyngedig parhaol er mwyn cynnal profion ac ymchwil bellach ar y safle yng Ngwynedd.
“Mae hyn yn newyddion da i Llanbedr, i Wynedd ac i Gymru,” meddai’r cynghorydd lleol, Annwen Hughes.
“Prif gynllun tymor hir Maes Awyr Llanbedr yw creu dros 500 o swyddi a buddsoddi £19.5m bob blwyddyn i’r economi leol. Mae'r datblygiad hwn yn rhan o'r cynllun mawr hwnnw.
“Yn y rhan yma o Wynedd, mae’n rhaid i ni groesawu unrhyw hwb economaidd, fel bod swyddi o ansawdd, hyfforddiant ac addysg bellach i bobl ifanc a rhagolygon da ar gael i bobl leol ar gyfer y dyfodol. Mae swyddi a hyfforddiant yn hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i fyw a gweithio yn y rhan yma o Feirionnydd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter