Cynrychiolwyr lleol yn gweithredu ar leisiau trigolion Ardudwy am ffioedd parcio newydd

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn Ardudwy wrth eu bodd bod trafodaethau gyda swyddogion wedi arwain at welliannau i ffioedd parcio newydd a gyflwynwyd i feysydd parcio arhosiad hir Gwynedd.

Lleisiodd trigolion a pherchnogion busnes bryderon wrth Gynghorydd Llanbedr, Annwen Hughes a Chynghorydd newydd Harlech, Gwynfor Owen ynghylch y taliadau parcio newydd i'r meysydd parcio arhosiad hir (band 2) yn Y Maes, Llandanwg ynghyd â Min y Don a Bron y Graig Uchaf yn Harlech.

“Rydym yn aelodau etholedig ac yn byw o fewn ein cymunedau, felly mae'n hanfodol ein bod yn clywed barn a phersbectif pobl leol pan fydd newidiadau yn effeithio ar ein hardaloedd.” eglura'r Cynghorydd dros Llanbedr, Annwen Hughes.

“Cysylltodd nifer o bobl â mi yn ystod y dyddiau diwethaf, i holi pam bod y ffioedd 4 ac 8 awr wedi eu dileu o’r maes parcio arhosiad hir, a chyflwyno un tâl safonol 12 awr am £5 a 24 awr am £10 ers y 30ain o Fehefin.”

Trefnodd y Cynghorydd Plaid Cymru, Annwen Hughes gyfarfod gyda swyddogion Gwynedd a’r aelod cabinet sy’n gyfrifol am daliadau parcio, y Cynghorydd Gareth Griffith, yr wythnos ddiwethaf i drafod y mater.

“Rydym yn ffodus bod gennym berthynas waith agored a phroffesiynol gyda swyddogion Gwynedd. Ac roedd fy nghyd-gynghorydd Plaid Cymru, Gareth Griffith yn awyddus i ddod o hyd i ddatrysiad fyddai’n annog pobl i barcio, siopa ac ymweld â'n pentrefi a'n hardaloedd gwledig am gyfnod byrrach o amser, hyd yn oed o fewn ein meysydd parcio arhosiad hir.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwynedd dros yr Amgylchedd, Gareth Griffith: “Rydym bob amser yn awyddus i wrando ar farn pobl leol, ac rwy’n falch bod datrysiad wedi’i ddarganfod sy’n rhoi mwy o opsiynau i drigolion barcio. Mae parcio yn fater pwysig ac mae'n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau lleol, busnesau a'r amgylchedd. O safbwynt gwaith y Cyngor, mae'n bendant yn waith sydd angen ei bwyso a’i fesur yn ofalus.

Cynhaliodd Swyddogion Gwynedd adolygiad manwl o strategaeth barcio Gwynedd yn ystod y misoedd diwethaf. Yn dilyn mewnbwn gan y cynghorwyr lleol, bydd dau amser ychwanegol yn cael eu cyflwyno i feysydd parcio arhosiad hir band 2 - opsiwn i barcio am 2 awr neu am 4 awr. Bydd y taliadau nawr yn cynnwys:

£1 am 2 awr

£2 am 4 awr

£5.50 am 12 awr

£11 am 24 awr

Bydd diweddaru a diwygio'r taliadau newydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf, unwaith y bydd arwyddion a'r holl feddalwedd TG wedi eu huwchraddio ar y safleoedd parcio perthnasol. Y gobaith yw bydd y taliadau newydd ar waith erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Annwen Hughes: “Dwi’n ddiolchgar i drigolion Llanbedr a Llandanwg am gysylltu â mi mewn perthynas â’r mater hwn a bod datrysiad rhesymol wedi ei ddarganfod. Mae Covid-19 wedi cael effaith fawr ar ein hardal, fel llawer o ardaloedd yng Nghymru, ac mae angen i ni fod yn hyblyg ac addasu i'r effaith y mae wedi ei gael ar ein cymunedau.

“Mae ein busnesau wedi cael eu taro, mae ein cymunedau wedi cael eu heffeithio, a rhaid i ni geisio cydbwysedd rhwng annog trigolion i ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gennym yn ein pentrefi tra hefyd yn sicrhau nad yw’r cyfnod twristiaeth prysur sydd i ddod yn llethu ein cymunedau. Felly mae lleoliadau parcio swyddogol yn hanfodol i sicrhau diogelwch a mwynhad y bobl sy'n byw ac yn ymweld â'n hardal.”

Yn ôl y Cynghorydd Gwynfor Owen: “Effeithiodd y newidiadau hyn ar ddau o feysydd parcio Harlech, fel Llandanwg. Dwi'n falch bod trigolion lleol wedi cysylltu â mi i drafod y mater a dwi’n ddiolchgar i'm cyd-gynghorwyr Plaid Cymru am eu cefnogaeth i geisio datrysiad.

“Mae'r amgylchedd economaidd yn dal i geisio gwella yn dilyn y cyfyngiadau Covid-19 a fu arnom, ac mae'n bwysig bod gennym yr holl offer angenrheidiol i annog pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael yn Harlech, cyn i gyfnod prysur yr haf gychwyn yn ei anterth yr wythnos nesaf.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2021-07-15 11:10:00 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns