Mae trigolion sy’n byw o fewn ffiniau dinas Bangor sy’n fregus neu’n gorfod hunan-ynysu oherwydd pandemig Covid-19 yn cael eu hannog i gysylltu â’r Cynghorydd Steve Collings (a welir yn y llun), Plaid Cymru Bangor i gael pecynnau cymorth bwyd ar frys.
Mae’r Cynghorydd dros Ward Deiniol, Steve Collings, eisoes yn trefnu sesiwn ‘Bwyd i Bawb Bangor’ am ddim bob dydd Sul yn swyddfa Plaid Cymru Bangor. Ond yn ystod pandemig Covid-19, daeth yn amlwg yn fuan iawn bod rhywfaint o’r cyflenwad o fwyd sydd dros ben yn mynd yn anghyson ac na allai unigolion gyrraedd y lleoliad bwyd am ddim yn Swyddfa’r Blaid, rhif 70 ar stryd fawr Bangor.
“Rydyn ni wedi bod yn rhedeg ‘Bwyd i Bawb Bangor’ bob dydd Sul dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” esboniodd y Cynghorydd Steve Collings, “lle rydyn ni'n agor swyddfa’r Blaid ar y Stryd Fawr ym Mangor rhwng 10 a 12 bob bore Sul, ac yn cynnig amrywiaeth o wahanol fwydydd am ddim i drigolion.
Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones, Ward Glyder, sydd hefyd yn cynorthwyo ar y Sul: “Mae’n ffordd o gefnogi unigolion a theuluoedd sy’n fregus yn ariannol ac sy’n disgyn drwy’r system budd-daliadau lles a banciau bwyd. Mae hefyd yn sicrhau nad yw bwyd archfarchnadoedd yn cael ei wastraffu na’i anfon i safleoedd tirlenwi.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Tesco a Waitrose am gyflenwi'r bwyd sydd ganddynt dros ben i ni yn wythnosol. Rydyn ni hefyd, fel Cynghorwyr y Blaid ym Mangor sy'n cydweithio i gefnogi’r Cynghorydd Steve Collings, yn ymfalchïo yn y gwaith sy’n digwydd ar lawr gwlad i ddarparu'r gwasanaeth yma’n rheolaidd.”
Nawr bod Covid-19 a’r cyfyngiadau symud wedi taro’r ddinas a bod yr archfarchnadoedd yn cael trafferthion gyda chyflenwi rhai bwydydd, sylweddolodd y Cynghorydd Collings fod materion newydd yn effeithio ar Fwyd i Bawb Bangor ar y Sul. Roedd trigolion yn cael trafferth cyrraedd y gwasanaeth ac roedd sicrhau cyflenwadau bwyd i ateb y galw cynyddol yn mynd yn broblemus.
Cysylltodd y Cynghorydd Collings â Chyngor Dinas Bangor i weld a ellid sicrhau bod arian ar gael i gefnogi cynllun, lle gellid defnyddio arian i lenwi bwlch i greu cronfa fach o fwydydd sylfaenol, fel pasta, reis, blawd, siwgr, llysiau tun a ffrwythau, y gellid wedyn eu defnyddio gyda'r bwyd ffres dros ben o'r archfarchnadoedd. Gyda'r gefnogaeth ychwanegol hon, mae'r cynllun bellach yn gallu cyflwyno pecynnau i bobl ledled Bangor sy'n hunan-ynysu neu'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r argyfwng.
Dywedodd Maer Dinas Bangor, y Cynghorydd John Wyn Williams: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi’r fenter wych hon gan y Cynghorydd Steve Collings, yn ystod pandemig Covid-19. Mae'n gwbl hanfodol nad yw trigolion Bangor yn cael eu hamddifadu ymhellach yn ystod yr amser heriol hwn. Mae’r Cyngor Dinas hefyd wedi cefnogi mentrau eraill i gynorthwyo pobl leol yn ystod yr argyfwng.
“Rydym eisoes yn ymwybodol o’r ymrwymiad y mae’r Cynghorydd Collings a’i gyd-Gynghorwyr Plaid Cymru wedi eu harddangos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth iddynt drefnu a rhannu bwyd am ddim i deuluoedd bregus, sy’n methu cael dau ben llinyn ynghyd. Mae'n adlewyrchiad trist iawn o'n cymdeithas bod llywodraethau Torïaidd a Llafur yn gadael unigolion a theuluoedd i deimlo'n ynysig, heb gefnogaeth.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r Cynghorydd Collings a’i gyd-gynghorwyr dinas Bangor i gyrraedd yr unigolion hynny sydd angen ein gofal a’n cefnogaeth. Mae'r Cynghorydd Steve Collings yn llwyr haeddu diolchgarwch y ddinas gyfan am ei waith clodwiw – diolch Steve!”
I archebu dosbarthiad pecyn bwyd brys, anfonwch eich cyfeiriad cartref trwy DECST at: 07436 530217
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter