Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru Gwynedd: “Mae gwaith caled a thrafodaethau wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni ers rhai misoedd bellach i drafod y ffordd ymlaen gyda’r trafferthion parhaus sy’n wynebu pobl leol, busnesau, gweithwyr ac ymwelwyr ar rwydwaith ffordd ardal Llanbedr ym Meirionnydd, ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i roi stop ar ddatblygu ffordd newydd yn yr ardal (1 Tachwedd 2021).
“Yn dilyn trafodaethau, dan arweiniad Plaid Cymru Gwynedd, mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi bod yn paratoi cais am arian Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) i Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datblygu pecyn o welliannau, dan yr enw: Coridor Gwyrdd Ardudwy. Bydd elfennau teithio gwyrdd a theithio llesol yn greiddiol i’r cais yma.
“Bwriad cynllun Coridor Gwyrdd Ardudwy yw cyflwyno cais, am oddeutu £40 miliwn, i’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer pecyn o fesurau, sy’n cynnwys adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr. Bydd yr elfen yma o’r prosiect hefyd yn cynnwys mynediad newydd i safle’r maes awyr presennol (yn llun uchod),” meddai’r arweinydd.
Byddai’r cynllun yn dod a budd sylweddol i ardal eang o Feirionnydd ac yn cynnwys pecyn o welliannau, i hyrwyddo teithio llesol a theithio gwyrdd, gan gynnwys:
- cerdded a beicio yn ddiogel ym mhentref Llanbedr;
- gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus drwy ddatblygu safleoedd bws a chysylltiadau rheilffordd addas;
- gosod gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd y ffordd.
“Dechrau’r broses yw hon, ac mae taith hir o’n blaenau. Ond gyda’r ewyllys gwleidyddol, rydym yn benderfynol o roi o’n gorau dros drigolion lleol,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
Bydd adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar y 19 o Orffennaf.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter