Mae Cynghorydd Plaid Cymru Blaenau Ffestiniog dros Bowydd a Rhiw, Annwen Daniels (ar y chwith yn y llun, efo'r cynghorydd tref Gwenlli Evans) yn galw am wlâu diwedd oes yn ei chymuned.
Wrth gyflwyno siec o £5350 ar ran Y Goeden Goffa, i wasanaeth gofal yn y cartref Blaenau Ffestiniog yn ddiweddar, mae Annwen, sydd hefyd yn Gadeirydd Y Goeden Goffa yn y Blaenau yn dweud bod y pandemig wedi uchafu’r broblem yn ei hardal hi.
“Diolch i haelioni pobl a busnesau lleol, mae’r Goeden Goffa wedi llwyddo i godi’r arian yna dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn stop arnom ni, i godi dim mwy o arian. Fel rheol, mae gennym ni’n bwcedi arian allan yn casglu a ffurflenni yn y siopau i bobl eu llenwi - ond eleni, dim byd!
“Mae Covid-19 wedi dangos yn glir bod yr angen am ofal diwedd oes yma yn yr ardal yn bwysicach nag erioed. Allwch chi ddim disgwyl i bobl hŷn deithio i Landudno neu i Ysbyty Alltwen i ymweld â’i hanwyliaid sydd yn gwanio, gyda gwasanaethau bws yn lleihau a chostau teithio yn cynyddu.
“Rydyn ni angen safle pwrpasol yma yn y Blaenau, gyda gwelyau a gofal o safon i bobl wrth iddynt gyrraedd diwedd eu hoes.”
Gyda Hosbis Dewi Sant yn Llandudno yn gwneud gwaith arwrol, mae’r gwasanaeth sydd bron i awr i ffwrdd, yn rhy bell i bobl y Blaenau a’u teuluoedd allu manteisio ar y gofal yn yr hosbis ei hun yn hwylus.
“Ar ddiwedd eich oes, gofal, meddyginiaeth, caredigrwydd a pharch mae bobl ei angen. Maen nhw’n cael hynny yn eu cartrefi, diolch i’r nyrsys anhygoel sy’n gwasanaethu gofal yn y cartref yma. Ond i nifer o bobl, mae angen cefnogaeth mwy cyflawn, gyda dapariaeth 24 awr i gleifion a’u teuluoedd, wrth i’r pwysau gynyddu.
(llun: canol tref Blaenau Ffestiniog)
Un ffordd mae’r gymuned yn y Blaenau yn cofio am eu hanwyliaid yw drwy oleuo coeden goffa ar y sgwâr yn y dref ar ddiwedd mis Tachwedd. Mae pobl leol yn cyfrannu arian i gofio am eu hanwyliaid neu’n nodi dathlu achlysur arbennig yn eu cwmni tra bod eu henwau’n cael eu nodi mewn llyfr coffa sydd ynghlwm â’r goeden arbennig.
Er mai seremoni rithiol gafwyd llynedd, gobaith y pwyllgor eleni yw cynnal seremoni go iawn ar y Sgwâr unwaith eto.
“Tegwch i’n trigolion lleol - dyna dwi’n alw amdano. Ac wedi oes o waith a mwynhad, y peth lleiaf allwn ni gynnig i’n hanwyliaid yw’r parch iddynt gael gwely mewn hosbis yma yn eu milltir sgwâr, pe byddant ei angen.”
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn cyfrannu at Y Goeden Goffa, cysylltwch â
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter