Dathliadau wrth i randir cymunedol Bangor sicrhau cyllid a dechrau’r gwaith

Mae Plaid Cymru Bangor yn dathlu bod rhandir cymunedol, gardd a pherllan yn Nantporth ger cae pêl-droed y ddinas wedi sicrhau cyllid i gam nesaf ei ddatblygiad, sy’n digwydd y penwythnos hwn (29 Tachwedd 2020)

[Llun o Gynghorwyr Plaid Cymru Bangor gyda chynrychiolwyr o Rhandiroedd Nantporth Allotments ar y safle]

Sicrhawyd dros £10,000 gan Lywodraeth Cymru i greu perllan gymunedol ac o leiaf 30 o randiroedd unigol i’r gymuned leol dyfu bwyd ffres, ar garreg eu drws.

Derbyniodd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi creu 25 o berllannau cymunedol newydd ledled Cymru, gyda safle Bangor yn un o’r buddianwyr allweddol.

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r gymuned, yn enwedig gan fod y gwirfoddolwyr o Randiroedd Nantporth, gyda chymorth gennym ni fel Cynghorwyr, wedi gwneud cais am nifer o gyllidebau ariannu, heb lwyddiant yn y gorffennol,” meddai Cynghorydd Ward Menai, Mair Rowlands.

“Mae hi wedi bod yn daith hir ceisio gwthio’r datblygiad yma yn ei flaen, ac rydym bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig, lle byddwn yn gweld gweithredu a chynnydd yn digwydd ar y safle,” esboniodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli trigolion y Glyder ar Gyngor Gwynedd.

(Llun: Cynghrowyr Mair Rowlands, Ward Menai ac Elin Walker Jones, Ward Glyder yn Nantporth]

Derbyniodd Rhandiroedd Nantporth Allotments CIO (a ffurfiwyd gan grŵp cymunedol o’r enw Tyfu) ganiatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd perchennog y safle, yn dilyn apêl codi arian llwyddiannus ymhlith cefnogwyr y grŵp. Mae'r awdurdod lleol wedi cytuno i ddarparu'r brydles ar gyfer y cyn dir amaethyddol ar Ffordd Caergybi i Randiroedd Nantporth.

Mae’r gwaith o baratoi'r safle wedi dechrau, gan gynnwys creu ardaloedd penodol i baratoi’r tir a phlannu. Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i gymryd rhan a chynorthwyo gyda'r gwaith o blannu coed a gwrychoedd gan gadw at fesurau ymbellhau corfforol. Bydd y sesiwn cyntaf yn digwydd y penwythnos hwn, dydd Sul 29 o Dachwedd.

I rheiny sydd â diddordeb, mae angen archebu lle er mwyn cadw o fewn y niferoedd a ganiateir, mae’r wybodaeth llawn ar gael yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/plannu-perllannau-nantporth-orchard-planting-tickets-128791088613

Mae’r gwaith, gaiff ei ariannu gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, yn cynnwys prynu coed ffrwythau, planhigion ar gyfer creu gwrychoedd, sied bwrpasol i storio offer ynghyd â thoiled compost sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Yn ôl Gwen Thomas, aelod o’r pwyllgor sydd wedi bod yn allweddol wrth symud y prosiect yn ei flaen: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y cyllid bellach yn ei le, a bod y gwaith yn cael cychwyn ar y rhandiroedd. Mae’r gwaith rydym wedi ei wneud gyda’r cynllun wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd ac mae awydd gwirioneddol am lecyn gwyrdd lle gall pobl gymdeithasu o bell, ymarfer corff yn yr awyr iach a thyfu bwyd cynaliadwy.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Cynghorwyr Mair Rowlands ac Elin Walker Jones am eu cefnogaeth dros nifer o flynyddoedd ac i’r Cynghorydd Catrin Wager sydd wedi gyrru’r gwaith gyda Chyngor Gwynedd yn ei flaen i gadarnhau’r brydles ar gyfer y tir.”

Dywedodd Lisa Mundle, Cyfarwyddwr Rhandiroedd Nantporth Allotments: “Dwi mor falch ac mor gyffrous bod y freuddwyd hon bellach yn dod yn realiti ar ôl yr holl flynyddoedd. Dwi’n sicr y bydd yn lleoliad all wella gwytnwch ein cymuned leol yn fawr, o gofio’r profiadau rydym wedi eu profi dros y misoedd diwethaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb ar y pwyllgor am eu dyfalbarhad gyda’r prosiect, ein cefnogwyr yn y gymuned leol a’n cynghorwyr lleol. Hebddynt, byddai llawer o’r rhwystrau wedi ymddangos yn anorchfygol. Diolch i chi gyd!”

“Mae'r pandemig hwn wedi dangos i ni bod plannu a thyfu yn ein gerddi wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles pobl yn ystod cyfyngiadau Covid19,” meddai’r Cynghorydd Mair Rowlands.

“Mae gweithio yn yr awyr agored, wedi eich amgylchynu gan blanhigion, blodau a bywyd gwyllt â buddion tymor hir go iawn i deuluoedd ac unigolion.”

Dywedodd Sarah Collick o Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol: “Fel elusen sy’n tyfu yn y gymuned ledled y Deyrnas Gyfunol, rydym yn falch iawn o gefnogi’r grŵp yn Nantporth. Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi mwy o safleoedd rhandiroedd newydd yn ardal Gwynedd, yn ogystal â Wrecsam ac Abertawe. Cyhoeddwyd manylion cynllun grant bychan yn ddiweddar, felly rydym yn annog pobl i ymweld â'n gwefan i gael mwy o wybodaeth.”

Yn ôl y Cynghorydd Catrin Wager, Ward Menai: “Roedd dros 100 yn dangos diddordeb mewn bachu rhandir pan gychwynnodd y prosiect, ac mae unigolion wedi cyfrannu’n ariannol i’r datblygiad sy’n dangos pa mor gryf yw’r gefnogaeth yn lleol.

“Nawr bod y darnau yn eu lle, a’r gwaith yn cychwyn ar y cynllun gwych yma, mi ddaw a buddion amgylcheddol a chymdeithasol i bobl Bangor a thu hwnt.”

Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones: “Yma ym Mangor, dinas brysur, prin iawn yw'r lleoedd cymunedol gwyrdd. Bydd creu'r ardal hon lle gall pobl ddychwelyd i weithio'r pridd, tyfu bwyd, denu bywyd gwyllt a chynllunio perllan gymunedol lle gall pobl ddod i eistedd ac ymlacio, yn arwain at lawer o fuddion. Rydym yn edrych ymlaen at weld camau cyntaf y prosiect cyffrous hwn yn dwyn ffrwyth.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Ffion Clwyd Edwards
    published this page in Newyddion 2020-11-23 17:05:56 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns