“Fel aelodau etholedig sy’n cynrychioli trigolion yr ardal leol, mae’r hyn sydd wedi ei honni ar raglen BBC Wales Investigates yn fater o ofid gwirioneddol i ni.
Hoffem gymryd y cyfle i nodi, unwaith eto, ein cydymdeimlad diffuant â dioddefwyr y troseddwr rhyw Neil Foden, a mynegi ein cefnogaeth lwyr ohonynt.
Rydym felly yn ail-adrodd ein galwad, a wnaed yn wreiddiol ar y 1 o Orffennaf 2024, ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus lawn i gyfnod Neil Foden fel pennaeth ac athro yng Ngwynedd, ac am adolygiad annibynnol o brosesau’r Cyngor - mae’n rhaid deall yn union beth aeth o’i le er mwyn dysgu gwersi, ac mae’n rhaid gwneud hynny ar fyrder.”
Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd;
Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru;
Aelodau Senedd Plaid Cymru, Siân Gwenllian, Arfon a Mabon ap Gwynfor, Dwyfor Meirionnydd;
Liz Saville Roberts Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter